Skip to main content
Mark Drakeford

Myfyrwyr Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn cwrdd â’r Prif Weinidog

Fe wnaeth myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe groesawu ymwelydd arbennig iawn yn ddiweddar – Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Daeth tua 60 o fyfyrwyr, y mwyafrif helaeth ohonynt yn astudio ar y cwrs Safon Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, ynghyd ar Gampws Gorseinon i glywed y Prif Weinidog yn rhoi anerchiad hynod ddiddorol am ei fywyd mewn gwleidyddiaeth.

“Dyma gyfle anhygoel i’n dysgwyr glywed yn uniongyrchol gan y Prif Weinidog am ei lwybr gyrfa a rhai o’i brofiadau yn ystod ei gyfnod yn y swydd,” meddai Arweinydd y Cwricwlwm, Scott Evans.

“Gweithiodd y myfyrwyr mewn grwpiau ymlaen llaw i feddwl am bynciau trafod perthnasol iawn megis diwygio’r Senedd, cysylltiadau Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU, a sut i gael mwy o bobl ifanc i ymddiddori yn y broses bleidleisio ddemocrataidd.

“Wnaethon nhw hefyd ofyn i Mr Drakeford am y pwysau ynghylch gwneud penderfyniadau mawr fel Prif Weinidog, a oedd ganddo unrhyw edifeirwch gwleidyddol, a pha gyngor gwleidyddol y byddai’n ei roi i’w olynwyr.”

Syniad myfyriwr Llywodraeth a Gwleidyddiaeth oedd y digwyddiad i ddechrau wedi iddo gysylltu â swyddfa’r Prif Weinidog gyda chais am ymweliad.

“Roedd y myfyrwyr wrth eu boddau o gael ymateb i’w cais – wnaethon nhw byth dychmygu y byddai’r Prif Weinidog yn cymryd amser o’i amserlen brysur i ymweld â nhw ac ateb eu cwestiynau,” meddai Scott. “Rydyn ni mor ddiolchgar i Mr. Drakeford am ymweld â ni heddiw, am wrando ar ein cwestiynau ac am roi profiad go iawn i’r myfyrwyr ei gofio.”

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Roeddwn i’n wirioneddol ddiolchgar i’r myfyrwyr a’r staff yng Ngholeg Gŵyr Abertawe am y gwahoddiad i ddod i siarad â nhw. Mae’r myfyrwyr yn hyddysg iawn yn yr heriau gwleidyddol mwyaf rydyn ni’n eu hwynebu ar hyn o bryd, yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac roedd yn drafodaeth dda iawn. Pwy a ŵyr, efallai fi mod i wedi siarad ag un o Brif Weinidogion y dyfodol! Dwi’n dymuno’r gorau i’r myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ar gyfer gweddill eu cwrs a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.”