Skip to main content
 Group outside Sketty Hall

Seren rygbi Jonathan Davies OBE yn cyflwyno dosbarth meistr rheoli yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Roedd Coleg Gŵyr Abertawe wrth ei fodd o groesawu’r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol a’r darlledwr Jonathan Davies OBE, i Ysgol Fusnes Plas Sgeti fel rhan o’u cyfres o ddosbarthiadau meistr rheoli.

Daeth y digwyddiad, a gyflwynwyd gan Ymgynghorydd Datblygu Busnes y Coleg a chyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Stuart Davies, â staff a ffigurau blaenllaw o’r gymuned fusnes leol ynghyd am gyfle prin i gael mewnwelediad uniongyrchol gan un o ffigurau chwaraeon mwyaf uchel eu parch Cymru.

Myfyriodd Jonathan ar ei yrfa nodedig mewn chwaraeon elit i gyflwyno sesiwn bwerus a diddorol a archwiliodd themâu craidd sy’n hanfodol i lwyddiant yn yr amgylchedd busnes sydd ohoni heddiw, gan gynnwys gwydnwch, gosod nodau, rheoli argyfyngau, a’r gallu i lywio llwyddiant a methiant.

Gan gyfuno straeon personol cymhellol â mewnwelediadau proffesiynol dwfn, dangosodd Jonathan yn glir y pethau tebyg rhwng chwaraeon elit a busnesau sy’n perfformio’n dda. 

Cynigiodd ei fyfyrdodau wybodaeth amhrisiadwy i’r rhai mewn rolau arweinyddiaeth, gan amlygu sut y gall disgyblaethau chwaraeon lywio a gwella’r broses o wneud penderfyniadau strategol, deinameg tîm, a diwylliant sefydliadol. 

Roedd arweinwyr busnes o bob cwr o Dde Cymru yn bresennol o gwmnïau megis Kier Construction, Castell Howell Foods, Admiral a Pobl yn ogystal â’r Gweilch a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Jonathan:

"Roedd yn bleser mawr siarad yn y Coleg a rhannu rhai o’r profiadau a’r gwersi personol dwi wedi’u dysgu drwy gydol fy ngyrfa mewn chwaraeon a darlledu. Dwi’n credu bod y pethau tebyg rhwng chwaraeon a llwyddiant mewn busnes yn glir — o adeiladu timau gwydn i arwain trwy sialensiau. 

Mae digwyddiadau fel hyn yn ffordd wych o agor safbwyntiau newydd ac annog diwylliant o gydweithredu rhwng busnes. Dwi’n gobeithio bod y bobl oedd yn bresennol wedi cael syniadau ac ysbrydoliaeth y gallan nhw eu defnyddio ar eu teithiau proffesiynol eu hunain.’’

Roedd Mark Jones MBE, Prif Swyddog Gweithredol y Coleg, wrth ei fodd o groesawu Jonathan:

"Ein gweledigaeth ar gyfer Ysgol Fusnes Plas Sgeti yw cyflwyno pob un o’n myfyrwyr i arwain a rheoli mewn ffordd ymarferol a realistig. Roedd dosbarth meistr Jonathan yn ysbrydoledig ac yn nodyn atgoffa pwysig o’r sgiliau trosglwyddadwy sydd gan chwaraeon i’w cynnig i fyd busnes. Rydyn ni’n falch o gynnig cyfle i’n myfyrwyr ac arweinwyr busnes lleol ymgysylltu ag unigolion dylanwadol.”

Dywedodd Ben Davies, Rheolwr-gyfarwyddwr LBS Builders Merchants, a ddaeth i’r digwyddiad: "Roedd yn ddigwyddiad gwych ac yn gyfle gwerthfawr i glywed sut mae’r egwyddorion o reoli pobl yn effeithiol mewn chwaraeon — arwain timau, meithrin ymddiriedaeth, a dod â’r gorau allan o unigolion — yn gallu cael eu cymhwyso yn uniongyrchol yn y busnes.’’

Ychwanegodd Simon Pritchard, Cadeirydd Manufacturing Wales: “Roedd anerchiad Jonathan Davies, Tu Hwnt i’r Llinell Gais, yn ddosbarth meistr mewn gwersi arweinyddiaeth o fyd chwaraeon. Mae ei fewnwelediadau ar feithrin diwylliant cefnogol, mentro, ac arwain gyda gwydnwch yn atseinio’n ddwfn â’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu mewn gweithgynhyrchu yng Nghymru. Fel Cadeirydd Manufacturing Wales, dwi’n cael fy ysbrydoli i gymhwyso’r egwyddorion hyn i feithrin arloesedd ac undod ar draws ein diwydiant.”

Mae’r dosbarth meistr diweddaraf yn cadarnhau ymrwymiad Coleg Gŵyr Abertawe ymhellach trwy bontio addysg a phrofiad byd go iawn. Trwy wahodd lleisiau o fyd chwaraeon elit a thu hwnt, mae’r Coleg yn parhau i feithrin deialog ystyrlon sy’n ysbrydoli twf, arloesedd, a rhagoriaeth ar draws pob sector.