Skip to main content
 

Coleg yn croesawu Julie James AS i’w Hwb Gwyrdd

Mae’r tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cael blwyddyn anhygoel.

Yn ôl ym mis Mai, cafodd eu cyfleuster Hwb Gwyrdd newydd sbon – sy’n cynnwys ystafelloedd gwaith, gweithdai celf, pwll, twnnel tyfu a pherllan – ei lansio’n swyddogol gan Iolo Williams.

Yn ystod yr haf, cafodd y tîm eu cydnabod gyda Gwobr Arian am Dîm AB y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson. Yn ogystal, cyrhaeddon nhw’r rownd derfynol yng nghategori Ymgysylltiad Dysgwyr mewn Ysgol/Coleg yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.

Yna, ym mis Tachwedd, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mai Coleg Gŵyr Abertawe fydd un o’r 49 o sefydliadau ledled y DU i dderbyn coeden ifanc o goeden annwyl y Sycamore Gap.

Ar ddiwedd y flwyddyn, cafwyd ymweliad arbennig gan Julia James AoS, Y Darpar Gwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, yn ogystal ag Owen Derbyshire, Prif Swyddog Gweithredol Cadw Cymru’n Daclus.

Mae Hwb Gwyrdd y Coleg wedi elwa ar gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cadw Cymru’n Daclus, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n ymrwymedig i greu, adfer a hybu natur ‘ar eich carreg drws’.

“Roedd hi’n wych croesawu’r Gweinidog ac Owen i Goleg Gŵyr Abertawe i ddangos ein cyfleuster rhagorol newydd iddyn nhw,” meddai’r Pennaeth Kelly Fountain. “Roedd ein myfyrwyr yn falch iawn o ddangos y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud bob dydd, ac ym mhob tywydd. Mae’r Hwb Gwyrdd yn ysbrydoli ac yn denu diddordeb ein dysgwyr, gan roi ymdeimlad go iawn o gymuned iddyn nhw a chyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol ardderchog. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru a Chadw Cymru’n Daclus am eu cefnogaeth barhaus.”