Skip to main content

Sgiliau ar gyfer Bywyd ESOL Mynediad 1 (Lefel Mynediad)

Amser-llawn, Rhan-amser
Lefel Mynediad
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ehangu eu sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.

Addysgir Saesneg defnyddiol mewn sefyllfaoedd realistig gan roi cyfle i’r myfyriwr ddysgu ac ymarfer iaith mewn bywyd pob dydd.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes rhaid i fyfyrwyr feddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol ond rhaid i fyfyrwyr fod ag awydd i weithio, gallu teithio’n annibynnol a bod ag ymagwedd frwdfrydig at weithio mewn tîm.

Nid oes angen llawer iawn o wybodaeth weithredol o’r iaith Saesneg.

Rhan-amser neu amser llawn.

Gall y cymhwyster hwn arwain at Sgiliau ar gyfer Bywyd Mynediad 2.

Mae ein cyrsiau newydd yn dechrau ym mis Medi. Byddwn yn asesu’r holl fyfyrwyr newydd cyn eu rhoi ar y cwrs iawn. E-bostiwch ni yn esol@gcs.ac.uk neu ffoniwch ni ar 01792 284021 i ymuno â’n cyrsiau.