Skip to main content

Gradd Sylfaen Ymarfer Datblygiad Plentyndod (Cwrs gyda’r hwyr)

Amser-llawn
Lefel 4/5
UoWTSD
Tycoch
Dwy flynedd

Ffôn: 01792 284098   E-bost: he@gcs.ac.uk

Trosolwg

Corff llywodraethu: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Logo Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sydd am ennill cymhwyster ffurfiol sy’n cyfuno gweithgareddau seiliedig ar waith ac astudio academaidd. Mae’r radd gan mwyaf yn seiliedig ar waith.

Bydd yr asesiad yn seiliedig ar aseiniadau ysgrifenedig ac arfer a arsylwyd yn yr ystafell ddosbarth.

Cod UCAS: 5G12

Gwybodaeth allweddol

Cymhwyster Lefel 3 cysylltiedig gyda sgiliau llythrennedd a rhifedd da, yn ddelfrydol gyda gradd C neu gyfwerth mewn TGAU Saesneg a Mathemateg.

Yn ystod y cwrs, bydd gofyn i chi ymgymryd ag o leiaf 300 awr o ddysgu yn y gwaith bob blwyddyn (h.y. gweithio gyda phlant neu bobl ifanc 0-18 oed mewn ysgol, meithrinfa, gofal tymhorol, grwpiau dechrau’n deg, ysgolion cyfun neu addysg bellach.) 

Addysgir y cwrs dros ddwy flynedd academaidd. Ym Mlwyddyn 1, byddwch yn dod i’r Coleg bob nos Fawrth (3.30pm-9pm) a bob nos Iau (3.30pm-9pm.)

Modiwlau

Blwyddyn gyntaf - Lefel 4

  • sgiliau academaidd i fyfyrwyr
  • damcaniaethau a datblygiad
  • ymarfer seiliedig ar waith mewn gwasanaethau plant a phobl ifanc
  • diogelu plant a phobl ifanc
  • iechyd a lles plant a phobl ifanc
  • gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd: egwyddorion.

Ail flwyddyn - Lefel 5

  • amlieithrwydd, aml-feddwl
  • plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol: cynhwysiant
  • ymarfer seiliedig ar waith uwch mewn gwasanaethau plant a phobl ifanc
  • dulliau ymchwil mewn addysg a gofal
  • arwain gwaith mewn gwasanaethau plant a phobl ifanc
  • y cyfryngau a llythrennedd digidol.

Ar ôl graddio, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i symud ymlaen i flwyddyn olaf y cwrs BA (Anrh.) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Costau’r cwrs

Y ffioedd dysgu yw £9,000* y flwyddyn. 

Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26, bydd rhaid i fyfyrwyr gael benthyciad ffioedd dysgu am y swm llawn. Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 y flwyddyn tuag at gyrsiau AU amser llawn sy’n dechrau ym mis Medi 2020 (mae hyn yn dibynnu ar ddilyniant boddhaol ar y cwrs).

I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Ffioedd ychwanegol

Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn, h.y.:

  • Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
  • Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
  • Argraffu a rhwymo
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio.
  • £49.50 am wiriad DBS ar gyfer yr elfennau lleoliad o’r cwrs.

Achredu Dysgu Blaenorol (APL)

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS.

Rydym yn awyddus i ystyried ceisiadau yn seiliedig ar gydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol. Os ydych yn sylweddoli, adeg gwneud cais, eich bod wedi cwblhau rhan o’r dysgu mewn sefydlaid arall ac mae gennych ardystiad ar gyfer y dysgu hwn rhowch wybod i’r Swyddfa Dderbyn.

* Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan PCDDS i gael rhagor o wybodaeth.