Newyddion y Coleg
Myfyriwr Mynediad yn ennill bwrsari arbennig
Mae cyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, Aaliyah Wood, wedi cael ei dewis i dderbyn Bwrsari Collab Group Peter Roberts. Llongyfarchiadau mawr iddi.
Mae’r Bwrsari gwerth £2,500, a noddir gan The Skills Network, yn cael ei ddyfarnu bob blwyddyn i ddau fyfyriwr yn y DU sydd wedi astudio mewn coleg Collab Group ac sy’n mynd i’r brifysgol neu’n dechrau eu busnes eu hunain.
Astudiodd Aaliyah Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 yn y Coleg cyn symud ymlaen i gwblhau Mynediad i’r Gyfraith, lle cafodd ei haddysgu gan Allison Bray a Michael Adams.
Darllen mwyMyfyrwyr talentog Abertawe yn anelu at brifysgolion blaenllaw
Cafodd cannoedd o ddysgwyr ifanc eu gwahodd yn ddiweddar i lansiad Hyb Seren Abertawe ar gyfer 2023/24, lle roedden nhw’n gallu dysgu rhagor am y sgiliau sydd eu hangen i ymgeisio i brifysgolion gorau’r DU.
Dan arweiniad Coleg Gŵyr Abertawe a Phrifysgol Abertawe, cynhaliwyd y digwyddiad yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae y Brifysgol. Roedd tua 250 o fyfyrwyr o’r Coleg ac ysgolion chweched dosbarth lleol yn bresennol, ynghyd â nifer o rieni a gwarcheidwaid.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn lansio cwrs Mynediad i Beirianneg newydd i’r rhai sydd am newid gyrfa a dysgwyr gydol oes
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi lansiad llwyddiannus ei gynnig addysgol diweddaraf sef y cwrs Mynediad i Beirianneg. Bydd dysgwyr yn gallu cofrestru ar y cwrs tan hanner tymor mis Hydref. Mae’n ddewis perffaith i’r rhai sy’n gobeithio dechrau gyrfa newydd neu ddychwelyd i fyd addysg ar ôl hoe eleni.
Darllen mwyChwe myfyriwr yn cyrraedd y rowndiau terfynol
Ar ôl rownd ddwys o ragbrofion, mae Coleg Gŵyr Abertawe wrth eu bodd bod chwe myfyriwr wedi cyrraedd Rowndiau Terfynol WorldSkills UK. Y myfyrwyr hyn yw:
Tarran Spooner, Faroz Shahrokh, Rhys Lock – Electroneg Ddiwydiannol
Callie Morgan – Dylunio Graffeg
Georgia Cox – Technegydd Labordy
Cameron Bryant – Sgiliau Sylfaen: Gwasanaethau Bwytai
Byddan nhw nawr yn cymryd eu lleoedd ochr yn ochr â thros 400 o fyfyrwyr a phrentisiaid talentog eraill yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol ar 14-17 Tachwedd.
Darllen mwyMyfyrwyr Saesneg yn mwynhau darlleniad barddoniaeth arbennig
I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth ar 5 Hydref, roedd myfyrwyr Safon Uwch Saesneg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn falch dros ben o groesawu’r bardd Guinevere Clark i Gampws Gorseinon.
Cafodd casgliad cyntaf Guinevere, Fresh Fruit & Screams, ei gyhoeddi yn 2006. Ers hynny, mae ei gwaith wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau gan gynnwys Minerva Rising, The A3 Review, The Atlanta Review a nawr Magazine.
Darllen mwyTîm AD Coleg Gŵyr Abertawe yn Ennill Gwobr Genedlaethol
Cafodd Tîm Adnoddau Dynol (AD) Coleg Gŵyr Abertawe eu hanrhydeddu â gwobr glodfawr ‘Menter Iechyd a Lles Gorau’r Sector Cyhoeddus/Trydydd Sector 2023’ yn ddiweddar gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).
Mae Gwobrau Rheoli Pobl CIPD ymhlith yr anrhydeddau mwyaf uchel eu bri a chystadleuol ym maes AD a rheoli pobl ac, eleni, Tîm AD a Lles Coleg Gŵyr Abertawe oedd yr enillwyr haeddiannol wrth gystadlu yn erbyn sefydliadau eraill ledled y DU.
Darllen mwyDIWEDDARIAD: Gwybodaeth bwysig ynghylch Campws Tycoch 28 Medi
Ymhellach i’n diweddariad yr wythnos diwethaf am y RAAC (Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth) sydd yn bresennol mewn rhan fach, ynysig o Gampws Tycoch Coleg Gŵyr Abertawe, mae peirianwyr strwythurol bellach wedi cwblhau adolygiad manwl o’r campws.
O ganlyniad, rydym wedi penderfynu cau dwy ystafell – un ystafell ddosbarth ac un ystafell staff – ar lawr D yr adeilad – tra bod gwaith adfer yn cael ei wneud.
Darllen mwyCadw mewn cysylltiad â Choleg Gŵyr Abertawe
Mae trysor cudd o dalentau, arloesedd, ac atgofion cyffredin yn gorwedd yng nghanol cymuned fywiog Coleg Gŵyr Abertawe.
Ers degawdau, mae’r sefydliad uchel ei barch hwn wedi helpu i wireddu breuddwydion, gan feithrin myfyrwyr di-ri ar eu llwybr i lwyddiant. Nawr, wrth i Goleg Gŵyr Abertawe symud yn hyderus i’r dyfodol, mae’n ceisio ailgysylltu â’i rwydwaith amhrisiadwy o gyn-fyfyrwyr.
Darllen mwyDysgwr ESOL Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill Gwobr Ysbrydoli! Addysg Oedolion
Enillodd Walid Musa Albuqai, dysgwr ESOL yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, wobr Gorffennol Gwahanol: Dyfodol a Rennir eleni yng Ngwobrau Ysbrydoli! Gwobrau Dysgu Oedolion, seremoni flynyddol a gydlynir gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.
Darllen mwySesiynau am ddim ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion!
Wythnos Addysg Oedolion yw’r dathliad mwyaf o ddysgu yng Nghymru, a gydlynir gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Nod yr ymgyrch yw ysbridoli mwy o bobl i ddarganfod angerdd am ddysgu, dablygu sgiliau a dangos nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu!
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 13
- Tudalen nesaf ››