Newyddion y Coleg
Parti staff yn nodi diwedd blwyddyn academaidd arall
Cafodd staff yng Ngholeg Gŵyr Abertawe eu gwahodd i ddigwyddiad dathlu arbennig yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti ar 28 Mehefin.
Ar ôl blwyddyn hynod o brysur arall, roedd yn gyfle i staff cymorth ac addysgu o bob campws ymlacio am ychydig oriau a mwynhau cwmni ei gilydd.
Darparwyd adloniant gan Fand Iwcalilis Abertawe a’r canwr Michael Roberts, a gafodd bawb ar eu traed i ddawnsio, a’r dewin hud a lledrith Dorian a ddiddanodd y partïwyr gyda’i driciau amrywiol.
Darllen mwyBant â ni i Genia!
Heddiw o’r diwedd fe wnaethon ni adael i fynd ar ein taith i Genia ar ôl yr hyn a fu yn wythnos arbennig o heriol yn y wlad. Rydym mor falch bod y protestiadau wedi lleihau ac, mewn rhai rhannau o’r wlad, wedi gorffen yn gyfan gwbl.
O safbwynt y Coleg, rydym wedi treulio’r 48 awr ddiwethaf yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid a’n lletywyr, African Adventures, i brofi eu prosesau a’u gweithdrefnau yn drwyadl yn sgil y protestiadau diweddar, er bod yr ysgol rydym yn ymweld â hi yn bell i ffwrdd o’r dinasoedd mawr.
Darllen mwyGwobrau Myfyrwyr Blynyddol Coleg Gŵyr Abertawe 2024
Mae myfyrwyr a staff o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu blwyddyn arall eto o ragoriaeth academaidd a galwedigaethol.
Dychwelodd yr hen ffefryn lleol Kev Johns MBE i’r llwyfan yn Stadiwm Swansea.com i gyflwyno’r noson, lle rhoddwyd gwobrau i fyfyrwyr o amrywiaeth o gyrsiau amser llawn a rhan-amser, prentisiaethau, llwybrau addysg uwch, cyrsiau mynediad a rhaglenni cymorth cyflogadwyedd.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn cyrraedd y rownd derfynol mewn tri chategori yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn tri chategori yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.
Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn anrhydeddu cyfraniadau rhagorol y gweithlu addysg ledled Cymru, gyda’r flwyddyn hon yn nodi’r tro cyntaf i golegau gael eu cynnwys ochr yn ochr ag ysgolion.
Darllen mwyMyfyrwyr yn sicrhau cyfleoedd prentisiaeth
Mae dau fyfyriwr Technoleg Peirianneg ar Gampws Tycoch Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn creu argraff yn y diwydiant peirianneg, diolch i gymorth y cyn-fyfyriwr David McRae.
Cwblhaodd David ei radd Peirianneg Adeiladu ym Mhrifysgol Abertawe ac aeth ymlaen wedyn i fod yn Brif Beiriannydd yn CB3 Consult. Yn ddiweddar, cysylltodd â’i gyn-diwtor, Coral Planas, i chwilio am brentisiaid i ymuno â chynllun prentisiaeth Sefydliad y Peirianwyr Sifil.
Darllen mwyPrentis yn ennill yr Ail Wobr yng nghystadleuaeth Prentis y Flwyddyn Lloriau CFA 2024
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi bod Dale Dee-Ray, prentis Lefel 2 mewn Gorchuddio Lloriau, wedi ennill yr ail wobr yng nghystadleuaeth Prentis y Flwyddyn Lloriau CFA 2024.
Derbyniodd Ganmoliaeth Uchel ar ôl dangos angerdd am y diwydiant lloriau, awydd am ragoriaeth, ac ymroddiad cadarn i’w daith pentisiaeth.
Darllen mwyAddysgwyr ysbrydoledig yn ennill gwobr addysgu genedlaethol nodedig
Mae tîm o ddarlithwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Gwobr Arian ar gyfer Tîm AB y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson. Cawsant eu dewis o blith miloedd o enwebeion, ac mae’r wobr yn tynnu sylw at yr effaith ryfeddol y maen nhw’n ei chael ar lywio bywydau y bobl ifanc yn eu gofal.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn ennill dwy wobr InsideOut
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi ei lwyddiant go arbennig yn seremoni wobrwyo InsideOut yr wythnos diwethaf, a gynhaliwyd yn y Troxy, Llundain.
Fe wnaeth y Coleg sicrhau dwy wobr nodedig a derbyn cydnabyddiaeth Canmoliaeth Uchel yn y digwyddiad gwobrwyo iechyd meddwl blynyddol, a bwerwyd gan Uwchgynadleddau InsideOut LeaderBoard a Lles yn y Gwaith.
Darllen mwyPrif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe Mark Jones yn Derbyn MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi bod ei Brif Swyddog Gweithredol, Mark Jones, wedi derbyn MBE i gydnabod ei wasanaethau i addysg yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2024. Mae’r anrhydedd mawreddog hwn yn tynnu sylw at gyfraniadau eithriadol Mark fel arweinydd addysg yng Nghymru a ledled y DU.
Darllen mwyMyfyrwyr yn mynegi eu barn trwy gelf a cherddoriaeth
Bydd gwaith ein myfyrwyr rhyfeddol o dalentog o feysydd celf a dylunio, ffotograffiaeth a cherddoriaeth – a chreadigaethau gwych disgyblion ysgolion uwchradd lleol – yn syfrdanu’r torfeydd y mis hwn trwy gyfres o arddangosfeydd a pherfformiadau ar draws Abertawe.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 5
- Tudalen nesaf ››