Arweinyddiaeth a Rheolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5 - Cymhwyster
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ac mae ar gyfer y rhai sydd â phrofiad mewn rôl arweinyddiaeth a rheolaeth o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ac sy’n bodloni gofynion rheoliadol ychwanegol sy’n berthnasol mewn rhai lleoliadau gwaith.
Bydd dysgwyr yn datblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, yr ymddygiadau a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r cymhwyster yn addas i ddysgwyr sydd:
Yn ystyried arddangos y cymwyseddau a nodwyd yn y cymhwyster fel rhan o’u rôl, ac sy’n bodloni unrhyw reoliadau lleiafswm oedran a osodwyd
Wedi cwblhau cymhwyster Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 4 priodol, ac sydd â’r cyfle i roi theori ar waith a bodloni unrhyw ofynion rheoliadol ychwanegol
Gwybodaeth allweddol
Rhaid bod dysgwyr yn 18+ oed, ac mae disgwyl iddynt fod yn hyfedr wrth ddefnyddio cyfrifiadur a rhaglenni cysylltiedig, gan y byddant yn defnyddio system portffolio electronig drwy gydol y cymhwyster.
Bydd yr holl ddarpar ddysgwyr yn cael asesiad/cyfarfod cychwynnol i drafod y cymhwyster a disgwyliadau’r cwrs gyda’r hyfforddwr/aseswr, a fydd yn rhoi cymorth ar gyfer yr asesiad.
Bydd yr aseswr mewnol yn cynorthwyo’r dysgwr i ddarparu tystiolaeth fydd yn llywio penderfyniad yr aseswr allanol. Bydd yr aseswr mewnol yn gyfrifol am gadarnhau dilysrwydd prosiect busnes a chynllun prosiect yr ymgeisydd o ran darparu digon o dystiolaeth asesu, a chynnal o leiaf ddwy sesiwn arsylwi o’r ymgeisydd yn gweithredu ei brosiect. Bydd yr aseswr mewnol hefyd yn cynorthwyo’r ymgeisydd i ddarparu tystiolaeth o fewn ei bortffolio, a darparu sesiynau arsylwi a thystebau ychwanegol pan fo’n briodol.
Caiff y cymhwyster ei asesu gan aseswr allanol sy’n gyflogedig gan gorff dyfarnu City & Guilds.
Rhaid i ddysgwyr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:
- Portffolio o dystiolaeth
- Prosiect busnes
- Trafodaeth broffesiynol
Unedau
Er mwyn ennill y cymhwyster, rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 120 credyd:
- Rhaid cyflawni 20 credyd o’r Grŵp A gorfodol:
- Arwain a rheoli ymarfer sy’n canolbwyntio ar unigolyn/blentyn
- Neu arwain a rheoli ymarfer sy’n canolbwyntio ar unigolyn/blentyn trwy eiriolaeth annibynnol
- Rhaid cyflawni 70 credyd o’r Grŵp B gorfodol
- Rhaid cyflawni o leiaf 30 credyd o’r grŵp dewisol
Dyma unedau gorfodol y cymhwyster hwn:
- Arwain a rheoli ymarfer sy’n canolbwyntio ar unigolyn/blentyn
- Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
- Arwain a rheoli ansawdd darpariaeth y gwasanaeth er mwyn bodloni gofynion deddfwriaethol, rheoliadol a sefydliadol
- Ymarfer proffesiynol
- Arwain a rheoli ymarfer sy’n hyrwyddo diogelu unigolion
- Arwain a rheoli iechyd a diogelwch yn y gweithle/lleoliad
Mae amrywiaeth o unedau dewisol ar gael yn y cymhwyster hwn hefyd.
Mae’r cymhwyster yn rhoi modd i ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i gyflogaeth neu astudio ymhellach ar lefel uwch.