Safon Uwch Drama
Trosolwg
Bwriedir y cwrs hwn i fyfyrwyr sy’n angerddol am actio a theatr, ac sydd am astudio Drama yn fanwl. Mae’n cynnwys elfennau ysgrifenedig ac ymarferol a fydd yn eich annog i ddatblygu dealltwriaeth ragorol o berfformiad theatr. Mae ffocws cryf ar wella eich sgiliau perfformio a’ch gallu i ddadansoddi theatr.
Amcanion y cwrs:
- Profi ystod o gyfleoedd fel gwneuthurwr theatr i greu a dehongli sgriptiau cyhoeddedig a gwaith dyfeisiedig.
- Datblygu a chymhwyso gwybodaeth ar gyfer dehongli a deall drama a theatr.
- Dadansoddi a gwerthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eraill.
Canlyniadau’r cwrs:
- Meithrin gwybodaeth fanwl o sgriptiau cyhoeddedig y pwnc.
- Datblygu sgiliau perfformio wrth greu a dehongli deunydd ar gyfer perfformiad.
- Arddangos dealltwriaeth feirniadol o ddrama trwy asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys B yn Saesneg laith
- Diddordeb byw mewn drama ac ymrwymiad i ddysgu. Er bod TGAU Drama yn ddelfrydol, mae unrhyw brofiad o berfformio yn fuddiol
- Rydym yn croesawu myfyrwyr o gefndiroedd perfformio amrywiol
Addysgir y cwrs trwy gyfuniad o weithdai ymarferol a gwersi theori.
Asesu:
YMARFEROL UG: Uned 1
- Ailddehongli sgript bresennol
- Perfformio deunydd yn arddull cwmni neu ymarferwr cydnabyddedig
- Cofnod creadigol
- Gwerthuso
Sut mae’n cael ei asesu
- Arholiad ymarferol a gwaith cwrs ategol
- 90 marc
- 24% o Safon Uwch
YMARFEROL SAFON UWCH: Uned 3
- Ymateb i ysgogiad gan CBAC
- Darn o destun mewn arddull perfformio gwahanol
- Perfformiad dyfeisiedig yn arddull cwmni neu ymarferwr cydnabyddedig
- Proses ac Adroddiad Gwerthuso
Sut mae’n cael ei asesu
- Arholiad ymarferol a gwaith cwrs ategol
- 120 marc
- 36% o Safon Uwch
THEORI UG: Uned 2
Gwybodaeth, dealltwriaeth a dadansoddiad beirniadol o un testun gosod.
Sut mae’n cael ei asesu
- Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud
- 60 marc
- 16% o Safon UG
THEORI U2: Uned 4
Gwybodaeth, dealltwriaeth a dadansoddiad beirniadol o ddau destun gosod.
Sut mae’n cael ei asesu
- Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud
- 95 marc
- 24% o Safon Uwch
Ar ôl cwblhau’r cwrs Safon Uwch Drama, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddilyn llwybrau amrywiol. Mae llwybrau dilyniant posibl yn cynnwys:
- Addysg Uwch: Gallech symud ymlaen i gyrsiau drama lefel prifysgol, fel BA (Anrh) Drama, Therapi Drama, neu Addysg Drama.
- Hyfforddiant Proffesiynol: Gallech ystyried hyfforddiant drama galwedigaethol mewn sefydliadau dawns nodedig.
- Gyrfaoedd Perfformio: Gallech ddilyn gyrfa fel actor, cyfarwyddwr, neu athro/athrawes.
- Gweinyddu’r Celfyddydau: Gallech archwilio cyfleoedd mewn drama/theatr/rheoli digwyddiadau neu gynhyrchu. Bydd ein cynghorwyr gyrfaoedd ymroddedig yn rhoi arweiniad a chymorth, gan eich helpu i lunio eich dyfodol ym myd bywiog dawns.
- Mae’r cwrs yn amser llawn ac yn cael ei addysgu yng Nghanolfan y Celfyddydau ar Gampws Gorseinon y Coleg. Mae’n seiliedig ar 4.5 awr addysgu yr wythnos drwy gydol y flwyddyn academaidd.
- Fel rhan o’r cwrs cewch eich annog i wylio theatr fyw.
- Byddwch yn mynd ar deithiau i leoliadau allanol, gweld gwaith perfformio ar-lein a chymryd rhan lawn mewn gweithdai gan ymarferwyr gwadd. Fel rhan o’ch llwybr dilyniant personol cewch gymorth gyda cheisiadau UCAS a cholegau arbenigol.
- Ffi cwrs £100 i dalu am gost gweithdai a theithiau.