Skip to main content
college staff

Llwyddiant dwbl i’r Coleg yn nigwyddiad Gwobrau Worldskills

college staff

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cipio dwy wobr yng Ngwobrau Arwyr Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant WorldSkills UK yn Llundain.

Mae’r gwobrau, a noddir gan University Vocational Awards Council (UVAC) a Skills and Education Group, yn cydnabod y rhai sy’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector addysg. 

Roedd y Coleg yn llwyddiannus mewn dau gategori:

Enillodd y Rheolwr Maes Dysgu Amgylchedd Adeiledig, Hannah Pearce, Wobr Menywod mewn STEM, a noddwyd gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain.

Enillodd y tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu Wobr Hyrwyddwr Symudedd Cymdeithasol, a noddwyd gan Skills and Education Group.

Cafodd Hannah ei chydnabod am ei chyfraniad eithriadol at gefnogi a grymuso menywod yn y sector STEM, yn enwedig o fewn y diwydiannau adeiladu ac amgylchedd adeiledig. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Hannah wedi dangos arweinyddiaeth ragorol wrth hyrwyddo arferion adeiladu cynaliadwy ac wrth eirioli dros fwy o gyfranogiad gan fenywod mewn sectorau sydd yn draddodiadol yn cael eu dominyddu gan ddynion.

Mae ei hangerdd dros newid wedi ei harwain at rôl ddylanwadol fel Pennaeth Amgylchedd Adeiledig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Yn rhinwedd y swydd hon, mae hi wedi sefydlu a datblygu rhaglenni ymgysylltu â’r gymuned trwy fentrau allgymorth, gan weithio’n agos gyda diwydiant i greu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau a phrentisiaethau, gan gynnwys rhaglenni prentisiaeth a rennir. Ar ben hynny, mae hi wedi bod yn ganolog wrth ddatblygu llwybrau cwricwlwm newydd sy’n cyd-fynd â gofynion technolegol datblygol y diwydiant, gan sicrhau bod myfyrwyr yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dyfodol y diwydiant adeiladu.

Mae effaith ymroddiad Hannah wedi bod yn ddim llai na thrawsnewidiol. O dan ei harweinyddiaeth, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi gweld cynnydd syfrdanol o 366% yng nghyfranogiad merched yn y cyrsiau Amgylchedd Adeiledig ym mlwyddyn academaidd 2023/24 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cafodd ei henwi hefyd yn un o 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol y CITB ym maes Adeiladu ar gyfer 2024.

Mae tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu’r Coleg wedi chwyldroi addysg i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) yn y blynyddoedd diwethaf. Dechreuodd eu taith yn 2019 gyda rhaglen beilot a welodd eu dysgwyr yn cwblhau eu cymwysterau yn llwyddiannus ac yn ennill sgiliau hanfodol mewn gwydnwch, trefnu a gwaith tîm.

Oherwydd llwyddiant y rhaglen cafodd ‘ysgol ddysgu awyr agored’ arloesol ei chreu sy’n pwysleisio dysgu cyfannol a rhwydweithiau cymunedol, gan symud i ffwrdd o asesiadau uned traddodiadol i brosiectau ymarferol gyda chanlyniadau diriaethol. Mae athroniaeth y tîm yn canolbwyntio ar amynedd, gofal a thosturi, gan eu galluogi i weld y tu hwnt i’r cwricwlwm a brwydrau blaenorol dysgwyr. Mae eu gwaith wedi arwain at welliannau sylweddol mewn cyfraddau presenoldeb a dilyniant, gyda thros 87% o ddysgwyr yn symud ymlaen i lefelau uwch bob blwyddyn.

Ymlaen at 2024 ac roedd y tîm yn gallu symud eu dysgwyr i’r Hyb Gwyrdd yn y Coleg, gofod pwrpasol sy’n cynnwys lle cynhyrchu bwyd, pwll, twnnel tyfu, perllan ac, ar y tu mewn, ystafelloedd gwaith ac ystafelloedd celf newydd sbon.

“Llongyfarchiadau enfawr i’r holl enillwyr,” meddai Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills UK. “Rydyn ni wedi cael ein hysbrydoli gan y bobl anhygoel a’r straeon pwerus y tu ôl i’r enwebiadau. Ar y cyd â’n partneriaid, rydyn ni wedi ymrwymo i ddathlu’r unigolion a’r sefydliadau sy’n llywio newid go iawn, a byddwn ni’n defnyddio eu llwyddiant i ysbrydoli hyd yn oed mwy o gyfleoedd i bobl ifanc, o bob cefndir, i ddewis prentisiaethau ac addysg dechnegol fel llwybr i lwyddiant mewn gwaith a bywyd.”