Skip to main content

Safon Uwch Cemeg

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Mae astudio Safon UG/Uwch Cemeg yn darparu’r cam nesaf i ddeall y rhyngweithiadau rhwng defnyddiau. Bydd y rhan fwyaf o bynciau, megis adeiledd yr atom, bondio, y Tabl Cyfnodol, ynni, cyfraddau adwaith a chemeg organig, yn gyfarwydd i chi o lefel TGAU ond byddwn yn eu harchwilio’n fwy manwl yn ystod y cwrs.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU 
  • Gan gynnwys Gradd B mewn TGAU Saesneg Iaith, Mathemateg (haen uwch) a Gwyddoniaeth 

UG Uned 1  (20% o’r marciau neu 50% o’r UG yn unig) 

  • Fformiwlâu a hafaliadau
  • Syniadau sylfaenol ynghylch atomau
  • Cyfrifiadau cemegol
  • Bondio
  • Adeileddau solidau
  • Y Tabl Cyfnodol
  • Ecwilibria syml ac adweithiau asid-bas 

UG Uned 2  (20% o’r marciau neu 50% o’r UG yn unig) 

  • Thermogemeg
  • Cyfraddau adwaith
  • Effaith ehangach cemeg
  • Cyfansoddion organig
  • Hydrocarbonau
  • Halogenoalcanau
  • Alcoholau ac asidau carbocsilig
  • Defnyddio offer i ddadansoddi 

UG Unit 3  (25% o’r marciau) 

  • Rhydocs a photensial electrod safonol
  • Cemeg y bloc p
  • Cemeg y metelau trosiannol bloc d
  • Cineteg gemegol
  • Newidiadau enthalpi ar gyfer solidau a hydoddiannau
  • Entropi a dichonoldeb adweithiau
  • Cysonion ecwilibriwm
  • Ecwilibria asid-bas 

U2 Uned 4  (25% o’r marciau) 

  • Stereoisomeredd
  • Aromatigedd
  • Alcoholau a ffenolau
  • Aldehydau a chetonau
  • Asidau carbocsilig a’u deilliadau
  • Aminau
  • Asidau amino, peptidau a phroteinau
  • Synthesis organig a dadansoddi 

Uned 5 yw gwaith ymarferol sydd wedi’i gynnwys yn Unedau 1-4. (10% o’r marciau) 

Mae nifer o gyrsiau gradd cysylltiedig â chemeg ar gael, gan gynnwys Cemeg Ddadansoddol, Biocemeg, Cemeg Amgylcheddol, Cemeg Anorganig, Cemeg Organig a Chemeg Ffisegol a Pheirianneg Polymer a Chemegol. 

Mae llawer o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i astudio Meddygaeth, Deintyddiaeth, Milfeddygaeth a Fferylliaeth. 

Mae gwaith cartref, profion diwedd topig, a ffug arholiadau’n cael eu defnyddio i fonitro eich cynnydd. Bydd gennych ddau ddarlithydd bob blwyddyn. 

Wrth wneud gwaith ymarferol, darperir cotiau labordy a sbectol diogelwch i chi.  

Mae ein myfyrwyr cemeg gorau yn cystadlu yn Olympiad y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ar gyfer myfyrwyr chweched dosbarth.