Mae Shannon Jade, un o gyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe wedi derbyn gwobr Mynediad i Addysg Bellach gan Agored Cymru am ei Chyflawniad Academaidd Rhagorol.
Astudiodd Shannon gwrs Mynediad i Seicoleg a Chwnsela ar gampws Tycoch cyn symud ymlaen i ymrgymryd â chwrs Gradd mewn Seicoleg gyda Phrifysgol Abertawe. Derbyniodd ei gwobr gan Darren Howells, Prif Swyddog Gweithredol Agored Cymru a Victor Morgan, Rheolwr Mynediad i Addysg Uwch Agored.
“Wrth astudio yn y Coleg, llwyddodd Shannon i sicrhau 45 Rhagoriaeth ar draws pob pwnc ac fe roedd ei gwaith academaidd yn arddangos dyfnder, eglurder a mewnwelediad arbennig,” dywedodd Rhian Pardoe, Rheolwr Maes Dysgu. “Roedd y rhinweddau hyn yn amlwg iawn yn ei thraethawd hir a’i haseiniad ar safbwyntiau seicolegol.
“Yn ogystal â’i graddau penigamp, daeth Shannon â rhywbeth arbennig iawn i’r ystafell ddosbarth - cynhesrwydd, parodrwydd i gefnogi ei chyd-ddisgyblion a gwytnwch i barhau i gwblhau ei gwaith i safon uchel iawn, er gwaethaf heriau personol.”
“Rydyn ni’n falch iawn o Shannon,” dywedodd Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe. “Mae’r wobr hon yn adlewyrchiad o’i gallu academaidd rhagorol yn ogystal â’i chymeriad, ei phenderfyniad a’r dyfodol disglair sydd o’i blaen.
Mae hi'n hollol ysbrydoledig ac mae ganddi'r gallu i gyfuno rhagoriaeth academaidd â charedigrwydd, hiwmor ac ymrwymiad diamod i ddysgu. Mae ei thiwtoriaid, ei darlithwyr a’i chyd-ddysgwyr wedi ei chanmol i’r cymylau ac mae’n amlwg bod yr effaith mae hi wedi ei gael ar eraill yn mynd y tu hwnt i’w chyflawniadau personol - mae hi wedi helpu cymaint eraill ar hyd y ffordd.”
“Rydw i’n hapus iawn i dderbyn y wobr hon” meddai Shannon. “Braint yw gallu astudio ar yr adeg hon o’m bywyd, yn enwedig gan fy mod wedi gadael ysgol yn 16 oed. Doeddwn i ddim yn credu fy mod i yn unigolyn eithriadol o academaidd. Ond rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod gyda’r Coleg, mae’r staff addysgu wedi bod yn wych ac mae fy mhrofiad wedi rhoi cymaint o hyder i mi ac wedi arwain at gyfleoedd diri i mi a fy nheulu.”
“Braint oedd cyflwyno’r wobr hon i Shannon, gan ei bod yn gydnabyddiaeth o’i hyfedredd academaidd a’i hangerdd am wireddu ei dyheadau ar gyfer y dyfodol,” meddai Darren Howells. “Mae cyflawni 45 rhagoriaeth yn anhygoel a dim ond 3% o fyfyrwyr Mynediad i AU ledled y DU sydd wedi llwyddo i wneud hyn.
Dylid hefyd cydnabod teulu, ffrindiau, a chyd-ddisgyblion Shannon, yn ogystal â staff rhagorol y Coleg sydd wedi ei hannog a’i chefnogi. Mae pawb yn Agored Cymru yn falch iawn o Shannon ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei gweld yn cyflawni cynnydd wrth iddi astudio cwrs Gradd gyda Phrifysgol Abertawe.”
Mae gan Agored Cymru dros 30 mlynedd o brofiad o gynnig Diplomâu Mynediad i AU. Yn ystod y cyfnod hwn maent wedi creu cyfleoedd anhygoel sydd wedi newid bywydau unigolion gan eu caniatáu i symud ymlaen i astudio Addysg Uwch.