Skip to main content
 

Hetiau Caled a Choffi Cynnes: Brecwast Amgylchedd Adeiledig

Ydych chi’n rhan o’r sector adeiladu ac yn chwilio i achub y blaen ar eraill o fewn y diwydiant? Ymunwch â ni ar gyfer Hetiau Cales a Choffi Cynnes, digwyddiad arbennig wedi’i gynllunio i helpu cyflogwyr archwilio cyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaethau sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe trwy rwydweithio â chydweithwyr eraill o fewn y diwydiant.  

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 21 Mai, 8.30am tan 11.00am yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti a bydd yn gyfle gwych i gael mewnwelediad gwerthfawr i sut mae’r Coleg yn trosglwyddo sgiliau diwydiant i’r genhedlaeth nesaf o weithwyr. Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i chi ddysgu am unrhyw newidiadau i gymwysterau, opsiynau cyllid a llawer mwy. 

Bydd siaradwyr arbenigol, gan gynnwys Hannah Pearce, Rheolwr Maes Dysgu ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig, yn cynnig sesiwn ar ddatblygiadau cyfredol, a bydd ein siaradwr gwadd, Wyn Pritchard, Cyn-gyfarwyddwr CITB yn rhannu ei wybodaeth eang am y diwydiant. 

Mae hwn yn fwy na digwyddiad yn unig, mae’n gyfle i ymgysylltu, ymgynghori a chydweithio i helpu llywio dyfodol sgiliau crefft De Cymru, gan archwilio partneriaethau o fewn y Coleg a sicrhau bod eich busnes yn paratoi ar gyfer y dyfodol.

Byddwn yn darparu lluniaeth yn ystod y digwyddiad a bydd digon o fannau parcio ar gael ar y safle. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly cyntaf i’r felin. Sicrhewch le trwy ddilyn y linc.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch hello@gcs.ac.uk