Newyddion y Coleg
Gwobrau Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe 2024
Mae myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe yn dathlu blwyddyn arall o lwyddiannau chwaraeon gyda seremoni wobrwyo arbennig yn y Village Hotel.
Dan ofal Kev Johns MBE, roedd y digwyddiad hefyd yn yn cynnwys cyfraniadau gan y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol o Gymru a darlithydd Coleg Steven Jones, a’r seren bêl-droed Lee Trundle.
Darllen mwyStaff yn hybu dysgu yn y Gymraeg yng Ngŵyl Tawe 2024
Dychwelodd gŵyl Menter Iaith Abertawe, Gŵyl Tawe, am ei hail flwyddyn i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Gwelodd yr ŵyl berfformiadau gan lu o artistiaid amgen, cyfoes sy’n defnyddio’r Gymraeg mewn ffyrdd amrywiol a chyffrous.
Roedd yr ŵyl rhad ac am ddim yn cynnwys perfformiadau gan oreuon y sin gerddoriaeth Gymraeg gan gynnwys Parisa Fouladi a Rogue Jones ar y prif lwyfan a noddwyd gan Cymru Greadigol a bandiau fel Ci Gofod, Bitw ac Alffa ar Lwyfan Coleg Gŵyr Abertawe.
Dysgwyr Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn dathlu llwyddiant
Cafodd dau ddysgwr arweinyddiaeth a rheolaeth eu gwobrwyo yn ddiweddar mewn seremoni arbennig yn Nhŷ Norton, Y Mwmbwls. Darllen mwyMyfyrwyr a disgyblion yn cymryd rhan mewn digwyddiad mewnweledol gan Microsoft
Fe wnaeth dros 360 o ddysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe ac ysgolion uwchradd lleol, gan gynnwys Cwmtawe, Dylan Thomas, Penyrheol ac Ysgol Gellifedw gymryd rhan mewn digwyddiad mewnweledol yn ddiweddar (dydd Mercher 22 Mai). Cafodd y sesiwn ei gynnig gan Goleg Gŵyr Abertawe, ar y cyd â Microsoft.
Darllen mwyLansio Hwb Gwyrdd y Coleg yn swyddogol
Fe wnaeth staff a myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe groesawu gwestai arbennig iawn i lansiad swyddogol eu Hwb Gwyrdd.
Aeth Iolo Williams, eiriolwr o fri dros gadwraeth amgylcheddol a wyneb cyfarwydd ar raglenni teledu fel Springwatch, The Last Wilderness of Wales, Iolo's Borderlands a Natur Gudd Cymru ar daith o gwmpas y cyfleusterau a threulio amser yn sgwrsio â myfyrwyr.
Mae’r Coleg wedi cynnig cyrsiau tirlunio ac eco-adeiladu ers 2019 ond nawr – gyda lansiad yr Hwb Gwyrdd – bydd gan fyfyrwyr ofod penodedig lle gallant ddysgu ac ymlacio.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn cynnig hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn i fusnesau
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i ddarparu atebion hyfforddi wedi’u teilwra i fusnesau ledled Cymru.
Gyda ffocws ar uwchsgilio gweithluoedd a datblygu cyfleoedd i dyfu, mae’r Coleg arobryn yn cynnig nifer o gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn* sy’n dechrau ar ddiwedd mis Mai.
Mae meysydd yn cynnwys:
Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad/gwasanaeth cwsmeriaid, addas i’r rhai sy’n gweithio mewn rôl sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, p’un ai yw mewn amgylchedd canolfan gyswllt, gwasanaethau tai, hybiau cymunedol, ysbytai, lletygarwch neu adwerthu.
Darllen mwyColeg yn Cyrraedd Rownd Derfynol Gwobrau Hyfforddiant Prydain 2024
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi cyrraedd y Rownd Derfynol yng Ngwobrau Hyfforddiant Prydain 2024.
Mae’r gwobrau yn dathlu’r sefydliadau a’r unigolion sy’n wirioneddol angerddol am rôl dysgu a datblygiad o ran adeiladu gweithlu ffyniannus.
Darllen mwyAdult Learning Partnership Swansea unveils new strategic plan
Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (PDOA) yn falch o lansio cynllun strategol newydd, gyda’r nod o drawsnewid addysg oedolion yn y gymuned leol.
Casgliad o sefydliadau blaenllaw yw PDOA sy’n gweithredu fel corff cynrychioliadol o addysg hygyrch o ansawdd uchel. Mae’r sefydliad yn diwallu anghenion ac uchelgeisiau amrywiol oedolion sy’n dysgu yn y gymuned leol. Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru.
Yn cyflwyno Sgiliau ar gyfer Abertawe: Cyrsiau am ddim i ailhyfforddi ac uwchsgilio
Ydych chi’n barod i ddarganfod cyfleoedd newydd a gwella eich sgiliau? Dyma bwrpas Sgiliau ar gyfer Abertawe, sef casgliad o gyrsiau am ddim* a ddarperir gan Goleg Gŵyr Abertawe ar gyfer unigolion sy’n byw neu yn gweithio yn Abertawe. Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn cyflawni ailachrediad QSCS
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi cyflawni ail-achrediad Safon Ansawdd mewn Cymorth i Ofalwyr (QSCS) Ffederasiwn y Gofalwyr, gan ddangos ei arferion da a’i ymrwymiad parhaus i ddysgwyr sydd hefyd yn oedolion ifanc sy’n gofalu.
Mae ail-achrediaid yn ofynnol bob tair blynedd ac mae hyn yn sicrhau bod y Coleg yn parhau i wella a datblygu’r ffordd y mae’n cynorthwyo oedolion ifanc sy’n gofalu, a lles myfyrwyr yn ei gyfanrwydd.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 6
- Tudalen nesaf ››