Newyddion y Coleg
Coleg yn falch o noddi Gwobrau Plant Cymru 2024
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi ein partneriaeth â Gwobrau Plant Cymru 2024. Fel noddwr y Wobr Elusen Ragorol, rydym yn ymrwymedig i gefnogi mentrau sy’n cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau nodedig plant a phobl ifanc ar draws Cymru.
Digwyddiad blynyddol yw Gwobrau Plant Cymru sy’n cydnabod y dewrder, gwydnwch a’r trugaredd a ddangosir gan unigolion ifanc o fewn eu cymunedau. O weithredoedd dewr i ymdrechion elusennol rhagorol, mae’r gwobrau yn craffu ar gyflawniadau rhagorol plant a phobl ifanc sy’n ein hysbrydoli.
Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill gwobr Arian yn Seremoni Wobrwyo FE First CMN 2024
Mae adran Marchnata a Chyfathrebu Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill gwobr Arian yn y categori Cyfryngau Cymdeithasol ac Effaith Digidol yn Seremoni Wobrwyo Rhwydwaith Marchnata Colegau Fe First 2024.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan y Rhwydwaith Marchnata Colegau a gwahoddwyd cannoedd o weithwyr proffesiynol y diwydiant i ddod ynghyd i ddathlu rhagoriaeth mewn marchnata Addysg Bellach ledled y DU.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn lansio tri chwrs AU newydd
Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n falch o gyhoeddi lansiad llwyddiannus tri chwrs addysg uwch newydd sbon ar gyfer 2024: Gradd Sylfaen mewn eChwaraeon, BA (Anrh) mewn Hyfforddiant a Pherfformiad Chwaraeon a BA (Anrh) mewn Addysg, Iechyd Meddwl ac ADY.
Fe wnaeth ddarpar fyfyrwyr o bob cwr o Dde Cymru ymweld â Chanolfan Prifysgol Coleg Gŵyr Abertawe i sgwrsio ag aelodau’r gyfadran a myfyrwyr presennol. Cawsant gyfle hefyd i gwrdd â’n partneriaid prifysgol o Brifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Darllen mwyGwdihŵs CGA: Gosod y safon yn e-Chwaraeon y DU
Yn dathlu llwyddiant rhyfeddol ym myd gemau cystadleuol, mae tîm e-Chwaraeon clodfawr Coleg Gŵyr Abertawe – Gwdihŵs CGA - wedi cadarnhau eu hetifeddiaeth yn 2023 trwy orffen y flwyddyn ar frig Rhaniad y Gaeaf ym Mhencampwriaethau Myfyrwyr e-Chwaraeon Prydain.
Gyda record ddigyffelyb o fuddugoliaethau 100%, mae’r Gwdihŵs wedi llwyddo yng Nghyngreiriau Rocket, Overwatch a Valorant, gan arddangos eu goruchafiaeth ar draws y cynghreiriau uchel eu parch hyn.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe’n sefydlu partneriaeth AHG newydd yn Ghana a Malawi
Mae Coleg Gŵyr Abertawe ar fin cryfhau ei gysylltiadau ag Affrica trwy gymryd rhan mewn prosiect AHG (addysg a hyfforddiant galwedigaethol) newydd gan VET Toolbox II.
Bwriad Vet Toolbox II - a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd ac a reolir gan y Cyngor Prydeinig yn Ghana a Malawi - yw gwella cydweithrediad rhyngwladol i gefnogi addysg a hyfforddiant galwedigaethol a chynhwysol, lle bo galw amdano. Mae’r prosiect yn rhan o raglen ehangach a gynigir ledled 11 o wledydd yn Affrica Is-Sahara trwy bedair asiantaeth ddatblygu Ewropeaidd: Enabel, Expertise France, GIZ a LuxDev.
Darllen mwyMyfyrwyr yn profi arloesedd wrth ymarfer
Cafodd grŵp o fyfyrwyr a staff o ddiploma Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg Coleg Gŵyr Abertawe gyfle i brofi wythnos ym mywyd myfyriwr Humber gyda chyfadran y cyfryngau a’r celfyddydau creadigol.
Roedd yr ymweliad yn bosibl diolch i Gyllid Taith Llywodraeth Cymru, sef rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu. Cyfrannodd y profiad hwn at nod y rhaglen o greu profiadau a chyfleoedd dysgu trawsnewidiol sy’n newid bywydau.
Darllenwch fwy am yr ymweliad yma.
Darllen mwyAdroddiad gan Estyn yn canmol Darpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith y Coleg
Heddiw (27 Mawrth) cyhoeddwyd Adroddiad Estyn (Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru) Coleg Gŵyr Abertawe. Yn yr adroddiad, cafodd y Coleg ei ganmol am ei ddarpariaeth prentisiaethau/Dysgu Seiliedig ar Waith a gynigir yng Nghymru.
Mae hyn yn newyddion da iawn yn enwedig wrth ystyried y twf sylweddol sydd wedi’i gyflawni yn narpariaeth prentisiaethau’r Coleg ers 2016. Mae nifer y dysgwyr wedi cynyddu o 250 i tua 3,000 (2022/23).
Darllen mwyCynhadledd Myfyrwyr Cymru i Bedwar Ban Byd
Roedd myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth Coleg Gŵyr Abertawe yn gyffrous i fynd i Gynhadledd Myfyrwyr ‘Cymru i Bedwar Ban Byd’ ITT Future You ar ddydd Mawrth 27 Chwefror.
Roedd myfyrwyr yn gallu dysgu am yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael o fewn y diwydiant, a chael cyfle i rwydweithio â chyflogwyr i archwilio rhagolygon gyrfa’r dyfodol.
Darllen mwyCyfle unwaith-mewn-oes, allwch chi helpu ein myfyrwyr i helpu eraill?
Er ei bod dros 10,000 o filltiroedd i ffwrdd, mae Ysgol Gynradd Madungu yn agos iawn at galon Coleg Gŵyr Abertawe. Yma, mae’r Prif Swyddog Gweithredol yn esbonio sut mae’r Coleg wedi cefnogi’r ysgol am dros 20 mlynedd - a sut y gallwch chi helpu.
Darllen mwyGwobr i’r Coleg am ragoriaeth mewn addysg seiberddiogelwch
Coleg Gŵyr Abertawe yw un o’r sefydliadau addysg diweddaraf i ennill Gwobr Aur CyberFirst am ei addysg seiberddiogelwch ragorol.
Mae’r rhaglen CyberFirst yn cael ei rhedeg gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, sy’n rhan o GCHQ. Mae’r rhaglen yn cydnabod ysgolion a cholegau sy’n gallu dangos ymrwymiad i ysbrydoli’r to diweddaraf o arbenigwyr seiberddiogelwch a phontio’r bwlch sgiliau seiber.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 8
- Tudalen nesaf ››