Skip to main content

Safon Uwch Daeareg

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Byddwch yn astudio manyleb Safon Uwch Daeareg EDUQAS CBAC sy’n rhoi sylw cynhwysfawr i’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar gyfer astudio’r Ddaear, ei strwythurau, ei hesblygiad a’i dynameg. 

Anogir dysgwyr i ymateb i wybodaeth ddaearegol mewn sefyllfaoedd lleol a newydd yn y labordy ac yn y maes. 

Trosolwg o'r cwrs:

  • Deall egwyddorion defnyddiau o fewn y prosesau yn y gylchred greigiau 
  • Deall graddfa amser yn enwedig yng nghyd-destun tectoneg platiau 
  • Deall bywyd a hinsawdd y gorffennol yng nghylchredau naturiol y Ddaear 
  • Deall rôl daearegwyr mewn geoberyglon a rheoli adnoddau cynaliadwy.

Canlyniadau’r Cwrs:  

  • Egluro cysyniadau sylfaenol gwyddor ddaearegol a’i chymwysiadau 
  • Dadansoddi a dehongli lleoliadau daearegol o waith maes 
  • Egluro sut mae daearegwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn llwyddiant cynaliadwy’r economi a chymdeithas.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU 
  • Gan gynnwys gradd C mewn Saesneg laith a gradd B mewn Mathemateg 
  • Nid oes angen cymhwyster TGAU Daearyddiaeth neu Ddaeareg 
  • Ymrwymiad a brwdfrydedd dros ryfeddodau gwyddonol Planed y Ddaear.

4 ½ awr yr wythnos mewn darlithoedd. O leiaf bedair taith maes dros ddwy flynedd. Tri chwrs Moodle gan gynnwys y ‘Brif Dudalen’, ‘Daeareg yn y Newyddion’ a ‘Datblygu Sgiliau Mathemategol mewn Daeareg’. Mae portffolio myfyriwr o fath ‘gwaith cwrs’ sy’n cwmpasu 20 sesiwn ymarferol wahanol.

Arholiadau:  

C1 - Ymchwiliadau Daearegol - (35%) - cwestiynau ymateb i ddata ac ymholiad ymarferol ar sbesimenau a map du a gwyn. 

C2 - Egwyddorion a Phrosesau Daearegol - (30%) cwestiynau ymateb i ysgogiad sy’n gofyn am atebion byr, strwythuredig ac estynedig. (83 gair) 

C3 - Cymwysiadau Daearegol (35%) cwestiynau ymateb i ysgogiad sy’n gofyn am atebion byr a strwythuredig. Ymchwiliad map lliw BGS.

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio Daeareg mewn prifysgolion yng Nghaerdydd, Caerwysg, Portsmouth a Plymouth. Mewn polisi diweddar gan y llywodraeth o’r enw ‘Strategaeth Fwynau Critigol y DU’, ymrwymodd y llywodraeth i ganolbwyntio ar y gadwyn gyflenwi mwynau hollbwysig, gan gynnwys hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ddaearegwyr, peirianwyr a thu hwnt. Mae daearegwyr, daearegwyr peirianneg, geoffisegwyr a hydroddaearegwyr i gyd ar y ‘Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder’ felly mae’r dyfodol yn ddisglair i wyddonwyr y Ddaear! 

Hefyd, ar hyn o bryd mae llawer o gyfleoedd gyrfa ar brosiectau seilwaith fel HS2 ac adfer tir sydd wedi’i ddifrodi mewn lleoedd fel hen safleoedd tir llwyd yn Ne Cymru.