Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2 - Diploma Cyntaf
Trosolwg
Ar y cwrs blwyddyn hwn, bydd dysgwyr yn dysgu am gysyniadau sylfaenol gwyddoniaeth. Rhennir y cwrs yn 16 uned sy’n cwmpasu cysyniadau gwyddonol allweddol. Mae’r unedau hyn yn cynnwys:
- Egwyddorion gwyddoniaeth
- Cemeg a’n Daear
- Ynni a’n bydysawd
- Bioleg a’n hamgylchedd
- Cymhwyso sylweddau cemegol
- Cymhwyso gwyddor ffisegol
- Cymwysiadau iechyd mewn gwyddor bywyd
- Sgiliau gwyddonol
- Prosiect gwyddonol ymarferol
- Sut mae damcaniaethau gwyddonol yn cael eu llunio
- Y corff byw
- Ymchwilio i safle trosedd
- Gwyddoniaeth mewn meddygaeth
- Dylunio a gwneud dyfeisiau defnyddiol mewn gwyddoniaeth
- Dadansoddi a chanfod cemegol
- Archwilio ein bydysawd.
Addysgir pob uned gan ddarlithwyr arbenigol. Asesir dwy uned gan ddefnyddio arholiadau; asesir y gweddill gan ddefnyddio aseiniadau. Gan fod y cwrs yn canolbwyntio ar asesiadau yn hytrach nag arholiadau mae llawer o gyfleoedd i wneud gweithgareddau ymarferol, a fydd yn helpu i ddatblygu sgiliau gwyddonol.
Gwybodaeth allweddol
Yn ddelfrydol, pedair gradd D ar lefel TGAU ond rhaid i hyn gynnwys Mathemateg a Saesneg, neu Astudiaethau Galwedigaethol (Lefel 1) gyda phroffil teilyngdod.
Asesir y cwrs trwy waith ymarferol, aseiniadau ac arholiadau allanol. Graddau’r asesiadau allanol a mewnol yw Pasio, Teilyngdod a Rhagoriaeth. Mae graddau’r unedau’n seiliedig ar y radd isaf a gyflawnwyd.
Bydd cwblhau’r cwrs hwn gyda phroffil gradd Teilyngdod Rhagoriaeth (DM) yn rhoi modd i chi symud ymlaen i’r cwrs BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol - Gwyddoniaeth Ddadansoddol a Fforensig neu Wyddor Fiofeddygol (Diploma Estynedig Lefel 3).
Bydd gofyn i ddysgwyr nad ydynt wedi cyflawni gradd C mewn Mathemateg a Saesneg, ailsefyll un ohonynt ochr yn ochr â’r cwrs gwyddoniaeth gymhwysol Lefel 2.
Bydd gofyn i ddysgwyr nad ydynt wedi cyflawni gradd C mewn Mathemateg a Saesneg, ailsefyll un ohonynt ochr yn ochr â’r cwrs gwyddoniaeth gymhwysol Lefel 2.