Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu rhywbeth newydd, ac mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau rhan-amser i weddu i’ch swydd, dyletswyddau teuluol ac ati.
Dewch i’n Noson Agored Addysg i Oedolion ar ddydd Mawrth 1 Gorffennaf ar Gampws Tycoch i archwilio ein cyrsiau, cwrdd â’n tiwtoriaid a darganfod sut y gall Coleg Gŵyr Abertawe eich helpu i ddewis eich cam nesaf.
Os ydych chi am wella eich rhagolygon cyflogaeth, newid gyrfa neu ddiweddaru eich sgiliau, mae gennym gyrsiau (wedi cymeradwyo gan gyflogwyr) mewn meysydd megis busnes, cyllid, adeiladu, iechyd a diogelwch, crefftau a sgiliau digidol. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u cynllunio i’ch helpu i ennill sgiliau y mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi fwyaf, er mwyn rhoi mantais i chi yn y gweithle.
Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau lefel prifysgol a phrentisiaethau gradd ar gyfer unigolion sydd am wella eu dealltwriaeth a’u cymwysterau ochr yn ochr â’u hymrwymiadau eraill. P’un ai a ydych astudio cwrs gradd, TCU/DCU, prentisiaethau lefel uwch a chymwysterau proffesiynol achrededig eraill fel ACCA. Mae ein rhaglenni rhan-amser hyblyg yn cynnig llwybr tuag at ddilyniant gyrfa neu astudiaethau academaidd pellach.
Neu efallai eich bod chi eisiau archwilio rhywbeth newydd i gael hwyl yn unig? Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau creadigol mewn celfyddydau, iechyd a harddwch, datblygiad personol, a mwy - maent yn berffaith ar gyfer dechrau hobi newydd neu fwynhau dysgu mewn cymuned gefnogol.
Mae ein tîm cymorth cyfeillgar yma i'ch helpu bob cam o’r ffordd, p'un a ydych chi am ddatblygu eich gyrfa, ennill cymhwyster uwch neu ddarganfod angerdd newydd. Rydym yn deall bod gan ddysgwyr sy'n oedolion lawer o gyfrifoldebau eraill, a dyna pam mae gennym gyrsiau sy'n dechrau drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal chyrsiau sy’n rhedeg ar wahanol adegau o'r dydd a'r nos. Yn ogystal, mae ein hyb Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn cynnig cyngor a chymorth cyflogadwyedd i'ch helpu i wneud trosglwyddiad llwyddiannus i gyflogaeth.
Cwblhaodd Shannon Jade gwrs Mynediad i Addysg Uwch mewn Seicoleg a Chwnsela ar Gampws Tycoch, cyn symud ymlaen i astudio gradd mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Abertawe. Yn ddiweddar, derbyniodd wobr gan Agored Cymru am ei Chyflawniad Academaidd Rhagorol. Dywedodd:
“Braint oedd astudio ar yr adeg hon yn fy mywyd, yn enwedig gan fy mod wedi gadael yr ysgol yn 16 oed. Doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i’n academaidd iawn, ond roeddwn i wrth fy modd â’r Coleg, roedd y staff addysgu yn wych, ac mae’r profiad wedi rhoi cymaint o hyder i mi ac wedi agor cymaint o gyfleoedd i mi a fy nheulu.”
Cwblhaodd Emily Lowe gwrs Lefel 3 mewn Tylino Chwaraeon yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Dywedodd:
“Mae’n braf dysgu pethau newydd a datblygu fy ngwybodaeth. Roedd hi wedi bod yn amser maith ers i mi fod mewn addysg ffurfiol, felly roeddwn i ychydig yn nerfus ond rydw i’n falch fy mod i wedi cymryd y cam hwn.”
“Os ydych chi’n ystyried cwrs rhan-amser yn y Coleg - ewch amdani! Dydych chi byth yn gwybod ble y gallai fynd â chi.”
Cymerwch y cam cyntaf tuag at sicrhau sgiliau newydd, hyfforddiant lefel uwch neu gyfleoedd cyffrous - cofrestrwch ar Eventbrite! Neu ewch i’n gwefan i fwrw golwg ar ein cyrsiau gcs.ac.uk.