Skip to main content

Newyddion y Coleg

Noson arbennig i brentisiaid, cyflogwyr a thiwtoriaid disglair

Noson arbennig i brentisiaid, cyflogwyr a thiwtoriaid disglair

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal seremoni wobrwyo arbennig yn Stadiwm Swansea.com fel rhan o Wythnos Prentisiaethau Cymru 2024.

Roedd y digwyddiad yn anrhydeddu ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol prentisiaid y Coleg, staff a phartneriaid cyflogwyr o bob cwr o Gymru a Lloegr, ac wrth y llyw roedd y cyflwynydd/darlledwr Ross Harries, sydd wedi bod yn wyneb rygbi Cymru am fwy na degawd.

Siaradwr gwadd y noson oedd Lucy Cohen, cyd-sylfaenydd a phrif swyddog gweithredol Mazuma, y gwasanaeth cyfrifyddu cyntaf sy’n seiliedig ar danysgrifiadau ar gyfer busnesau bach a microfusnesau.

Darllen mwy
Students building with straws

Arddangos sgiliau creadigol ar gyfer digwyddiad Design 48

Cafodd myfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau celfyddydau creadigol a gweledol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gyfle gwych i gwrdd â chyflogwyr ac artistiaid yn ystod ail arddangosfa flynyddol Design 48, a gafodd ei chynnal ar gampysau Gorseinon a Llwyn y Bryn.

Datblygwyd y syniad y tu ôl i Design 48 gan y Coleg mewn partneriaeth â Rachael Wheatley o Waters Creative.

Darllen mwy
Students standing outside Swansea Arena

Seremoni Graddio AU Coleg Gŵyr Abertawe 2023

Fe wnaeth tua 120 o fyfyrwyr addysg uwch o Goleg Gŵyr Abertawe ddathlu llwyddiant yn ddiweddar mewn digwyddiad graddio arbennig yn Arena Abertawe.

Roeddent yno i ddathlu eu cyflawniadau mewn amrywiaeth eang o gyrsiau lefel uwch gan gynnwys busnes, cyfiawnder troseddol, cyfrifiadura, peirianneg, a gofal plant.

“Unwaith eto, dwi mor falch o groesawu pawb i Arena Abertawe lle gallwn ddathlu cyflawniadau academaidd ein holl fyfyrwyr addysg uwch,” meddai’r Pennaeth a’r Prif Weithredwr, Mark Jones.

Darllen mwy
Group of students

Ysgol Aeaf 2024: Dalian Mingde Senior High School

Fe aeth myfyrwyr Dalian Mingde Senior High School ar drip addysgol buddiol iawn wrth iddynt gymryd rhan yn Ysgol Aeaf 2024 Coleg Gŵyr Abertawe. Dan arweiniad y Swyddfa Ryngwladol, cafodd y myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brofiadau academaidd a diwylliannol yn ystod eu hymweliad ag Abertawe.

Darllen mwy
Delwedd graffigol gyda’r pennawd Wythnos Prentisiaethau Cymru, gydag unigolyn yn gweithio mewn amgylchedd mecanyddol ac yn gwiso cyfarpar diogelu personol.

Noson agored a sesiynau gwybodaeth Wythnos Prentisiaethau Cymru

Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn ddathliad sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn dangos pam mae prentisiaethau yn benderfyniad athrylithgar i unigolion, cyflogwyr a gweithlu’r dyfodol.

Eleni, mae WP Cymru yn rhedeg o ddydd Llun 5 i ddydd Sul 11 Chwefror, ac mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i egluro a dathlu prentisiaethau:

Darllen mwy

Dros 60 o gyflogwyr yn lleisio pryder ynghylch toriadau posibl i brentisiaethau

Mae dros 60 o gyflogwyr o bob rhan o Gymru wedi dod ynghyd i alw am ddiogelu cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau flaenllaw Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau ffyniant economaidd Cymru.

Darllen mwy
Kelly Fountain

Coleg Gŵyr Abertawe yn penodi Pennaeth newydd

Mae un o golegau addysg bellach mwyaf Cymru, Coleg Gŵyr Abertawe, wedi penodi Kelly Fountain fel ei Bennaeth nesaf.

Bydd Kelly, cyn Ddirprwy Bennaeth Gwasanaethau Academaidd yng Ngrŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot, yn dechrau’r swydd yn Ionawr 2024.

Bydd Kelly yn dod â mwy nag 20 mlynedd o brofiad i’r rôl, gyda hanes o arweinyddiaeth a rheolaeth strategol gryf, ac ehangder a dyfnder o brofiad uwch mewn sefydliadau cymhleth ac amlhaenog.

Darllen mwy
Students listening to a speaker

Myfyrwyr yn cwrdd â phobl o’r diwydiannau creadigol

Mae myfyrwyr cyfryngau galwedigaethol ar Gampws Gorseinon wedi cael cyfle anhygoel i gwrdd â phobl o fyd diwydiant.

Aeth aelodau o dîm Cynllun Cynhyrchu Creadigol BBC Cymru Wales i ddigwyddiad rhwydweithio anffurfiol gyda’n dysgwyr ychydig cyn gwyliau’r Nadolig.

Roedd fformat y digwyddiad ar ffurf ‘caru cyflym’ lle cwrddodd y myfyrwyr â gwneuthurwyr rhaglenni o BBC Cymru Wales a’r sector annibynnol, ac ar draws amrywiaeth eang o genres gan gynnwys newyddion, chwaraeon, radio, digidol a marchnata, addysg ac archifau.

Darllen mwy
Grŵp o fyfyrwyr

Blwyddyn newydd, chi newydd? Cyrsiau rhan-amser yn dechrau ym mis Ionawr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Wrth i ni groesawu’r Flwyddyn Newydd, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn eich gwahodd i wella’ch sgiliau gyda’u cyrsiau rhan-amser. Darllen mwy
Myfyrwyr yn y dŵr

Sblasio ar gyfer elusen

Mae grŵp o fyfyrwyr a staff eofn o Goleg Gŵyr Abertawe wedi mentro i mewn i ddŵr fferllyd Bae Caswell i godi arian tuag at elusen Prosiect Addysg Gymunedol Cenia (PAGC). Maen nhw eisoes wedi codi dros £800! Darllen mwy