Gan Kelly Fountain, Prif Swyddog Gweithredol, Coleg Gŵyr Abertawe
Wrth i ni nesáu at ddiwrnod canlyniadau TGAU arall, mae pobl ifanc a’u teuluoedd ledled y wlad yn wynebu rhai o benderfyniadau pwysicaf eu bywydau. Mae gan ddysgwyr heddiw fwy o ddewis nag erioed – cyrsiau Safon UG/Uwch, prentisiaethau a llwybrau galwedigaethol – gyda nifer fawr o ddewisiadau pwnc posib.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn cynnig hyn oll mewn un lle!
Boed yn gyrsiau Safon UG/Uwch, yn hyfforddiant galwedigaethol sy’n canolbwyntio ar yrfa, neu yn brentisiaethau ymarferol, rydym yn darparu llwybr cyflawn a hyblyg wedi’i deilwra i uchelgais pob myfyriwr a’i lwybr gyrfa yn y dyfodol.
Mae’r Coleg yn fwy na lle i ennill cymwysterau; mae’n lle i bobl ifanc archwilio pwy ydyn nhw, darganfod beth sy’n eu hysgogi, a dechrau cymryd perchnogaeth o’u dyfodol. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn falch o gynnig amgylchedd academaidd cyfoethog a thrwyadl lle mae myfyrwyr yn cael eu cefnogi, eu herio, a’u hysbrydoli i anelu’n uwch nag yr oeddent erioed wedi meddwl oedd yn bosibl.
I lawer, ein rhaglen Safon Uwch yw’r man cychwyn perffaith i brifysgolion blaenllaw, gyrfaoedd proffil uchel, a chariad gydol oes at ddysgu.
Ein darpariaeth Safon Uwch yw un o’r rhai mwyaf cynhwysfawr a mwyaf o ran maint yng Nghymru, sy’n cynnig dros 40 o ddewisiadau pwnc, gan gynnwys nid yn unig y gwyddorau traddodiadol, mathemateg a’r dyniaethau, ond hefyd ddisgyblaethau modern y mae galw mawr amdanynt fel y gyfraith, technoleg ddigidol, troseddeg, seicoleg ac economeg. Mae’r ehangder hwn yn rhoi modd i ddysgwyr greu cyfuniadau personol sy’n adlewyrchu eu diddordebau a’u huchelgeisiau—p’un ai ydynt am astudio meddygaeth, pensaernïaeth, gwleidyddiaeth, neu’r diwydiannau creadigol. Bydd amserlen hyblyg ein rhaglen yn sicrhau y gall dysgwyr ddewis unrhyw gyfuniad o bynciau hefyd.
Gwelwyd cynnydd eleni mewn cyfraddau pasio Safon Uwch i 100%, sy’n gyflawniad gwych. Y gyfradd basio genedlaethol ledled Cymru yw 97.5%. Llwyddodd 12% o’n dysgwyr sicrhau’r radd uchaf posib, sef A*, sy’n gynnydd o 9% yn 2024 ac yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 10.5%. Sicrhaodd 34% raddau A* - A, (o gymharu â chyfartaledd y wlad o 29.5%) a sicrhaodd 65% raddau A* - B. Yn ogystal, fe wnaeth 85% o fyfyrwyr ennill graddau A* - C.
Mae’r gyfradd basio ar gyfer Safon Uwch yn gryf iawn eleni (94%), gyda 73% o’r graddau yn raddau A-C a 54% ohonynt yn raddau A-B. Yn syfrdanol, derbyniodd 30% o’n dysgwyr radd A, o gymharu â chyfartaledd cenedlaethol Cymru o 22.7%.
Mae’r canlyniadau gwych hyn sydd yn aml yn rhagori ar gyfraddau cenedlaethol (ar draws Safon Uwch ac UG) yn adlewyrchiad o’n hawch i gyflawni rhagoriaeth academaidd a’n hymrwymiad i gefnogi pob dysgwr fel y gallant gyflawni eu potensial llawn.
Fe wnaeth bron i 200 o’n myfyrwyr Rhaglen Anrhydeddau CGA llwyddo i sicrhau lle mewn prifysgolion Russel Group. Mae’r llwyddiant hyn yn cynrychioli tua 27% o’n hymgeiswyr UCAS, sy’n gamp anhygoel.
Mae Anrhyddedau CGA yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i ddysgwyr galluog sy’n anelu at brifysgolion Russell Group blaenllaw, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt. O sesiynau tiwtorial academaidd wythnosol a hyfforddiant profion gallu i ganllawiau UCAS pwrpasol a pharatoi ar gyfer cyfweliad, mae’r rhaglen elit yn rhoi mantais go iawn i ddysgwyr—ac mae’n gweithio. Bob blwyddyn, rydym yn dathlu myfyrwyr sy’n cael cynigion gan sefydliadau mwyaf cystadleuol y byd. Eleni, mae 14 myfyriwr wedi cael cynnig lle yn naill ai Prifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt.
Ond yr hyn sydd wir yn ein gosod ar wahân yw’r ffordd rydym yn cyfuno rhagoriaeth academaidd â phrofiad o’r byd go iawn. Diolch i bartneriaethau â chyflogwyr blaenllaw megis Admiral, Cyngor Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae ein myfyrwyr Safon Uwch yn elwa ar leoliadau gwaith, anerchiadau am fyd diwydiant, a chyfleoedd mentora sy’n gwella eu ceisiadau prifysgol ac yn ehangu eu gorwelion gyrfaol.
Roedd digwyddiad Design 48 eleni yn enghraifft bwerus o sut rydym yn gwireddu creadigrwydd academaidd. Mewn partneriaeth â Waters Creative, fe wnaeth yr her ddylunio ddwys hon ddod â myfyrwyr celf a dylunio Safon Uwch a galwedigaethol at ei gilydd i gynhyrchu cysyniadau gweledol arloesol ar gyfer briff cleient yn y byd go iawn, i gyd o fewn 48 awr. Nid yn unig mae digwyddiadau o’r fath yn gyffrous; maen nhw’n rhoi cipolwg unigryw i ddysgwyr ar ddisgwyliadau a chyflymder y diwydiant.
Rydym hefyd yn falch o’n partneriaeth sy’n datblygu gydag Arena Abertawe, sydd wedi agor drysau newydd i’n dysgwyr Safon Uwch a hoffai ddilyn gyrfaoedd mewn pensaernïaeth, y cyfryngau, y celfyddydau performio a dylunio cynhyrchu. Fel y gwelwyd yn ein digwyddiad Gyrfaoedd Creadigol yn ddiweddar, roedd myfyrwyr yn gallu clywed gan weithwyr proffesiynol am bopeth o oleuadau a dylunio llwyfan i ddarlunio masnachol, sy’n profi bod yna alw mawr am sgiliau creadigol a ddatblygir mewn lleoliadau academaidd ar draws sectorau amryfal.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn denu myfyrwyr o bob cwr o Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Sir Gaerfyrddin, nid yn unig oherwydd ein canlyniadau rhagorol, ond oherwydd y cymorth o ansawdd uchel a’r dewis a gynigiwn. Mae ein myfyrwyr yn ffynnu mewn amgylchedd deinamig, amrywiol, a chefnogol. Maen nhw’n ymuno â chymuned o ddysgwyr sy’n chwilfrydig, yn uchelgeisiol ac yn benderfynol o wneud eu marc ar y byd.
Rydym yn sicrhau lle i bob myfyriwr, waeth beth fo’i ganlyniadau TGAU, ac yn gweithio’n agos gyda phob unigolyn i lunio’r daith academaidd neu alwedigaethol orau bosibl. Er bod llawer yn ymuno â’n llwybrau Safon Uwch gan anelu at y brifysgol, mae eraill yn darganfod talentau ac uchelgeisiau newydd sy’n eu harwain tuag at yrfaoedd creadigol neu raddau seiliedig ar ddiwydiant.
Dim ond rhan o’r hafaliad yw addysgu ardderchog. Mae ein staff – y mae gan lawer ohonynt gymwysterau ôl-raddedig a phrofiad helaeth ym myd diwydiant – yn cyflwyno gwersi ysbrydoledig sy’n cysylltu gwaith theori’r ystafell ddosbarth â chymhwysiad yn y byd go iawn. Ond yr un mor bwysig yw’r cymorth rhagorol rydym yn ei ddarparu. Gyda thros 80 o rolau dynodedig ym maes cymorth i fyfyrwyr, rydym yn blaenoriaethu lles academaidd, emosiynol ac ariannol pob dysgwr.
O diwtoriaid personol a hyfforddwyr cynnydd i gymorth iechyd meddwl a chymorth ariannol, mae ein systemau wedi’u dylunio i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu llwyddo, ni waeth beth yw ei gefndir neu ei allu.
Nid yw addysg yn ymwneud â chyflawni graddau yn unig; mae’n ymwneud â bod y fersiwn gorau ohonoch chi’ch hun. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn grymuso dysgwyr Safon Uwch i fagu hyder, sefydlu cyfeiriad, a chamu’n ddewr i’r dyfodol.
Felly, wrth i bobl ifanc ar draws Cymru aros am eu canlyniadau TGAU, byddwn yn eu hannog i feddwl yn uchelgeisiol. Nid y cam nesaf yn unig yw’r Coleg, mae’n fan cychwyn hefyd. Ac yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallai fod yn ddechrau rhywbeth gwirioneddol arbennig.