Mynediad i Wyddoniaeth
Trosolwg
Mae’r cwrs Mynediad i Wyddoniaeth yn cael ei astudio dros flwyddyn ac mae'n cynnig mynediad uniongyrchol i’r brifysgol i lawer o gyrsiau gradd sy'n gysylltiedig â biowyddoniaeth yn y DU. Mae’n canolbwyntio’n helaeth ar agweddau ymarferol ar wyddoniaeth a byddwch yn treulio cryn dipyn o amser yn cyflawni gweithdrefnau labordy diwydiannol modern, cyffrous - gan gynnwys peirianneg genetig.
Byddwch yn astudio modiwlau mewn Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, a bydd gofyn i chi hefyd gyflawni yn y modiwlau craidd (cyfathrebu, TG, sgiliau astudio a phrosiect ymchwil).
Drwy gydol y rhaglen, byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth a fydd yn eich galluogi i fod yn llwyddiannus mewn addysg uwch.
Rheolau Cyfuno ar gyfer Diploma MAU (Gwyddoniaeth)
Heb ei raddio | Lefel 2 | Lefel 3 | |
Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch HC83CY007 | 3 | ||
Mathemateg | 9 | ||
Cyflwyniad Llafar HC73CY142 | 3 | ||
CYFANSWM CRAIDD | 9 | 6 |
Gwybodaeth allweddol
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at fyfyrwyr sydd o leiaf 19 oed ac sydd ag awydd cryf i astudio pwnc seiliedig ar wyddoniaeth yn y brifysgol. Mae angen cymhwyster gradd A-C mewn TGAU Mathemateg (bydd gradd D yn golygu y bydd angen cyfweliad a gwerthusiad mathemategol). Byddai cymhwyster Lefel 2 mewn Gwyddoniaeth, neu gwblhau’r rhaglen cyn-fynediad yn llwyddiannus, yn ddymunol. Yn ystod y broses gyfweld, gall ymgeiswyr ddisgwyl ymgymryd ag asesiad cychwynnol a fydd yn archwilio sgiliau rhifedd a chyfathrebu sylfaenol. Ar ben hynny, bydd angen i chi ddangos agwedd gadarnhaol, ymrwymiad a brwdfrydedd gwirioneddol i astudio gwyddoniaeth.
Drwy gydol y flwyddyn academaidd byddwch yn ennill credyd trwy broses o asesu gwaith cwrs yn barhaus. Defnyddir amrywiaeth o dechnegau asesu ffurfiol ac anffurfiol, gan gynnwys arholiadau, sesiynau ymarferol, adroddiadau gwyddonol, prosiectau ymchwil a chyflwyniadau. Mae amserlen y cwrs yn cynnwys 13 awr o gyswllt ystafell ddosbarth dros bedwar diwrnod yr wythnos. Yn ystod amser tiwtora mae awr o gymorth tiwtorial lle cynigir cyngor ac arweiniad i chi ar geisiadau UCAS, technegau cyfweld, gyrfaoedd a lles cyffredinol.
Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno symud ymlaen i gyrsiau gradd neu ddiploma yn y gwyddorau biolegol er mwyn dilyn gyrfa mewn proffesiwn gwyddoniaeth yn y pen draw, e.e. ffarmacoleg, dieteg, radiograffeg, ffisiotherapi, cardioleg a gwyddor fiofeddygol.
Ymhlith y cyrsiau AU a addysgir yng Ngholeg Gŵyr Abertawe mae Gradd Sylfaen mewn Gwyddorau Fforensig a Gradd Sylfaen mewn Cyfiawnder Troseddol (cyrsiau breiniol o Brifysgol De Cymru).
Mae cyn-fyfyrwyr wedi symud ymlaen i yrfaoedd mewn addysgu, gwaith ieuenctid a chymunedol, gweinyddiaeth gyhoeddus a chwnsela.