Skip to main content

Cynhyrchu Theatr a Digwyddiadau Byw Lefel 3 - Diploma Estynedig

Amser-llawn
Lefel 3
UAL
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Bydd y cwrs dwy flynedd hwn yn darparu hyfforddiant realistig ond heriol i chi ym mhob maes cynhyrchu ar gyfer y theatr.

Byddwch yn dilyn cwrs generig sy’n edrych ar oleuadau, sain, rheoli llwyfan a dylunio. Mae meysydd astudio hefyd yn ymdrin â gweinyddiaeth y celfyddydau ac astudiaeth ddamcaniaethol o’r celfyddydau perfformio.

Bydd yn cynnig amrywiaeth o waith prosiect perfformio i chi, yn y Coleg ac mewn lleoliadau allanol. Mae hyfforddiant seiliedig ar sgiliau a theori mewn agweddau technegol, rheolaeth a dylunio yn ategu’r gwaith ymarferol hwn.

Gwybodaeth allweddol

Mae rhywfaint o brofiad mewn gwaith cefn llwyfan yn ofynnol a/neu argymhellir yn gryf eich bod yn aelod o grŵp theatr ieuenctid.

Mae’r cwrs yn bennaf yn canolbwyntio ar asesiadau ymarferol gyda thystiolaeth wedi’i chynhyrchu trwy waith ymchwil a datblygu llyfrau log.

Lle bo’n bosibl bydd asesiadau ystafell ddosbarth yn gysylltiedig â gwaith a wnaed yn ystod eich cwrs astudio.

Mynediad i golegau drama arbenigol gan gynnwys RADA ac Ysgol Actio Guildford. Gyrfaoedd mewn rheoli llwyfan, dylunio gwisgoedd, dylunio goleuadau/sain neu dechnegwyr.

Ffioedd cwrs o £150 y flwyddyn i dalu am wibdeithiau a gweithdai theatr.

Explore in VR