Seicoleg Gymhwysol Lefel 3 - Tystysgrif Estynedig
Trosolwg
Seicoleg yw’r astudiaeth wyddonol o’r meddwl ac ymddygiad dynol. Trwy gydol y cwrs, byddwch yn ymchwilio i amrywiol ddamcaniaethau seicolegol, cysyniadau, a dulliau ymchwilio ymarferol. Trwy astudio senarios bywyd go iawn a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol rhyngweithiol, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o’r ffactorau sy’n llywio ymddygiad dynol a’r effaith a gânt ar unigolion a chymdeithas.
Amcanion y Cwrs:
- Datblygu gwybodaeth ynghylch sut mae dulliau seicolegol yn egluro ymddygiad
- Deall y broses wyddonol o ymchwilio o’r cysyniad i’r diwedd
- Archwilio sut mae ymddygiad a dewisiadau ffordd o fyw yn effeithio ar iechyd a lles, fel camddefnyddio alcohol, ysmygu a gamblo
- Cael mewnwelediad i wahanol esboniadau am droseddoldeb a dadansoddi triniaethau posibl.
Canlyniadau’r Cwrs:
- Cymhwyso eich gwybodaeth i senarios bywyd go iawn, gan gynnwys ymddygiad ymosodol, hysbysebu a rhywedd
- Cynllunio, paratoi a chwblhau eich astudiaeth ymchwil eich hun
- Egluro pam mae unigolion yn ymddwyn mewn ffordd sy’n effeithio ar iechyd ac ymddygiad troseddol ac atebion posibl.
Gwybodaeth allweddol
- Saith gradd C neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith a Gwyddoniaeth.
- Mae diddordeb brwd mewn ymddygiad dynol, sgiliau dadansoddi cryf, a galluoedd cyfathrebu ysgrifenedig a geiriol yn hanfodol.
- Does dim angen gwybodaeth flaenorol o seicoleg, gan y bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn y pwnc.
Asesu:
Blwyddyn 1:
Dulliau a Chymwysiadau Seicolegol – Arholiad a asesir yn allanol
Cynnal Gwaith Ymchwil Seicolegol – Tri aseiniad a asesir yn fewnol
Meini Prawf Graddio:
- Arholiad: 50%
- Aseiniadau: 50%
Blwyddyn 2:
Seicoleg Iechyd – Arholiad a asesir yn allanol
Seicoleg Droseddol a Fforensig – Tri aseiniad a asesir yn fewnol
Meini Prawf Graddio:
- Arholiad: 50%
- Aseiniadau: 50%
Mae cwblhau cwrs BTEC Seicoleg Gymhwysol yn agor llwybrau cyffrous ar gyfer astudiaethau pellach a gyrfaoedd yn y dyfodol. Gyda sylfaen gadarn mewn seicoleg, gallwch ddilyn astudiaethau pellach mewn cyrsiau addysg uwch fel gradd Baglor mewn Seicoleg neu feysydd cysylltiedig. Mae’r cymhwyster hwn hefyd yn agor y drws i amrywiaeth o yrfaoedd lle mae deall ymddygiad dynol yn cael ei werthfawrogi, gan gynnwys cwnsela, gwaith cymdeithasol, ymchwil marchnata, ac adnoddau dynol.
Yn ogystal, mae’r cwrs hwn yn gwella’r sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr, fel meddwl yn feirniadol, datrys problemau, ymchwil a sgiliau cyfathrebu. Bydd yr wybodaeth a’r galluoedd a enillwyd trwy’r cwrs BTEC Seicoleg Gymhwysol yn eich grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus a ffynnu mewn amrywiaeth o leoliadau academaidd a phroffesiynol.