Skip to main content
college staff

Cyhoeddi enillwyr Cymrodoriaeth Addysgu Technegol 2025/2026

Mae’r Arweinydd Cwricwlwm Steve Williams a’r Darlithydd Gerard Morgan o’r adran Peirianneg Electronig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi derbyn un o saith Cymrodoriaeth Addysgu Technegol hynod gystadleuol ar gyfer 2025/26.

Rhoddir y dyfarniadau nodedig hyn ar y cyd gan y Sefydliad Addysg a Hyfforddiant (ETF) a’r Comisiwn Brenhinol ar gyfer Arddangosfa 1851.

Bydd cyd-Gymrodoriaeth Steve a Gerard yn edrych ar eu prosiect WorldSkills, The Skills Sphere.

Ym mis Tachwedd, fe wnaeth Gerard gyflwyniad ar y prosiect i ymarferwyr WorldSkills eraill ym Manceinion ac yn fuan wedyn fe wnaeth cynrychiolydd o ETF gysylltu ag ef a’i annog i ymgeisio i’r rhaglen Gymrodoriaeth.

Mae The Skills Sphere yn rhoi cyfle i ddysgwyr gymryd rhan mewn profion pwysedd yn yr ystafell ddosbarth. Mae profion pwysedd yn efelychu tasgau gwaith go iawn o fewn terfyn amser penodol fel bod myfyrwyr yn cael blas ar fywyd yn y gweithle, wrth iddynt anelu at gyflawni eu hamserau gorau personol a datblygu eu sgiliau meddal a thechnegol.

Yn ogystal, mae’r prosiect wedi cryfhau cysylltiadau niferus yr adran â byd diwydiant, gan gynnwys cyflogwyr lleol megis Fisher & Paykel, Zeta Alarms a Trojan Electronics mewn holiadur sgiliau sy’n gobeithio rhoi sylw i fylchau gwybodaeth.

Dyfarnwyd y Cymrodoriaethau yn ffurfiol mewn digwyddiad yn y Royal Society, Llundain ar ddydd Gwener 28 Mawrth. Yn ystod y digwyddiad, fe wnaeth Cymrodorion o flynyddoedd blaenorol roi cyflwyniadau ar eu gweithgarwch Cymrodoriaeth a’i effaith.

Caiff ceisiadau am Gymrodoriaethau Addysgu Technegol eu hasesu yn erbyn meini prawf gan gynnwys dangos dulliau hynod effeithiol o wella dysgu ac addysgu mewn addysg dechnegol, sut bydd y Gymrodoriaeth yn cael ei defnyddio i ysbrydoli eraill, a chynllunio cyfleoedd datblygu proffesiynol i effeithio ar bedagogeg ac arferion proffesiynol athrawon a hyfforddwyr eraill. 

Oherwydd ansawdd uchel y ceisiadau eleni, Cymrodorion 2025/26 yw’r garfan fwyaf eto gyda saith Cymrodoriaeth yn cael eu dyfarnu i naw Cymrawd. Mae’r garfan eleni yn cynnwys y Cymrawd cyntaf o Ynysoedd y Sianel yn ogystal â Chymrodorion Addysgu Technegol ledled Cymru a Lloegr.

Bydd Cymrodorion yn datblygu gweithgareddau cyfnewid a throsglwyddo gwybodaeth, yn rhannu arferion effeithiol mewn cynadleddau cenedlaethol a rhanbarthol a thrwy rwydweithiau, yn hwyluso datblygiad proffesiynol parhaus ac yn cyfrannu at arwain agweddau trwy gymuned ymarfer technegol sefydledig. Byddan nhw hefyd yn cyfrannu at adroddiad terfynol i gymell ac ennyn diddordeb ymarferwyr addysg dechnegol yn eu meysydd pwnc arbenigol.

Yn ogystal, bydd yr holl Gymrodorion bellach yn gyn-fyfyrwyr y Comisiwn Brenhinol, fydd yn rhoi hyd yn oed fwy o gymorth iddynt lywio gwelliannau ansawdd mewn addysgu a hyfforddiant STEM technegol.

“Rydyn ni wrth ein boddau bod Steve a Gerard wedi derbyn y gyd-Gymrodoriaeth nodedig hon gan yr ETF,” meddai’r Pennaeth Kelly Fountain. “Mae Steve wedi chwarae rôl bwysig iawn o ran sicrhau enw rhagorol y Coleg ym maes hyfforddiant galwedigaethol am dros 40 blynedd, gan helpu myfyrwyr di-ri i lwyddo mewn cystadlaethau sgiliau ar y llwyfan rhanbarthol a chenedlaethol, gan gyfuno ei waith fel Arweinydd Cwricwlwm Peirianneg Electronig â’i ymroddiad fel hyfforddwr Worldskills.

“Mae Gerard hefyd wedi chwarae rôl hollbwysig wrth fentora a hyfforddi’r to nesaf o dalent yn y sector. Mae’r ddau wedi cryfhau a gwella cyswlltiadau’r Coleg â byd diwydiant yn ystod y prosiect cyffrous hwn. Llongyfarchiadau mawr i’r ddau ohonyn nhw – mae’r gydnabyddiaeth hon yn haeddiannol dros ben.”   

Ewch i wefan ETF i ddarllen y stori lawn. 

DIWEDD

Y Sefydliad Addysg a Hyfforddiant

Nod y Sefydliad Addysg a Hyfforddiant (ETF) yw hyrwyddo rôl hollbwysig y gweithlu Addysg Bellach a Sgiliau, gosod safonau proffesiynol a darparu llwybr o ddatblygiad proffesiynol i addysgwyr ac arweinwyr ar draws y sector. Trwy weithio mewn partneriaeth a goleuo newidiadau’r sector, rydym yn galluogi sector AB a Sgiliau ffyniannus. Gyda’n gilydd, rydym yn trawsnewid bywydau a chyfleoedd i ddysgwyr 14 oed a hŷn.

Comisiwn Brenhinol ar gyfer Arddangosfa 1851

Mae’r Comisiwn Brenhinol ar gyfer Arddangosfa 1851 yn dyfarnu rhyw 35 o Gymrodoriaethau ac Ysgoloriaethau ôl-raddedig y flwyddyn, ar gyfer astudiaethau uwch ac ymchwil ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg, yr amgylchedd adeiledig a dylunio. Mae hefyd yn rhoi nifer fach o Ddyfarniadau Arbennig i gefnogi prosiectau sy’n cyd-fynd â’i nodau cyffredinol. Mae llawer o’r rhain yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r cyfleoedd a gyflwynir gan wyddoniaeth a pheirianneg.

Lluniau: Education and Training Foundation