Skip to main content

Safon Uwch Seicoleg

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Yn y cwrs hwn, byddwch yn archwilio ymddygiad a meddwl unigolion. Byddwch yn datblygu sgiliau gan gynnwys dadansoddi beirniadol, meddwl yn annibynnol ac ymchwil. Archwiliwch ddamcaniaethau seicolegol allweddol a dulliau ymchwil yn drylwyr trwy gynnal trafodaethau dosbarth a gweithgareddau ymarferol. Byddwch yn ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o’r prif ddulliau ac astudiaethau ymchwil clasurol mewn Seicoleg. 

Meysydd astudio: 

  • Ymagweddau biolegol, ymddygiadol, seicodeinamig, gwybyddol a chadarnhaol
  • Astudiaethau ymchwil clasurol drwy e.e. Bowlby, Raine et al, Loftus a Palmer
  • Methodolegau ymchwil a dadansoddi data
  • Dadleuon mewn seicoleg
  • Esboniadau a thriniaethau o sgitsoffrenia, straen ac ymddygiad troseddol.

Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau pellach mewn seicoleg neu feysydd cysylltiedig, gan hybu eich angerdd am ddeall cymhlethdodau’r meddwl dynol.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU
  • Mae graddau B mewn TGAU Saesneg Iaith, Mathemateg a Gwyddoniaeth yn hanfodol.

Asesir y cwrs drwy arholiadau diwedd blwyddyn.

Blwyddyn 1:

  • Uned 1 – 20% Gorffennol i Bresennol
  • Uned 2 – 20% Defnyddio Cysyniadau Seicolegol.

Blwyddyn 2:

  • Uned 3 – 40% Astudio Ymddygiadau
  • Uned 4 – 20% Dulliau Ymchwil Gymhwysol.

Mae cwblhau Safon Uwch Seicoleg CBAC yn llwyddiannus yn agor drysau i nifer o gyfleoedd dilyniant gwahanol. Mae seicoleg yn ddefnyddiol ar gyfer gyrfaoedd mewn meddygaeth, cwnsela, nyrsio, addysgu, gwaith cymdeithasol, ymchwil farchnata, adnoddau dynol a llawer mwy.

Dewiswch y cwrs hwn i gael sylfaen gadarn ar gyfer eich dyfodol ym maes rhyfeddol seicoleg yn y brifysgol, ac arbenigo mewn meysydd fel seicoleg glinigol, seicoleg addysgol, neu seicoleg fforensig.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.