Newyddion y Coleg
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn rhoi cyflwyniad yng nghynhadledd genedlaethol y menopos
Yn ddiweddar, siaradodd Sarah King, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Coleg Gŵyr Abertawe, yng nghynhadledd flynyddol Menopos yn y Gweithle yng Nghaerdydd, dan arweiniad Policy Insight Wales.
Trefnwyd y gynhadledd fel bod sefydliadau yn gallu dysgu sut i gynorthwyo, gwerthfawrogi a chadw aelodau staff sy’n profi symptomau’r perimenopos a’r menopos yn well.
Yn sgil y canllawiau newydd a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, mae’n hollbwysig nawr bod cyflogwyr yn gwneud addasiadau rhesymol i weithwyr sy’n mynd trwy’r menopos.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn Lansio Ymgyrch i Gefnogi Myfyrwyr yn ystod Arholiadau ac Asesiadau
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi lansio’r ymgyrch ANADLWCH i helpu myfyrwyr i leihau straen a rheoli unrhyw orbryder sydd ganddynt yn ystod y cyfnod arholiadau ac asesiadau sydd ar ddod.
Cyn-ddisgyblion yn dychwelyd i Lwyn y Bryn
Roedd criw o gyn-ddisgyblion Llwyn y Bryn yn hel atgofion yn ddiweddar pan ddychwelon nhw am daith dywys arbennig.
Roedd y ffrindiau, dan arweiniad Liz Mundee, yn ddisgyblion yn Ysgol Ramadeg Llwyn y Bryn rhwng 1965 a 1972.
Mae’r hen adeilad hardd bellach yn rhan o Goleg Gŵyr Abertawe ac mae’n gartref i grŵp amrywiol o fyfyrwyr sy’n astudio ystod o bynciau gan gynnwys celf a dylunio, ffotograffiaeth, cerddoriaeth ac ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill).
Darllen mwyCyflwyno gwobr seiberddiogelwch nodedig i’r Coleg
Cyflwynwyd Gwobr Aur CyberFirst yn swyddogol i Goleg Gŵyr Abertawe gan gynrychiolwyr o CyberFirst a Jisc ar ddydd Iau, 25 Ebrill.
Mae’r wobr yn dod ar ôl i’r Coleg gael ei gydnabod am ei ymrwymiad i ysbrydoli’r genhedlaeth ddiweddaraf o arbenigwyr seiberddiogelwch a phontio’r bwlch sgiliau seibr.
Darllen mwyColeg yn ennill Sefydliad Sector Cyhoeddus y Flwyddyn!
Yn ddiweddar, mewn dathliad o ragoriaeth ac arloesedd ym maes Adnoddau Dynol, cafodd Coleg Gŵyr Abertawe ei enwi’n Sefydliad Sector Cyhoeddus y Flwyddyn yng Ngwobrau Adnoddau Dynol Prydain 2024.
Wedi’i enwebu yn rownd derfynol y categori Sector Cyhoeddus a’r categori Menter y Flwyddyn – Lles Gweithwyr am y gwaith y mae wedi’i wneud ar godi ymwybyddiaeth am y menopos, roedd y Coleg yn falch iawn o fod wedi ennill.
Myfyrwyr yn edrych ymlaen at ddyfodol gwyrddach
Cafodd myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe eu cyflwyno i lawer o gyfleoedd gyrfa a gwirfoddoli cyffrous yn ddiweddar mewn Uwchgynhadledd Werdd ar Gampws Gorseinon.
Trefnwyd y digwyddiad Dyfodol Cynaliadwy gan Glwb yr Amgylchedd y Coleg dan arweiniad Cynghorydd yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Laura Wilkins.
Roedd myfyrwyr yn gallu cwrdd â gweithwyr proffesiynol o sefydliadau lleol blaenllaw, sgwrsio am faterion cynaliadwy a dysgu rhagor am lwybrau datblygu gyrfa posibl.
Darllen mwyMyfyriwr Safon Uwch Daeareg yn graig o wybodaeth
Diddordeb brwd mewn bioleg ac anifeiliaid yw’r hyn sydd wedi rhoi Micah Mainwaring, myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, ar y llwybr gyrfa i fod yn balaeontolegydd.
Mae Micah ar hyn o bryd yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn bioleg, daeareg, mathemateg a drama ar Gampws Gorseinon.
Mae ganddynt ddiddordeb arbennig mewn palaeobioleg, sy’n canolbwyntio ar ecoleg a bywyd creaduriaid cynhanesyddol.
Darllen mwyMyfyrwyr yn dathlu cynigion gwych gan Rydgrawnt
Mae deg myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lleoedd i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn 2024.
“Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r cynigion hyn. Hoffwn i estyn llongyfarchiadau i’r myfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni’r canlyniadau anhygoel hyn,” meddai Cydlynydd Anrhydeddau CGA y Coleg, Dr Emma Smith.
Darllen mwyGwobrau UCM Cymru yn cydnabod cyfraniadau rhagorol i les ac ymgysylltiad myfyrwyr
Yn ddiweddar (dydd Mawrth, 19 Mawrth) fe wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe ennill dwy wobr glodfawr yng nghynhadledd UCM Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn ddathliad o gyfraniadau amhrisiadwy a wneir gan gymdeithasau myfyrwyr, swyddogion a staff eraill at gynnig amgylchedd cefnogol ac egnïol i ddysgwyr.
Eleni, enillodd y Coleg y teitlau Ymgysylltiad Aelodau y Flwyddyn ac Undeb AB y flwyddyn, yn dilyn gwaith caled ein Hundeb Myfyrwyr a’n staff eleni.
Darllen mwyCyn Brif Weinidog yn rhoi dosbarth meistr ar arweinyddiaeth
Roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o groesawu cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, i Gampws Gorseinon ac
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 7
- Tudalen nesaf ››