Adeiladu Tirlun a Garddio Lefel 1 - Diploma
Trosolwg
Paratowch i balu i fyd cyffrous tirlunio!
Bwriedir y cwrs hwn i’r rhai sy’n mwynhau bod y tu allan i’r ystafell ddosbarth a chael eu dwylo’n frwnt. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau bywyd go iawn ar y safle ac oddi ar y safle e.e. Cwrs Golff Pennard, Coedwig Penllergaer, Parc Singleton.
Byddwch yn:
- Darganfod yr hanfodion y tu ôl i greu lleoedd awyr agored hardd
- Cael profiad ymarferol o adeiladu llwybrau, waliau, patios, a hyd yn oed ffensys terfyn i drawsnewid mannau awyr agored yn llwyr
- Darganfod cyfrinachau tyfu a gofalu am blanhigion a llysiau
- Dysgu i ddewis y planhigion perffaith ar gyfer lleoliadau gwahanol ac ennill sgiliau hanfodol ar gyfer cynnal gardd llawn bywyd
- Dod yn fedrus wrth ddefnyddio offer a chyfarpar i wireddu’ch gweledigaethau tirlunio. Byddwn ni’n eich addysgu sut i’w trin yn ddiogel ac yn effeithiol
- Cael cyfle i weithio gyda chwsmeriaid trwy brosiectau cymunedol, ffeiriau gwyrdd, a digwyddiadau tymhorol.
Gwybodaeth allweddol
- Nid oes angen cymwysterau ffurfiol.
Tri diwrnod yr wythnos am flwyddyn.
Asesu:
- Arsylwi perfformiad ymarferol
- Portffolio o dystiolaeth ffotograffig
Meini Prawf Graddio:
- Pasio
Cyfleoedd i symud ymlaen i gymwysterau Diploma Lefel 2 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol.
Bydd gofyn i chi ddarparu a gwisgo esgidiau diogelwch, trwser gwaith, dillad diddos.
Bydd y Coleg yn darparu menig, sbectol diogelwch, amddiffynwyr clustiau a’r holl offer a chyfarpar.