Skip to main content

Safon Uwch Bioleg

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Yn ystod blwyddyn 1 bydd myfyrwyr yn astudio egwyddorion sylfaenol bioleg celloedd, biocemeg a geneteg. Bydd hyn yn rhoi modd i chi astudio’r system cylchrediad gwaed a’r system resbiradol, esblygiad a maetheg yn nhymor 2.   
 
Ym mlwyddyn 2, byddwch yn astudio pynciau bioleg ddynol megis yr arennau, y system nerfol ac atgenhedlu ochr yn ochr â phynciau megis ecoleg, atgenhedlu planhigion, microbioleg a chymwysiadau geneteg.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU 
  • Gan gynnwys gradd B neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd (Haen Uwch), Saesneg, a Gwyddoniaeth Ddwbl neu Driphlyg 

Mae gwaith ymarferol yn cael ei wneud drwy gydol y cwrs mewn labordai llawn cyfarpar. Mae hyn yn rhoi modd i fyfyrwyr wella sgiliau ymarferol a dadansoddi data sy’n cael eu harholi ar ddiwedd blwyddyn 2. Yn nhymor yr haf, mae’r cwrs U2 yn dechrau gyda ffocws ar ecoleg gan roi cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gwaith maes. Addysgir y myfyrwyr gan ddau aelod o staff.  

Mae dau arholiad ar ddiwedd blwyddyn 1 yn arwain at gymhwyster UG (40% o farciau Safon Uwch) 

Mae pedwar arholiad ym mlwyddyn 2 (60% o farciau Safon Uwch) yn arwain at y cymhwyster Safon Uwch llawn. 

Mae llawer o fyfyrwyr yn defnyddio Safon Uwch Bioleg ar gyfer mynediad i feddygaeth, deintyddiaeth a milfeddygaeth. 

Mae cyrsiau gradd eraill yn cynnwys bioleg, swoleg, gwyddorau morol, biocemeg a phynciau eraill cysylltiedig ag iechyd megis fferylliaeth, gwyddorau biomeddygol, radiograffeg, optometreg a nyrsio. 

Gall graddau gwyddor fiolegol arwain at yrfa mewn ymchwil, geneteg, gwyddor fforensig ac iechyd y cyhoedd. Mae nifer o gyrsiau gradd gwyddor amgylcheddol ar gael hefyd. Mae rhai myfyrwyr yn cyfuno bioleg â phynciau eraill er mwyn astudio seicoleg, y gyfraith neu newyddiaduraeth. 

Disgwylir i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gwaith maes ac mae hyn yn cynnwys astudio sawl cynefin ar Benrhyn Gŵyr a chyfle i ystyried rheolaeth a chadwraeth. Bob blwyddyn, mae myfyrwyr blwyddyn 1 a blwyddyn 2 yn cael cyfle i gystadlu yn Olympiad Bioleg Prydain ac mae llawer ohonynt yn ennill rhagoriaeth yn y digwyddiadau hyn a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae siaradwyr allanol ar dopigau bioleg a meddygaeth yn rhoi gwybodaeth ehangach o’r pwnc.