Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu llwyddiant ysgubol yng Ngwobrau Sgiliau Cymru ar ôl ennill sawl medal.
Fe wnaeth staff a myfyrwyr o’r Coleg gymryd rhan yn y ‘parti gwylio’ a’r seremoni wobrwyo yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe, lle enillodd y Coleg bum medal Aur, pum medal Arian a saith medal Efydd.
Hefyd, derbyniodd 14 o fyfyrwyr y Coleg dystysgrifau canmoliaeth uchel a sicrhaodd dau ddysgwr - Sarah James ac Eva Roberts - statws Gorau yn y Rhanbarth yn eu categorïau.
Roedd yr unigolion a fynychodd y digwyddiad o Goleg Gŵyr Abertawe yn falch o fod yno ochr yn ochr â chynrychiolwyr o Goleg Sir Gar, Coleg Ceredigion, Coleg Sir Benfro, Coleg Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Elidyr i ddod ynghyd i ddathlu’r ‘gorau o’r gorau’ o ran cyflawniadau a sgiliau galwedigaethol.
Aur
Rhys Freeman - Electroneg Ddiwydiannol
Sarah James – Gofal Plant
Chloe Eames – Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
Evangeline Roberts – Ffotograffiaeth
Nicole Farcas - Seiberddiogelwch
Arian
Kobi Williams - Electroneg Ddiwydiannol
Eva Robins - Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaeth Bwytai
Layla Melville – Gofal Plant
Cai Smith – Codio
Brandon Price – Datblygu Gwefannau
Efydd
Cieron Redden – Gosod Brics
Meena Gray - Technegydd Labordy
Connor Brown - Electroneg Ddiwydiannol
Ffion Davies - Colur Creadigol
Kaleb Piecko - Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaeth Iechyd a Bywyd
Hannah Leach - Dylunio Graffig
Holly Pitt - Seiberddiogelwch
Canmoliaeth Uchel
David Reed – Gwaith Coed
Oliver Jones - Electroneg Ddiwydiannol
Thomas Rideout - Electroneg Ddiwydiannol
Thomas Weston - Electroneg Ddiwydiannol
Keisha Wilde - Therapydd Harddwch
Zaria Jenkins - Colur Creadigol
Ethan Berry - Sgiliau Cynhwysol: Paratoi Bwyd
Ryan Robinson - Sgiliau Cynhwysol: Paratoi Bwyd
Neve Price-Horton - Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaeth Bwytai
Sophie Wheland - Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Kelsey Scales - Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cassie Henderson - Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaeth Iechyd a Bywyd
Evie Basher – Gofal Plant
Cameron Crayford – Gwaith Plymwr a Gwresogi
Y Gorau yn y Rhanbarth: Gorllewin Cymru
Sarah James – Gofal Plant
Eva Robins - Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaeth Bwytai
Lluniau: Cystadleuaeth Sgiliau Cymru /Adrian White