Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn goleg arobryn sy’n darparu addysg a hyfforddiant i dros 4,000 o fyfyrwyr amser llawn a dros 10,000 o fyfyrwyr rhan-amser o bob cwr o Abertawe a thu hwnt.
Yn ddiweddar fe aeth Wales Online i gael sgwrs â Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe i glywed am y manteision y gall y coleg eu cynnig i ddisgyblion sy’n ymadael â’r ysgol.
Pam ddylai Coleg Gŵyr Abertawe fod yn ddewis cyntaf i fyfyrwyr?
Mae tri phrif reswm dros ddewis Coleg Gŵyr Abertawe.
Y rheswm cyntaf yw dewis. Rydyn ni’n cynnig ystod eang o gymwysterau academaidd a galwedigaethol, gan gynnwys amrywiaeth o lwybrau prentisiaeth, yn amrywio o bynciau traddodiadol megis bioleg, mathemateg a’r dyniaethau i bynciau galwedigaethol fel peirianneg, adeiladu, iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n cynnig cyfleoedd i ennill profiad mewn amgylchedd ymarferol.
Ansawdd yw’r ail reswm. Mae gennym enw da am gynnig darpariaeth addysgu o ansawdd uchel ac arobryn. Mae gan lawer o’n staff gymwysterau arbenigol ac mae rhan helaeth ohonynt yn meddu ar gymwysterau MA a PHD. Mae’r staff hyn yn arbenigwyr pwnc cymwys a phrofiadol sy’n arbenigo yn eu meysydd cwricwlwm. Rydyn ni hefyd yn hynod o falch o’n canlyniadau academaidd a galwedigaethol cryf, sy’n rhagori ar feincnodau rhyngwladol.
Mae cyfuno gwybodaeth ymarferol â phrofiad academaidd o’r radd flaenaf yn cynnig profiad dysgu unigol iawn i’n dysgwyr.
Rydyn ni hefyd yn falch iawn o’n Rhaglen Anrhydeddau CGA, sy’n cynnig cymorth pwrpasol i ddysgwyr sy’n gwneud cais i brifysgolion gorau’r DU.
Mae’r rhaglen hon wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac eleni, mae 14 o’n myfyrwyr wedi derbyn cynigion gan Rydychen neu Gaergrawnt, sy’n hollol wych.
Y trydydd rheswm yw’r gefnogaeth ragorol ac eang a gynigiwn i ddysgwyr.
Mae gennym dros 80 o staff o fewn y coleg sy’n darparu cymorth i’n dysgwr ar faterion megis cyrsiau, anghenion personol a lles.
Mae ein dysgwyr yn elwa ar y cymorth eang a gynigir gan dîm ymroddedig o hyfforddwyr cynnydd, hyfforddwyr bugeiliol a thiwtoriaid personol, ac mae’r staff hyn yn cynnig cymorth ar faterion ariannol a lles. Mae ein darlithwyr yn cynnig sesiynau un-i-un y tu allan i ystafelloedd dosbarth er mwyn sicrhau llwyddiant i’r myfyrwyr. Mae’r ymagwedd bersonol hon tuag at gynnig cymorth i fyfyrwyr yn sicr yn ein gwneud yn Goleg arbennig iawn.
Dewch i un i’n nosweithiau agored ym mis Mawrth i ddarganfod popeth sydd gennym i’w gynnig.
Pryd ddylai darpar fyfyrwyr wneud cais i astudio yng ngholeg Gŵyr Abertawe?
Gallwch wneud cais nawr - y cynharaf y gwnewch chi gyflwyno cais, y mwyaf o gyfle y bydd gennych i sicrhau lle ar eich cwrs dewis cyntaf.
Dywedwch rywfaint am y Coleg
Coleg Gŵyr Abertawe yw un o golegau Addysg Bellach mwyaf Cymru ac rydyn ni’n denu dysgwyr o du mewn a thu hwnt i’n dalgylch lleol, gan gynnwys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin.
Mae hyn yn adlewyrchiad o’r ystod eang o gyrsiau a gynigiwn, ein cymorth myfyrwyr cynhwysfawr, canlyniadau myfyrwyr rhagorol a’r cyfleoedd dilyniant a gynigiwn.
Pa bynciau sydd ar gael i ddisgyblion sy’n ymadael â’r ysgol?
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig dros 40 o gyrsiau Safon Uwch a dros 40 o gyrsiau galwedigaethol ar draws sawl sector allweddol.
Gall myfyrwyr ddewis astudio pynciau Safon Uwch traddodiadol fel gwyddoniaeth, mathemateg a’r dyniaethau neu bynciau mwy arbenigol nad ydynt yn cael eu cynnig mewn ysgolion megis seicoleg, troseddeg a rhaglenni trydanol.
Mae opsiynau galwedigaethol y coleg yn cwmpasu ystod eang iawn o feysydd, gan gynnwys adeiladu, iechyd a gofal cymdeithasol, gwallt a harddwch a’r celfyddydau perfformio. Rydyn ni’n cynnig cyrsiau o lefel mynediad hyd at lefel tri a thu hwnt.
Mae ein harlwy cynhwysfawr o lwybrau prentisiaeth yn boblogaidd iawn, ac rydyn hefyd yn cynnig cyrsiau addysg uwch ar y cyd â phrifysgolion lleol.
Mae bywyd coleg yn gallu bod yn wahanol iawn i’r ysgol, a fydda’ i’n derbyn unrhyw cymorth?
Mae cynnig cymorth ardderchog yn flaenoriaeth allweddol i ni. Mae gan bob dysgwr fynediad at hyfforddwyr cynnydd, hyfforddwyr bugeiliol a thiwtoriaid personol. Gallant hefyd gyrchu cymorth ariannol ac mae llawer o’n darlithwyr yn treulio amser gyda’n myfyrwyr y tu allan i’r ystafell ddosbarth er mwyn sicrhau eu bod ar y trywydd cywir tuag at lwyddiant. Dyma ffactor arbennig iawn o’n cynnig ni fel coleg.
Oes gan y Coleg gysylltiadau da â busnesau a chyflogwyr?
Oes! Mae gan y Coleg gysylltiadau gwych â busnesau a’r diwydiant.
Rydyn ni’n cynnal sawl bwrdd cynghori cyflogwyr sy'n cynnwys arweinwyr diwydiant allweddol o bob maes sector blaenoriaeth.
Mae hyn yn ein caniatáu i barhau i ddiwallu anghenion cyflogwyr lleol gan addasu ein cyrsiau yn unol â’u hanghenion.
Mae’n hollbwysig i’n dysgwyr dderbyn yr addysg fwyaf perthnasol a chyfredol sy’n bodloni gofynion eu darpar gyflogwyr.
Beth all dysgwyr wneud y tu allan i’r ystafell ddosbarth?
Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gael i’n dysgwyr megis cystadlaethau sgiliau cenedlaethol a rhyngwladol, sy’n rhoi cyfle iddynt brofi eu sgiliau y tu hwnt i ffiniau’r coleg.
Fe aeth ein tîm eChwaraeon i Sweden yn ddiweddar i gymryd rhan ym Mhencampwriaeth Echwaraeon DreamHack, ac fe aeth 20 o ddysgwyr i gynnig cymorth mewn ysgol gynradd yn Kenya rydym wedi bod yn ei noddi ers dros ugain mlynedd.
Oes diddordeb gennych chi? Dewch i’n gweld i ddarganfod mwy. Bydd ein cyfres nesaf o nosweithiau agored yn dechrau ar Fawrth 17, 2025. Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i’n tudalen digwyddiadau.