Skip to main content
group of students

14 yn cael cynnig lleoedd yn Rhydgrawnt

Mae 14 o fyfyrwyr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lleoedd i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn 2025.

Mae’r myfyrwyr i gyd yn dilyn rhaglen Anrhydeddau CGA y Coleg, sydd â’r nod o ddarparu’r paratoadau gorau posibl i fyfyrwyr a hoffai symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group. Y myfyrwyr yw:

Evie Beck (gynt o Ysgol Gyfun Pontarddulais) a gafodd gynnig lle yn Y Coleg Newydd, Rhydychen i astudio Gwyddorau Biofeddygol
Mia Brown (gynt o Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed) a gafodd gynnig lle yng Ngholeg Brasenose, Rhydychen i astudio Daearyddiaeth
Sophie Hill (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) a gafodd gynnig lle yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen i astudio Biocemeg
Claudia Croft (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) a gafodd gynnig lle yng Ngholeg Corpus Christi, Rhydychen i astudio Seicoleg Arbrofol
Carys Morgan (gynt o Ysgol Gymunedol Cwmtawe) a gafodd gynnig lle yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen i astudio Cerddoriaeth
Gwinnie Pinnock (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) a gafodd gynnig lle yng Ngholeg Caerwrangon, Rhydychen i astudio Hanes
Milly Walker (gynt o Ysgol Esgob Gore) a gafodd gynnig lle yn Y Coleg Newydd, Rhydychen i astudio’r Gyfraith
Jasmine Haynes (gynt o Olchfa) a gafodd gynnig lle yng Ngholeg Hertford, Rhydychen i astudio Bioleg
Frances Mackie (gynt o Ysgol Glan-y-môr) a gafodd gynnig lle yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt i astudio Hanes a Sbaeneg
Lily Parker (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) a gafodd gynnig lle yng Ngholeg Clare, Caergrawnt i astudio Addysg
Violet Williams (gynt o Ysgol Esgob Gore) a gafodd gynnig lle yng Ngholeg y Frenhines, Caergrawnt i astudio Addysg
Alex Mort (gynt o Ysgol Gyfun Treforys) a gafodd gynnig lle yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt i astudio Peirianneg
Ruby Zaire (gynt o Ysgol Tre-gŵyr) a gafodd gynnig lle yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt i astudio’r Gyfraith
Leah Spackman (gynt o Ysgol Gyfun Pen-yr-heol) a gafodd gynnig lle yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt i astudio Addysg

Mae Rhaglen Anrhydeddau CGA y Coleg yn cynnwys sesiynau tiwtorial wythnosol, cyfweliadau paratoadol gyda chyn-fyfyrwyr Rhydgrawnt a gweithwyr proffesiynol academaidd lleol, prawf gallu a pharatoi ar gyfer asesiadau mewn pynciau perthnasol.

Bydd y dysgwyr sydd am wneud cais i astudio meddygaeth, deintyddiaeth neu filfeddygaeth yn mynychu sesiynau ychwanegol sy’n eu paratoi ar gyfer profion derbyn a chyfweliadau cystadleuol. Maen nhw hefyd yn cael cyfleoedd i glywed gan siaradwyr gwadd o amrywiaeth o gwmnïau a chyrsiau prifysgol.

Mae’r Coleg hefyd wedi integreiddio Academi Seren i’w raglen CGA. Un o fentrau Llywodraeth Cymru yw hon sy’n helpu dysgwyr gorau Cymru i gyflawni eu potensial academaidd llawn yng Nghymru, y DU, a thramor. Ar gael i bob dysgwr sy’n academaidd alluog ym Mlwyddyn 12 a Blwyddyn 13, mae Academi Seren yn cynnig sesiynau rhyngweithiol a phrofiadau astudio unigryw i gefnogi dysgu parhaus ac arweiniad arbenigol i helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch gwneud cais i brifysgolion blaenllaw.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe hefyd yn falch o fod yn rhan o’r fenter Step Up, a gydlynir gan Y Coleg Newydd, Rhydychen. Mae’r tîm Step Up yn mynd i Gampws Gorseinon i gynorthwyo myfyrwyr gyda’r broses ymgeisio a datganiadau personol ac yn rhoi cyfleoedd i’n dysgwyr ymweld â Rhydychen.

“Mae’r ffaith bod gennym 14 o fyfyrwyr Anrhydeddau CGA ac Academi Seren sy’n dal cynigion gan Rydychen a Chaergrawnt eleni yn gyflawniad anhygoel ac rydyn ni mor falch ohonyn nhw i gyd, dwi mor falch bod eu holl waith caled wedi talu ar ei ganfed,” dywedodd Cydlynydd Anrhydeddau CGA y Coleg/Cydlynydd Hyb Seren Abertawe, Dr Emma Smith.

“Unwaith eto, mae’n wych gweld cynifer o ysgolion cyfun gwahanol yn cael eu cynrychioli ar y rhestr honno. A dwi wrth fy modd bod y myfyrwyr hyn yn mynd ymlaen i ddilyn pynciau mor amrywiol - o addysg a’r gyfraith i gerddoriaeth a pheirianneg - mae hyn wir yn cynrychioli amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa ar gyfer y dyfodol. Dwi’n dymuno pob lwc iddyn nhw yng nghanlyniadau eu harholiadau ym mis Awst!”

“Mae ein darpariaeth CGA wedi dangos unwaith eto mai dyna yw’r sbardun ar gyfer llwyddiant i’r myfyrwyr sydd am fynd i’r prifysgolion gorau yn y DU,” meddai’r Pennaeth Kelly Fountain.

“Mae’r ffaith bod gennym 14 myfyriwr sy’n dal cynigion gan Rydgrawnt mewn un flwyddyn academaidd yn adlewyrchu nid yn unig eu talentau a’u hymroddiad unigol ond hefyd yr ymrwymiad a’r cymorth a gynigir gan dîm Anrhydeddau CGA, dan arweiniad Emma, a phob un o’n darlithwyr Safon Uwch a’r staff cymorth. Llongyfarchiadau i bob un ohonyn nhw.”