Mae grŵp o 10 myfyriwr wedi cymryd rhan yn nhaith gyntaf erioed Coleg Gŵyr Abertawe i Tsieina.
Wedi’i threfnu gan Swyddfa Ryngwladol y Coleg gyda chymorth gan Taith (a ariennir gan Lywodraeth Cymru), fe wnaeth y myfyrwyr - sydd i gyd yn dilyn rhaglen gyfoethogi academaidd Anrhydeddau CGA - ymweld ag Ysgol Arbrofol RCF yn Beijing ac Ysgol Ryngwladol Huamei yn Guangzhou.
“Roedd hwn yn brofiad anhygoel i’r myfyrwyr,” meddai Pennaeth Rhyngwladol y Coleg, Ruth Owen Lewis. “Roedd yn gyfle hollol unigryw iddyn nhw ac rydyn ni mor ddiolchgar i Taith a swyddfa Tsieina'r Coleg am ein helpu i drefnu’r cyfnewid dysgu, addysgu a diwylliannol gwych hwn.
“Roedd hi’n broses ddysgu enfawr i ni fel adran ac roedd yna lawer o waith i’w wneud o fewn ychydig fisoedd byr, gan gynnwys ymweliad cyflym â Llundain i wneud cais am fisas ymwelwyr. Roedden ni hefyd wedi trefnu sesiynau iaith a diwylliant gyda’n myfyrwyr Safon Uwch Tsieineaidd ein hunain, a oedd yn esiampl fendigedig o gydweithredu.”
Yn cymryd rhan yn y daith hefyd roedd Cyfarwyddwr Datblygu Sgiliau a Phartneriaethau Ysgolion Jenny Hill, Darlithydd Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch Samantha Cooper a’r Darlithydd Ffiseg Ian Yekhlef.
Treuliodd staff a myfyrwyr gyfanswm o 10 diwrnod yn cysgodi myfyrwyr Tsieineaidd, ymweld ag atyniadau, a rhoi gwersi i blant o oedran ysgol feithrin.
Yn y ddwy ysgol, cafodd y grŵp groeso cynnes. Bu’n rhaid i fyfyrwyr a staff draddodi areithiau ac fe wnaethon nhw hefyd berfformio fersiwn caboledig o Calon Lân a The Moon Represents My Heart, yr olaf yn gân serch Tsieineaidd draddodiadol yr oeddent wedi’i hymarfer ar gyfer yr achlysur.
Rhoddwyd Jenny, Sam ac Ian ar brawf wrth iddynt addysgu dosbarthiadau gan gynnwys Saesneg, llenyddiaeth, mathemateg, ffiseg a seicoleg.
Ar ôl diwrnod llawn o ddysgu, o 7am tan 6pm, helpodd y myfyrwyr i gyflwyno gwersi i’r disgyblion iau.
Yn ogystal â rhaglen galed o astudio, cawsant gyfle i ymlacio hefyd ac roeddent yn ddigon ffodus i fwynhau atyniadau twristaidd megis Mur Mawr Tsieina a Phalas yr Haf a chrwydro Beijing ar daith dywysedig yn ystod y nos.
Roedd hwn yn brofiad rhyfeddol sydd wedi creu argraff fawr ar y dysgwyr.
Meddai Harrison: “Dwi eisiau astudio hanes a gwleidyddiaeth yn y brifysgol ac mae’r daith hon wir wedi fy helpu i archwilio ymhellach yn y maes hwn oherwydd mae gan Tsieina hanes dwfn, diwylliant amrywiol a system wleidyddol sydd yn wahanol iawn i’n system ni.
“Ar y rhaglen hon, roeddwn i’n gallu mwynhau cyfoethogi diwylliannol sydd wedi rhoi modd i mi werthfawrogi traddodiadau Tsieineaidd a deall cymdeithas Tsieina y gorffennol a heddiw. Ar ben hynny, roedd ymweliadau ag amgueddfeydd a safleoedd hanesyddol yn gyfle i mi wireddu fy amcanion dysgu a gweld yn uniongyrchol y llinachau niferus sydd wedi siapio’r wlad i fod y pŵer mawr byd-eang y mae hi heddiw gan fy ngwneud i’n unigolyn mwy crwn â meddylfryd byd-eang.”
“Roedd yn ddiddorol gweld sut maen nhw’n chwarae cerddoriaeth i orffen pob gwers ac mae’r myfyrwyr yn rhedeg rhwng dosbarthiadau i gyrraedd mewn pryd, rhywbeth fyddech chi ddim yn ei weld yn aml iawn yn y DU,” ychwanegodd Sasha. “Roedd hi hefyd yn rhyfeddol gweld pa mor wahanol yw’r cwricwla, oherwydd pan es i i fy ngwers mathemateg, roedden nhw’n astudio cynnwys mathemateg bellach Cymreig a phan es i i’w dosbarth mathemateg bellach roedden nhw’n astudio cynnwys mathemateg Safon Uwch Cymreig. Dwi mor ddiolchgar am y cyfle hwn a dwi wedi creu atgofion di-ri a ffrindiau newydd a fydd yn para am oes.”
“Dwi’n teimlo bod y rhaglen wedi codi cwr y llen ar addysg mewn diwylliannau eraill, a manteision cydweithredu academaidd byd-eang,” cytunodd Ethan. “Ar y daith, roeddwn i’n gallu ymdrwytho mewn diwylliant dysgu sy’n wahanol iawn i’r un yn y DU. Yn ogystal â hyn, wrth ymweld ag atyniadau mewn ardaloedd diwylliannol ac amgueddfeydd, dysgais i lawer am ddiwylliannau a hanes Tsieineaidd hynafol.
“Uchafbwynt y daith oedd y cyfle i gwrdd a rhyngweithio â phobl â diddordebau tebyg i mi o ddiwylliant mor wahanol. Wnes i fwynhau yn fawr sgwrsio am drefn ddyddiol ein gilydd, ein traddodiadau cenedlaethol, a’r gwahaniaethau allweddol rhwng bywyd yn y DU a Tsieina. Cafodd y daith effaith fawr gan ehangu fy ngorwelion o weithio ac astudio dramor yn y dyfodol. Wnes i fwynhau ymdrwytho mewn diwylliant ac amgylchedd ysgol mor wahanol hefyd a phwyso a mesur yr hyn sy’n well gen i am y ddwy system addysg. Roedd y daith yn llawn uchafbwyntiau allweddol ac roedd y profiad cyfan wir yn un o uchafbwyntiau fy mywyd hyd yn hyn.”
“Fe wnaeth dros 70 o fyfyrwyr wneud cais am y daith unwaith-mewn-oes hon a bydd y 10 ymgeisydd llwyddiannus wedi creu atgofion gydol oes y byddan nhw’n eu trysori,” meddai Dr Emma Smith, Cydlynydd Anrhydeddau CGA / Hyb Seren Abertawe. “Mae rhoi’r cyfleoedd cyfnewid diwylliannol hyn i’n myfyrwyr yn gwella eu profiad addysgol a’r sgiliau caled a meddal y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan wella felly eu cyfleoedd o sicrhau cyflogaeth, neu symud ymlaen i addysg uwch mewn prifysgolion blaenllaw. Mae gweithio gyda’n tîm Rhyngwladol a’u partneriaid strategol o amgylch y byd yn ein galluogi i gyflwyno’r rhaglenni cyffrous hyn a darparu cyfleoedd sy’n newid bywydau.”
DIWEDD
Anrhydeddau CGA yw rhaglen gyfoethogi a chymorth academaidd y Coleg i fyfyrwyr (16-18 oed) sydd am wneud cais i’r prifysgolion gorau yn y DU a thu hwnt. Mae’n cwmpasu Academi Seren, Step Up, Rhaglen Baratoi at Rydgrawnt a’r Rhaglen Meddygon, Deintyddion a Milfeddygon.
Taith yw rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol a sefydlwyd i greu cyfleoedd sy’n newid bywydau i bobl yng Nghymru ddysgu, astudio a gwirfoddoli ym mhob cwr o’r byd.