Skip to main content
Annog pobl ifanc i rannu eu barn am ddyfodol addysg bellach

Annog pobl ifanc i rannu eu barn am ddyfodol addysg bellach

Yn ddiweddar, fe aeth dau gynrychiolydd o Goleg Gŵyr Abertawe i ddigwyddiad Grŵp Trawsbleidiol ar Addysg Bellach a Sgiliau, dan ofal ColegauCymru yng Nghymru.

Fe wnaeth pobl ifanc o golegau ledled Cymru gwrdd ag Aelodau o’r Senedd o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol yn ogystal ag arweinwyr sector yng nghyfarfod olaf y Grŵp Trawsbleidiol y tymor Senedd hwn. Archwiliwyd cyfranogiad ôl-16 a phrofiadau dysgwyr wrth iddynt lywio trwy dirwedd addysg drydyddol esblygol Cymru.  

Roedd y grŵp y cynnwys dysgwyr sy’n astudio amrywiaeth o bynciau a lefelau fel weldio, e-Chwaraeon, gwasanaethau bwyty a Safon Uwch ac fe deithion nhw i Fae Caerdydd i rannu eu safbwyntiau ar fynediad, cyngor ac arweiniad annibynnol, lles, ymgysylltu â chyflogwyr, a’r rhwystrau a’r cyfleoedd sy’n siapio eu teithiau AB. 

Bydd eu cyfraniadau yn goleuo gwaith parhaus ColegauCymru er mwyn siapio penderfyniadau Llywodraeth Cymru am addysg drydyddol yn y dyfodol.   

Ymysg y bobl ifanc oedd yn chwarae rhan roedd Cole Brydson a Rose Wahbi o Goleg Gŵyr Abertawe. Mae’r ddau yn aelodau gweithgar o Undeb Myfyrwyr y Coleg – cafodd Rose ei hethol yn Llywydd yn 2025 – ac maen nhw’n rhan o Fwrdd Corfforaeth y Coleg, fel Myfyrwyr-lywodraethwyr.

Mae Cole yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Astudiaethau Busnes, Economeg a Thechnoleg Ddigidol ochr yn ochr â Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Cafodd ei enwi yn Economegydd Ifanc Cymreig y Flwyddyn gan Discover Economics yn 2025.

“Roedd yn gyfle gwych i ymuno â phanel o fyfyrwyr ochr yn ochr â dysgwyr o bob cwr o Gymru, lle trafodon ni amrywiol rwystrau i addysg ôl-16 a sut i’w goresgyn,” meddai Cole. “Wnes i roi fy marn am wella mynediad cyfartal at gyfleoedd mewn colegau - rhywbeth dwi’n ceisio ei wella fel Myfyriwr-lywodraethwr – gan fabwysiadu arferion dysgu hyblyg i wella presenoldeb, a darparu adnoddau digonol i bob darparwr addysg bellach, yn enwedig y chweched dosbarth mewn ysgolion.

“Er mwyn gwneud cynnydd o ran cyfranogiad ac ansawdd addysg ôl-16, mae dysgwyr presennol yn rhan allweddol o’r sgwrs, felly dwi’n ddiolchgar iawn fy mod wedi cael fy ngwahodd i’r digwyddiad hwn. Roeddwn i hefyd wrth fy modd yn cael cynnig profiad gwaith gyda Thîm Economi Plaid Cymru a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at y profiad!”

Graddiodd Rose o’r Coleg yn 2025 ar ôl astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Bioleg, Cemeg, Economeg, Ffiseg a Mathemateg. Cadeiriodd hi’r Panel Dysgwyr ar y diwrnod a oedd yn cynnwys myfyrwyr o Goleg Sir Benfro, Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Sir Gâr, Coleg Caerdydd a’r Fro, a Choleg Cambria.

“Trafodon ni amrywiaeth o bynciau gan gynnwys mynediad teg at gyngor ac arweiniad, y rhwystrau ariannol ac ymarferol i gyfranogiad, ymgysylltu â chyflogwyr a phrofiad o fyd diwydiant, lles a chymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol, ehangu mynediad i ddysgwyr o gefndiroedd amrywiol, a darpariaeth ddysgu fwy hyblyg,” meddai Rose.

“Mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd Addysg Bellach, gan ei bod yn cael effaith fawr ar ddyfodol economi Cymru. Pan fydd myfyrwyr a phobl ifanc wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, gallwn ni sicrhau bod penderfyniadau’n cael effaith ar genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.”

Wrth fyfyrio ar y diwrnod, dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Lisa Thomas,

“Fe wnaeth y cyfarfod ddangos yn union pam mae llais y dysgwr yn bwysig. Mae clywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc - am eu huchelgeisiau, eu heriau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol - yn ein hatgoffa bod rhaid i’w profiadau fod yn ganolog i’r penderfyniadau a wnawn am addysg ôl-16.”

Roedd y cyfarfod hwn yn foment arwyddocaol, gan mai dyma oedd y Grŵp Trawsbleidiol olaf dan gadeiryddiaeth John Griffiths AS, a fydd yn camu i lawr o’r rôl ar ôl blynyddoedd lawer o gefnogaeth ac arweinyddiaeth o fewn yr agenda Addysg Bellach a Sgiliau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan ColegauCymru.

Lluniau: ColegauCymru