Skip to main content
 

Ysbrydoli eich Dyfodol: pam gallai Brentisiaethau Rheoli Cyfleusyterau fod yn ddewis call

Gab Lucy Bird, Rheolwr Masnachol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Mantais i gyflogwyr a mantais i weithwyr. Gall gyflogwyr elwa o gyfraniadau busnes o’r dechrau a gall weithwyr elwa trwy ennill cymwysterau ochr yn ochr â chyflog – mae prentisiaethau FM yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn cynnig manteision i bawb.

Yn yr oes brysur sydd ohoni, mae adeiladau yn fwy na strwythurau yn unig, maent yn ecosystemau cymhleth sydd angen gweithwyr proffesiynol medrus i'w cynnal a’u rhedeg yn effeithlon. Dyma lle mae cymwysterau Rheoli Cyfleusterau (RhC) yn ddefnydiol, ac mae ein prentisiaethau yn cynnig llwybr uniongyrchol i yrfa lewyrchus o fewn y sector.

Pontio'r bwlch sgiliau mewn diwydiant ffyniannus

Mae'r sector RhC yn ehangu'n gyflym ac mae galw cynyddol am swyddfeydd, ysbytai, sefydliadau addysgol a mannau cyhoeddus. Mae hyn yn golygu bod bylchau mewn sgiliau yn cael eu hamlygu, gan adael cyflogwyr yn chwilio am unigolion sydd â'r arbenigedd ymarferol i reoli adeiladau modern. Mae prentisiaethau Rheoli Cyfleusterau yn ddatrysiad delfrydol sy’n galluogi talent newydd a gweithwyr presennol i ddatblygu sgiliau diwydiant-benodol i sicrhau gweithlu cadarn sy’n barod ar gyfer y dyfodol.

Beth yw’r manteision i gyflogwyr?

Mae prentisiaethau yn fwy na rhaglenni hyfforddiant yn unig – maent yn fuddsoddiad strategol yn nyfodol Rheoli Cyfleusterau ac maent yn rhan hanfodol o gynllunio ar gyfer y dyfodol. Trwy ddefnyddio prentisiaethau i fynd i’r afael â bylchau mewn sgiliau, gall gyflogwyr wneud y mwyaf o gyllid y llywodraeth a chyfraniadau ardollau wrth leihau costau recriwtio. Mae buddsoddi mewn datblygiad gweithwyr yn cryfhau sefydliadau, gan wella cyfraddau cadw staff a meithrin teyrngarwch ac ymrwymiad hirdymor o fewn y gweithlu. Trwy alinio â’r Sefydliad Rheoli gweithle a Rheoli Cyfleusterau (IWFM), bydd prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe’n sicrhau bod dysgwyr yn ennill cymwysterau a gydnabyddir o fewn y diwydiant a bydd pob achrediad yn diwallu’r safonau hyfforddi penodedig. Mae hyn yn rhoi mantais gystadleuol i brentisiaid a mynediad at gyfleoedd datblygu pellach, a bydd prentisiaid yn ennill cyflog a sgiliau wrth ddysgu. Byddant yn cael cyfle i gyflawni twf gyrfaoedd trwy ymgymryd â hyfforddiant a gefnogir gan y llywodraeth.

Beth oedd gan ein cyflogwyr i'w ddweud?

Dywedodd Paula Ward, Rheolwr Cyswllt Prentisiaethau Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste:   “Coleg Gŵyr Abertawe yw un o ddarparwyr gorau rydw i’n gweithio â nhw o ran hwyluso ceisiadau am wybodaeth, paratoi ar gyfer cyfarfodydd adolygu a sicrhau bod ymholiadau’n cael eu datrys mewn ffordd sy’n caniatáu i ni symud ymlaen neu roi camau gweithredu ar waith. Maent yn brofiadol iawn sy’n golygu eu bod yn siapio ein gweithle ni, ac rydw i’n gobeithio parhau â’r berthynas gynhyrchiol hon am gyfnod hir.” I gael rhagor o wybodaeth am y prentisiaethau, cysylltwch â Choleg Gŵyr Abertawe training@gcs.ac.uk.