Mae'r cwrs prentisiaeth cyntaf erioed sy'n canolbwyntio ar roi lle canolog i bobl wrth ddylunio gwasanaethau cyhoeddus digidol yn dathlu’r ffaith bod tri o’i fyfyrwyr wedi graddio.
Datblygwyd y brentisiaeth Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) mewn partneriaeth â Choleg Gŵyr Abertawe.
Dyma yw’r cwrs 18 mis cyntaf o'i fath yn y DU sy’n cynnig hyfforddiant mewn swydd gyda CDPS ym maes dylunio gwasanaethau, ymchwil i ddefnyddwyr a datblygu cynnwys tra bod y chymhwyster ffurfiol yn cael ei ddarparu gan Goleg Gŵyr Abertawe. (CGA)
Nod y brentisiaeth oedd meithrin sgiliau a gallu digidol i sicrhau gwasanaethau cynaliadwy, hygyrch, cynhwysol ac wedi'i cynllunio i fodloni anghenion y bobl sy'n eu defnyddio.
Mae'r tri phrentis nid yn unig wedi cwblhau cwrs achrededig Agored Cymru yn llwyddiannus ond hefyd wedi cael gwaith llawn amser gyda CDPS.
Mae Ruth Garner, Sarah Floyd ac Alexandra Wagstaff bellach yn gweithio i CDPS fel Is-swyddogion Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr a byddant yn gweithio ar ddylunio cynnwys ac ymchwil defnyddwyr sy'n cefnogi gwasanaethau'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, dywedodd Ruth, cyn-gynorthwyydd addysgu o Gaerdydd, "O’n i'n nerfus i adael swydd gyfarwydd, ond mae'r brentisiaeth yma wedi rhagori ar fy nisgwyliadau ac wedi fy mharatoi’n llawn ar gyfer gyrfa yn y maes hwn. Dwi’n deall yn llwyr bwysigrwydd dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr gan fod ganddo'r gallu weld gwasanaeth yn llwyddo neu fethu.
"Dwi’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu fy sgiliau a rhoi ar waith yr hyn yr wyf wedi'i ddysgu gyda rhagor o brosiectau CDPS. Y bwriad yw creu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled Cymru."
Dywedodd Peter Thomas, Pennaeth Sgiliau a Gallu Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, “Fe wnaethom lansio’r cynllun prentisiaeth i ddechrau mynd i’r afael â’r prinder critigol o sgiliau digidol yng Nghymru. Ein nod oedd creu llwybrau ymarferol i yrfa ym maes digidol, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac adeiladu llif o weithwyr proffesiynol medrus.
"Mae llwyddiant y cynllun yma, wedi'i nodi gan seremoni graddio ein prentisiaid cyntaf erioed, yn dyst i waith caled, creadigrwydd ac ymrwymiad pawb oedd yn rhan o’r prosiect. Mae ein prentisiaid arloesol, Ruth, Alexandra, a Sarah wedi gosod safon uchel ar gyfer cyfranogwyr y dyfodol ac mae'r cynllun wedi gosod y sylfaen ar gyfer newid ystyrlon mewn gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru."
Helpodd Bruce Fellowes, Pennaeth Hyfforddiant GCS, i ddatblygu’r cwrs ac mae wedi cael ei ysbrydoli gan y tri phrentis cyntaf – yr hyn y maent wedi llwyddo i’w gyflawni a’r hyn y maent wedi’i ddysgu.
Dywedodd, "Rwy'n falch iawn o'r llwyddiant y mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi'i gael gyda'r dysgwyr Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr o'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. O'r camau cynllunio hyd at gwblhau'r fframwaith prentisiaethau, mae'r rheolwyr a'r prentisiaid wedi ymgysylltu'n llawn â'r rhaglen. Mae'r rheolwyr wedi cefnogi'r prentisiaid gan roi amser iddyn nhw gynnal eu hastudiaethau. Maen nhw wedi rhoi swyddi a chyfrifoldebau perthnasol iddyn nhw allu casglu'r dystiolaeth angenrheidiol ar gyfer y cwrs, ac wedi ceisio hyrwyddo'r brentisiaeth yn fewnol ac yn allanol. Dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda CDPS am flynyddoedd lawer i ddod."
Mae gan wyth sefydliad arall o bob cwr o Gymru eisoes fynediad i'r cwrs, gyda 15 o brentisiaid yn dysgu sgiliau digidol hanfodol ar hyn o bryd.
Dywedodd Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, "Mae sgiliau digidol yn sylfaen i wasanaeth cyhoeddus modern, ac mae'r brentisiaeth arloesol hon yn dangos ymrwymiad Cymru i ddatblygu doniau cynhenid. Mae'n wych gweld Ruth, Sarah ac Alexandra yn graddio fel ein carfan gyntaf o arbenigwyr, sydd nawr â sgiliau hanfodol i helpu i drawsnewid sut ry’n ni’n darparu gwasanaethau cyhoeddus.
"Trwy fuddsoddi mewn sgiliau digidol a chanolbwyntio ar anghenion defnyddwyr, ry’n ni’n adeiladu sector cyhoeddus cryfach, mwy ymatebol sy'n gweithio i bawb wrth greu cyfleoedd gyrfa gwerthfawr i dalent leol."
Dysgwch fwy am y Brentisiaeth Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr yma.
*Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch gemma.murphy@digitalpublicservices.gov.wales
Astudiaeth Achos
O ddysgu digidol i weithio digidol: Taith y Prentisiaid
Roedd angerdd dros helpu pobl yn brif reswm i’r tri phrentis gofrestru ar y cwrs Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr cyntaf erioed.
Ymunodd Sarah Floyd o Abertawe â’r brentisiaeth ar ôl gweithio am 21ain mlynedd fel athrawes i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Roedd gan Sarah empathi tuag at greu gwasanaethau cyhoeddus sy’n wirioneddol gynhwysol i’r bobl sy’n eu defnyddio.
Meddai: “Roedd rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf a chreu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y defnyddiwr yn apelio’n fawr ataf, ac rwy’n ddiolchgar i CDPS am hyrwyddo’r brentisiaeth hon. Mae wedi rhoi cyfle i mi gael profiad ymarferol yn ogystal â chwblhau modiwlau mewn coleg. Er nad ydw i’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mwyach, bydd datblygu gwasanaethau cyhoeddus gwell yn helpu i greu dyfodol addas yng Nghymru i’r bobl ifanc yr oeddwn arfer eu dysgu.”
Roedd gan Ruth Garner gefndir mewn addysg hefyd, ar ôl gweithio fel cynorthwyydd cymorth dysgu mewn ysgol gynradd yng Nghaerdydd. Ysbrydolodd ei brwdfrydedd dros gyfathrebu digidol iddi ddilyn Cwrs Tystysgrif mewn Marchnata Digidol Proffesiynol. Er mwyn datblygu ei gyrfa, prentisiaeth oedd y cam nesaf.
Dywedodd, "Mae'r profiad yma wedi atgyfnerthu sut mae dylunio cynnwys yn chwarae rhan hanfodol wrth wneud gwasanaethau digidol yn fwy cynhwysol ac yn haws i’w ddefnyddio. Yn y byd sydd ohoni, mae cyfathrebu digidol yn chwarae rhan hanfodol yn dod â phobl a chymunedau ynghyd. Rwy’n gobeithio y bydd y sgiliau rydw i wedi'u datblygu yn fy helpu i ddylunio gwasanaethau cyhoeddus hygyrch yng Nghymru."
Cafodd Alexandra Wagstaff, o'r Barri ei hysbrydoli i gofrestru ar gyfer y brentisiaeth ar ôl gweithio ym maes ymchwil glinigol a gweld mor werthfawr yw cynnwys cleifion yn y broses.
Dywedodd, "Wedi gweld gwerth safbwyntiau cleifion i sicrhau bod y ffocws yn parhau ar ganlyniadau a llesiant, roeddwn i’n awyddus i ddysgu sut mae lleisiau defnyddwyr yn llywio dylunio gwasanaethau. Ry’n ni’n byw mewn oes ddigidol, ac mae cymaint o waith i’w wneud i fanteisio i’r eithaf ar yr offer digidol sydd gennym! Gall fy nghyfraniadau helpu pobl ledled Cymru – mae hynny’n yn beth cyffrous iawn!."
Nodyn i Olygyddion:
Sefydlwyd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) gan Lywodraeth Cymru i helpu sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau digidol gwell sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Maent yn darparu arweiniad, cymorth ac offer i adeiladu galluoedd digidol ar draws y sector cyhoeddus. Gallwch ddarllen rhagor yma Hafan | Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Coleg Gŵyr Abertawe yw un o'r darparwyr prentisiaethau mwyaf yng Nghymru sy'n cynnig ystod amrywiol o raglenni hyfforddi sy'n cefnogi cwmnïau preifat bach, sefydliadau rhyngwladol mawr a'r sector cyhoeddus. Fe gynigir rhai o'i raglenni hefyd yn Lloegr hefyd. Gallwch ddarllen rhagor yma Hafan|CGA