Yn dilyn nifer o ragbrofion cyffrous ledled y wlad yn gynharach eleni, mae Rownd Derfynol Dysgwr SPARKS y Flwyddyn 2025 wedi dod i gasgliad cyffrous, gan arddangos sgiliau, ymroddiad ac angerdd myfyrwyr a phrentisiaid trydanol gorau’r DU. Yn y rownd derfynol, a gynhaliwyd ar Ebrill 2 a 3 yn JTL Training Birmingham, aeth saith o gystadleuwyr talentog benben â’i gilydd mewn cystadleuaeth ddwys a gynhaliwyd dros gyfnod o ddeuddydd.
Braf yw cyhoeddi mai Drew Squires O’Sullivan o Goleg Gŵyr Abertawe ddaeth yn ail yng nghategori Dysgwr y Flwyddyn 2025 SPARKS.
Ychwanegodd Zoe Tanner, Rheolwr Gweithredol SPARKS: “Mae’r rownd derfynol wedi bod yn ffordd o arddangos arbenigedd ymarferol a rhagoriaeth dechnegol o fewn y diwydiant trydanol. Fe wnaeth pob unigolyn a gyrhaeddodd o rownd derfynol arddangos sgiliau, cywirdeb a phroffesiynoldeb gwych wrth weithio dan amodau ‘go iawn’. Mae safon y gwaith wedi bod yn wych ac mae’r cystadleuwyr wedi gosod meincnod newydd ar gyfer cystadlaethau’r dyfodol, gan amlinellu dyfodol disglair y diwydiant trydanol.”