
Llongyfarchiadau i Cian Curry, myfyriwr Celf a Dylunio L3 ar dderbyn gwobr alwedigaethol oddi wrth Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru (CALC).
“Fel un o Feistri Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru (CALC), braf yw gweld ein Cwmni yn parhau i hyrwyddo addysg, celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru trwy’r Rhaglen Wobrwyo flynyddol. Dros y blynyddoedd mae’r rhaglen wobrwyo hirsefydlog wedi caniatáu’r Cwmni i “Feithrin Dawn Gymreig”, gan alluogi’r cyfranogwyr i deithio, astudio ac ymgymryd â phrosiectau cymunedol sy’n hybu eu datblygiad gyrfa a gwella a datblygu eu doniau. Mae’r Cwmni yn falch o fod wedi chwarae rhan yn nheithiau gyrfa’r derbynwyr ac rydym yr un mor falch o barhau i wneud hyn.
“Fel un o Lifreiwyr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, mae’n bleser gen i longyfarch Cian Curry o Goleg Gŵyr Abertawe ar ennill y wobr haeddiannol hon. Mae ei ddawn a’i ymroddiad rhagorol i gelf a dylunio yn wirioneddol ysbrydoledig, ac rwy’n sicr fod ganddo ddyfodol disglair a llewyrchus o’i flaen. Rydyn ni’n falch o gefnogi a dathlu unigolion ifanc rhagorol, ac rwy’n gyffrous i weld llwybr creadigol Cian yn datblygu.” Angharad Lloyd Beynon, Lifreiwr CALC ac Uwch Rheolwr Polisïau, Partneriaethau a Rhanddeiliaid
Mae Cian yn aelod brwdfrydig a gweithgar o gymuned y Coleg. Yn ogystal â bod yn Llysgennad y Gymraeg, gan roi help llaw mewn digwyddiadau megis nosweithiau agored, mae e hefyd yn gynrychiolydd y Coleg ar Fforwm Llais y Dysgwr y Coleg Cymraeg.