Safon Uwch Dawns
Trosolwg
Trwy ddosbarthiadau technegau a gweithdai byddwch yn archwilio amrywiaeth o arddulliau dawns, gan gynnwys cyfoes, bale, jazz a repertoire gan yr ymarferwyr/meysydd astudio a ddewiswyd. Gyda phwyslais ar goreograffi a pherfformio, byddwch yn gwella eich sgiliau artistig ac yn magu hyder wrth fynegi eich llais creadigol eich hun.
Yn sail i’ch dysgu ymarferol mae astudiaeth ddamcaniaethol yn darparu ffocws priodol i ymgysylltu’n feirniadol â dawns a deall y rhyngberthynas rhwng creu, cyflwyno a gwerthfawrogi dawns. Egni ac ymrwymiad yw’r prif ofynion ar gyfer y cwrs corfforol a meddyliol hwn.
Amcanion y cwrs:
- Datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau ac arddulliau dawns
- Meithrin creadigrwydd a sgiliau coreograffig
- Gwella galluoedd perfformio a phresenoldeb llwyfan
- Datblygu sgiliau dadansoddi beirniadol a gwerthuso mewn perthynas â dawns.
Canlyniadau’r cwrs:
- Ennill gwybodaeth eang am hanes dawns a gwahanol arddulliau
- Datblygu hyfedredd mewn coreograffi a pherfformio darnau dawns
- Arddangos dealltwriaeth feirniadol o ddawns trwy asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol
- Paratoi ar gyfer astudiaeth bellach neu yrfa mewn dawns, addysg uwch neu gyflogaeth.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg
- Diddordeb byw mewn dawns ac ymrwymiad i ddysgu. Mae profiad o ddawns yn fuddiol, ond nid yw’n hanfodol
- Rydym yn croesawu myfyrwyr o gefndiroedd dawns amrywiol
Addysgir y cwrs trwy gyfuniad o weithdai ymarferol, gwersi theori, a chyfleoedd perfformio.
Asesu:
YMARFEREOL
Perfformiad unawd cysylltiedig ag ymarferwr penodedig mewn maes astudio. Perfformiad mewn pedwarawd. Coreograffi grŵp.
Sut mae’n cael ei asesu:
- Arholiad ymarferol
- 80 marc
- 50% o Safon Uwch.
THEORI
Gwybodaeth, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad beirniadol o ddau waith gosod.
Un gwaith gosod gorfodol o fewn y maes astudio gorfodol
Un gwaith gosod dewisol o fewn y maes astudio cyfatebol – mae dewis o bedwar.
Sut mae’n cael ei asesu:
- Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud
- 100 marc
- 50% o Safon Uwch.
Cwestiynau
Dwy adran:
Adran A: cwestiynau ateb byr (25 marc)
ac un cwestiwn traethawd (25 marc) ar y gwaith gosod gorfodol/maes astudio.
Adran B: dau gwestiwn traethawd ar yr ail waith gosod/maes astudio
(25 marc am bob traethawd).
Ar ôl cwblhau’r cwrs Safon Uwch Dawns yn llwyddiannus, byddwch yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddilyn llwybrau amrywiol o fewn y diwydiant dawns. Mae llwybrau dilyniant posibl yn cynnwys:
Addysg Uwch: Gallech symud ymlaen i gyrsiau dawns lefel prifysgol, fel BA (Anrh) Dawns, Gwyddor Dawns, neu Addysg Dawns.
Hyfforddiant Proffesiynol: Gallech ystyried hyfforddiant dawns galwedigaethol mewn sefydliadau dawns nodedig.
Gyrfaoedd Perfformio: Gallech ddilyn gyrfa fel dawnsiwr, coreograffydd, athro/athrawes dawns, neu therapydd dawns.
Gweinyddu’r Celfyddydau: Gallech archwilio cyfleoedd ym maes rheoli dawns, cynhyrchu, neu guradu. Bydd ein cynghorwyr gyrfaoedd ymroddedig yn rhoi arweiniad a chymorth, gan eich helpu i lunio eich dyfodol ym myd bywiog dawns.