Skip to main content
Rhyngwladol

Coleg Gŵyr Abertawe yn Dathlu Partneriaethau Rhyngwladol Cryf

Rhyngwladol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o groesawu eto grŵp amrywiol o fyfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio cyrsiau Safon Uwch yn bennaf ar Gampws Gorseinon.

Eleni, mae’r myfyrwyr wedi ymuno â ni o wledydd sy’n cynnwys Tsieina, Fietnam, Canada, Yr Eidal, a Botswana, gan ddod â chyfoeth o brofiadau diwylliannol gyda nhw sy’n gwella ac yn rhyngwladoli cymuned ein Coleg.

Mae gan y Coleg enw ardderchog am ei ganlyniadau Safon Uwch rhagorol a chyfraddau dilyniant cryf i’r prifysgolion gorau yng Nghymru a ledled y DU. Mae myfyrwyr rhyngwladol yn elwa ar yr amgylchedd academaidd o ansawdd uchel, gyda chymorth pwrpasol i’w helpu i wireddu eu dyheadau.

I gryfhau’r cysylltiadau rhyngwladol hyn, mae’r Coleg yn cynnal nifer o bartneriaethau ag ysgolion ym mhedwar ban byd. I gefnogi’r fenter hon, mae ein Pennaeth Rhyngwladol Ruth Owen Lewis a’r Prif Swyddog Gweithredol Mark Jones MBE wedi dychwelyd yn ddiweddar o ymweliad cyfoethog â Tsieina. 

Roedd yr ymweliad yn cynnwys ymgysylltiadau â nifer o ysgolion a rhanddeiliaid, gyda dau ddiwrnod yn Wuhan, talaith Hubei yng nghanol Tsieina. Wuhan yw chwaer-ddinas Abertawe ac mae’n rhannu cysylltiad hanesyddol cyfoethog â’n cymuned.

Mae’r bond rhwng Wuhan ac Abertawe yn dyddio’n ôl i ganol y 19eg ganrif, a amlygir gan gyfraniadau Griffith John, cenhadwr a anwyd yn Abertawe a gyrhaeddodd Wuhan yn 1861. Mae ei waddol parhaus yn cynnwys sefydlu ysbyty cyntaf Wuhan, sydd wedi esblygu erbyn hyn i Ysbyty Unedig Tsieina, gan wasanaethau dros 3.5 miliwn o bobl yn flynyddol. Mae amgueddfa’r ysbyty yn dal i fod yn deyrnged i waith arbennig Griffith John.

Yn ogystal, sefydlwyd ysgol gyntaf y ddinas gan Griffith John yn 1896, lle saif Ysgol Ganol Rhif 4 Wuhan, un o’r ysgolion mwyaf llwyddiannus yn y ddinas. Mae rhai o’r adeiladau gwreiddiol, sydd wedi’u hadfer yn fanwl, yn sefyll fel tyst i’w gyfraniadau ac maen nhw’n ffynhonnell o falchder a diolchgarwch i bobl Wuhan.

Wrth siarad am yr ymweliad, dywedodd Mark Jones MBE: "Roedd yn fraint gweld cryfder ein cysylltiad â’n chwaer-ddinas yn uniongyrchol ac effaith barhaol gwaddol Griffith John.

"Mae’r cysylltiadau hyn yn parhau i ddatblygu dealltwriaeth ddiwylliannol a chydweithrediad rhwng ein cymunedau."

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn edrych ymlaen at barhau â’i ymrwymiad i ymgysylltu rhyngwladol, gan ddathlu’r gyfnewidfa gyfoethog o syniadau a phrofiadau sy’n fuddiol i’n myfyrwyr a’r gymuned ehangach.

DIWEDD