Skip to main content
Myfyriwr yn Llundain

Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol Interniaethau â Chymorth

Roedd y Coleg yn falch o ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth â Chymorth, gan godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cyflogaeth â thâl i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Aeth Joshua, un o’n hinterniaid DFN Project Search / Amazon, i’r Senedd Ieuenctid AAAA cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin gyda’i ewythr a’i diwtor Angela Smith.

Roedd yn ddiwrnod ysbrydoledig, lle cafodd dirprwyon gyfle i gwrdd â’r Gweinidog Anableddau a’r Adran Gwaith a Phensiynau, Y Gwir Anrhydeddus Syr Stephen Timms, yn ogystal â’r Barwn Shinkwin o Dŷ’r Arglwyddi a’r Gwir Anrhydeddus Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Lucy Powell. 

Roedd yn ddigwyddiad gwych gyda mwy na 100 o interniaid, cyn-raddedigion, tiwtoriaid, hyfforddwyr swyddi a rhieni yn ymuno â’r sgwrs gyda Gweinidogion.

Ymhlith y cwestiynau a ofynnwyd i ddirprwyon mae ‘beth sy’n bwysig i chi fel interniaid ar interniaethau â chymorth?’ a ‘beth allai cyflogwyr ei wneud i helpu interniaid ar leoliadau gwaith?’

Atebodd Josh gan ddweud y dylai cyflogwyr fod yn ystyriol nid yn unig o anabledd dysgu rhywun ond hefyd o’i anghenion personol. Fe wnaeth Josh gydnabod hefyd bod cwmnïau fel Amazon yn fodlon gwneud addasiadau rhesymol yn y gweithle, gan annog cwmnïau eraill i wneud yr un peth. 

Mae Josh wedi cael profiad anhygoel yn Amazon ac mae’n dweud ei fod wedi magu hyder y tu hwnt i’w ddisgwyliadau ers ymuno â Rhaglen Interniaeth â Chymorth SBA y Coleg.

“Mae’r trawsnewidiadau dwi wedi eu gweld gan Josh a’n graddedigion eraill sydd bellach yn gweithio yn adran brysur Dychweliadau Cwsmeriaid Amazon yn rhyfeddol” meddai Angela. “Mae eu hethig gwaith, eu dibynadwyedd, eu sgiliau cadw amser a’u hyder wrth ofyn am help wedi eu gwneud nhw yn hynod gyflogadwy.”

DIWEDD

Er bod ganddynt y sgiliau a’r uchelgais i weithio, mae pobl ifanc sydd ag anabledd dysgu, neu bobl ifanc awtistig, yn parhau i fod yn un o’r grwpiau a gaiff ei dangynrychioli fwyaf yng ngweithlu’r DU. 

Lansiwyd yn 2023 gan DFN Project SEARCH, mae Diwrnod Cenedlaethol Interniaethau â Chymorth yn gyfle i arddangos y rôl hollbwysig y mae oedolion ifanc ag anabledd dysgu, neu bobl ifanc awtistig, yn ei chwarae yn y gweithlu, yn ogystal â buddion arferion cyflogaeth cynhwysol.