Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn hybu dull arloesol o baratoi ar gyfer arholiadau trwy ehangu ei ddefnydd o realiti rhithwir (VR) - gan helpu myfyrwyr i leihau pryder a magu hyder trwy brofiadau trochol, sy'n debyg i sefyllfa arholiad go iawn cyn y diwrnod mawr.
Nawr, gall dysgwyr brofi ystafelloedd arholiadau a senarios asesu wedi'u hamseru mewn VR, gyda'r nod o ddatgelu'r anhysbys, lleihau'r pethau sy'n achosi straen, a'u grymuso i deimlo'n dawel ac mewn rheolaeth yn ystod y cyfnodau pwysicaf.
Dywedodd Arweinydd Ymgysylltu â Dysgwyr a Datblygiad Personol y Coleg, Joshua Jordan: “Datblygwyd y syniad hwn gan ein Mentoriaid Cyfoedion Digidol mewnol ar y cyd â Jonathan Parker, Darlithydd Cyfryngau Digidol ac Arweinydd VR y Coleg, ac maen nhw'n ffilmio, datblygu a chyflwyno’r dechnoleg arloesol yma i’n myfyrwyr.”
“Mae camu i mewn i ystafell arholiadau rithwir cyn yr arholiad go iawn yn ffordd bwerus o gael myfyrwyr i deimlo'n gyfarwydd â'r senario. Mae'n helpu i leihau pryder trwy gael gwared ar ofn yr anhysbys ac mae'n caniatáu iddyn nhw ymarfer llwyddiant yn feddyliol.
“Mae gallu profi golygfa a synau'r ystafell, dod o hyd i sedd, a deall y cynllun yn gwneud i'r diwrnod gwirioneddol deimlo'n llawer llai brawychus. Mae'n ffordd syml ond effeithiol o hybu hyder a rhoi dysgwyr yn ôl mewn rheolaeth.”
Dywedodd Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: "Er bod lles meddyliol bob amser yn flaenoriaeth i ni, rydyn ni'n hynod falch o'r camau rhagweithiol rydyn ni'n eu cymryd yn ystod tymor yr arholiadau. Mae'r profiadau VR hyn yn helpu i baratoi dysgwyr mewn ffordd wirioneddol unigryw gan gefnogi gwydnwch emosiynol a pharodrwydd academaidd.
“Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth cynhwysfawr amrywiol i ateb anghenion dysgwyr lle bynnag maen nhw. O Diwtoriaid Personol, Hyfforddwyr Cynnydd, a chymorth darlithwyr yn y dosbarth, i Hyfforddwyr Bugeiliol a Swyddogion Cymorth i Fyfyrwyr sy'n darparu cymorth personol, mae bob rhan o'r Coleg wrth law i gefnogi llwyddiant y myfyrwyr. Rydyn ni hyd yn oed yn cynnal sesiynau ioga, teithiau cerdded natur, parthau tawel ar y campysau, a chŵn lles ar y campysau, i helpu i leihau lefelau straen. Mae pensetiau VR ar gyfer lles hefyd wedi cael eu cyflwyno, sy'n cynnig 15 munud o ymlacio dan arweiniad i fyfyrwyr i'w hannog i gymryd seibiau gwerthfawr o'u gwaith adolygu.
“Mae'n hanfodol i ni fel Coleg i gofleidio technoleg newydd lle bo'n bosibl, yn enwedig os yw'n gallu cael effaith mor sylweddol. Rydyn ni eisoes wedi cael adborth positif gan ddysgwyr a dwi'n edrych ymlaen at weld sut y gallwn ni barhau i ddatblygu'r defnydd o VR ar draws y Coleg.”
Gyda thros 12,500 o ddysgwyr a mwy na 1,000 o staff, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn parhau i arwain y ffordd o ran cymorth i fyfyrwyr - yn academaidd, yn emosiynol, a thrwy rym technoleg.
Mae'r defnydd o bensetiau VR yn rhan bwysig o fenter lles y Coleg, sef ANADLWCH; sy'n dychwelyd am yr ail flwyddyn, a'i nod yw helpu dysgwyr i baratoi ar gyfer arholiadau a rheoli straen.
Mae ANADLWCH yn cynnig acronym hawdd ei gofio i helpu dysgwyr gyda chamau lles yn ystod y cyfnod adolygu:
A - Anadl – cymer anadl ddofn cyn bwrw ati!
N - Nodiadau – cofia edrych dros dy nodiadau
A - Archwilio – archwilia’r testunau yn fwy manwl
D - Dysgu – gofyn gwestiynau ffug i ti dy hun
L - Les – bydd cymryd hoe o dy waith adolygu yn gwneud byd o les i ti
W - Wynebu – wyneba’r hyn rwyt ti wedi’i anghofio neu sy’n anodd
Ch - Chwarae – chwarae ran weithredol yn dy waith adolygu