Skip to main content

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 1 - Diploma Rhagarweiniol Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 1
BTEC Certificate
Tycoch
Un flwyddyn
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Ar y cwrs blwyddyn hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu cysyniadau sylfaenol iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys bod yn drefnus, gwneud byrbrydau iach, trefnu a rhedeg digwyddiadau iechyd.

Bydd myfyrwyr hefyd yn creu gweithgareddau i blant ac yn gwybod am greu amgylchedd diogel. Trwy brofiad gwaith ymarferol, bydd myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol i ddatblygu’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Amcanion y cwrs:

  • Deall y sgiliau a’r rhinweddau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Datblygu’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Ysgrifennu aseiniadau a dangos ymwybyddiaeth o amrywiaeth o bynciau Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyfredol.

Canlyniadau’r cwrs:

  • Bydd myfyrwyr yn gallu profi rôl gofalwr mewn canolfannau dydd, cartrefi gofal ac ysgolion
  • Bydd myfyrwyr yn gallu dangos rhinweddau gofalu
  • Bydd myfyrwyr yn gallu trefnu eu hunain a chwblhau aseiniadau sy’n dangos eu gwybodaeth o ofal.

Gwybodaeth allweddol

Rhai cymwysterau ar Lefel Mynediad 3 neu radd E mewn TGAU Saesneg Iaith a gradd C mewn pwnc arall.

Dros bedwar diwrnod yr wythnos 9am-4pm.

Asesu:

Cyfuniad o astudiaethau achos ac un holiadur amlddewis (arholiad)

Meini prawf graddio:

Pasio neu Fethu

Yn y Coleg, gallech chi symud ymlaen i’r cwrs Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Egwyddorion a Chyd-destun.

Bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau cais y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar ddechrau eu cwrs. Mae’n costio tua £40.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.