Skip to main content
Students taking part in Engineering, Motor vehicle and Electrical

Coleg Gŵyr Abertawe i groesawu digwyddiad ysbrydoledig i ferched ar Ddiwrnod Rhyngwladol Merched mewn Peirianneg

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o groesawu diwrnod blasu pwrpasol ar gyfer merched yn unig gyda’r nod o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr menyw.

Yn cael ei gynnal ddydd Mercher 25 Mehefin, sef Diwrnod Rhyngwladol Merched mewn Peirianneg, bydd y digwyddiad blasu hwn yn croesawu tua 60 o ddisgyblion o Ysgol Gyfun Dylan Thomas ac Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt am ddiwrnod llawn o archwilio ymarferol ar draws disgyblaethau peirianneg amrywiol.

Wedi’i gynllunio i arddangos byd cyffrous, esblygol peirianneg a thechnoleg, mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle i fyfyrwyr brofi sesiynau rhyngweithiol mewn meysydd megis technoleg cerbydau modur, peirianneg electronig, peirianneg gyffredinol a pheirianneg mathemateg.

“Rydyn ni’n gyffrous i ddarparu amgylchedd cefnogol a chroesawgar i ferched ddarganfod y posibiliadau lawer y gall gyrfa mewn peirianneg eu cynnig,” meddai Maria Francis, Rheolwr Maes Dysgu Cynorthwyol Peirianneg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. “O gerbydau electronig i electroneg uwch, rydyn ni eisiau dangos sut mae technoleg yn newid yn gyflym, a sut maen nhw’n gallu bod yn rhan o’r dyfodol hwnnw.”

Bydd pob sesiwn yn cael ei haddysgu gan staff profiadol a’i chefnogi gan fyfyrwyr menyw sy’n astudio peirianneg yn y Coleg ar hyn o bryd. Y nod yw chwalu stereoteipiau, rhoi hwb i hyder ac annog mwy o fenywod ifanc i ystyried gyrfaoedd cysylltiedig â STEM.

Yn ogystal â gweithgareddau ymarferol diddorol, bydd pob disgybl yn derbyn eitem sy’n berthnasol i’w sesiwn fel rhywbeth bach i’w chofio.

Wrth siarad am ei chyfnod yn y Coleg, dywedodd Jayme-Marie Simon Vaughan, cyn-ddisgybl Cefn Hengoed ac sydd bellach yn astudio ar gyfer ei phrentisiaeth: "Teimlais i’n gyfforddus iawn wrth ymuno â’r cwrs Cerbydau Modur – roedd yn help mawr cael Maria fel fy narlithydd, oherwydd mae hi wedi bod trwy’r rhaglen brentisiaeth ei hun.

"Fe wnaeth Roger Blackmore Autos yn Sgeti roi cyfle prentisiaeth i mi, a dwi wedi bod yna am dair blynedd erbyn hyn. Dwi wrth fy modd gyda’r rhaglen – mae’r darlithwyr, fy nghyflogwr a fy aseswr wedi bod yn anhygoel o gefnogol. Yn bendant byddwn i’n ei hargymell i unrhyw un sy’n ystyried gyrfa yn y diwydiant cerbydau modur."

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o’i ymrwymiad i amrywiaeth o ran rhywedd mewn diwydiannau sydd yn draddodiadol yn cael eu dominyddu gan ddynion. Mae gan yr adran Cerbydau Modur 11 dysgwraig, a nod y digwyddiad hwn yw ysbrydoli hyd yn oed fwy o fenywod ifanc i ymuno â rhengoedd peirianwyr y dyfodol.