Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori Lefel 3
Trosolwg
Mae’r cwrs Lefel 3 hwn, a addysgir ar Gampws Tycoch neu Gampws Gorseinon, ar gyfer unigolion a hoffai weithio gyda phlant a dilyn gyrfaoedd mewn gofal plant, addysg blynyddoedd cynnar, neu feysydd cysylltiedig.
Byddwch yn ennill profiad ymarferol mewn lleoliadau fel meithrinfeydd dydd, lle byddwch yn adeiladu portffolio a chael eich arsylwi gan eich aseswr.
Mae’r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth cyffrous, megis gweithio fel cynorthwyydd addysgu neu mewn meithrinfa ddydd. Mae hefyd yn darparu sylfaen gref ar gyfer graddau prifysgol mewn meysydd fel addysgu, gwaith meithrinfa, blynyddoedd cynnar, therapi chwarae, neu waith cymdeithasol. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth i ddilyn y llwybrau gyrfa hyn ac ehangu eich addysg.
Gwybodaeth allweddol
- Pum gradd C neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg Iaith
- Neu gwblhau’r cwrs Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 yn llwyddiannus, gydag adroddiad tiwtor cadarnhaol.
- Amser llawn, dwy flynedd
- Rhannu’r wythnos – mewn lleoliad a phresenoldeb yn y Coleg
- Wythnosau cyfan mewn lleoliad
- Mae asesiadau’n cynnwys arsylwadau yn y lleoliad gwaith ac asesiadau ysgrifenedig wedi’u gosod gan CBAC.
Bydd pasio’r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster sy’n rhoi modd i chi symud ymlaen i’r brifysgol neu fyd gwaith. Mae cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys gweithio mewn meithrinfa ddydd neu fel cynorthwyydd addysgu. Mae cyfleoedd prifysgol yn cynnwys astudio addysgu, nyrsio, gradd blynyddoedd cynnar, therapi chwarae neu waith cymdeithasol.
- Fel rhan o’r cwrs hwn, byddwch chi hefyd yn astudio Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd (Lefel 2).
- Mae gwiriad DBS (tua £40) yn ofynnol cyn dechrau’ch lleoliad
- Byddwn ni’n eich helpu i ddod o hyd i leoliad addas.