Skip to main content
 

Penodi Llysgenhadon Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyhoeddi 20 Llysgennad Addysg Bellach newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25, gyda thri ohonynt wedi eu penodi mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg.
 
Bydd y llysgenhadon yn codi ymwybyddiaeth eu cyd-ddysgwyr yn y coleg o fanteision astudio’n ddwyieithog, a’u hannog i barhau i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg tra yn y coleg i’w paratoi ar gyfer y byd gwaith.

Ymhlith y criw newydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe eleni bydd:  

Alexandra Anekore 
Aneurin Hywel   
Ariella Rees-Davies 
Caitlin Horton Davies 
Caitlin Scotti 
Daniel Treharne 
Gwenno Wakeham 
Ieuan Williams 
Imogen Roberts 
Kacie Jones 
Lily Kearney 
Niamh Davies 
Rebecca May 
Saffia Swinson   
Sofia Gimblett 
Tegwyn Rees 
William Kisley-Jones  

Y tri llysgennad fydd yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg yng ngholeg Gwyr bydd:

Cai Watts
Cian Curry 
Leri Watkins 

Meddai Cai Watts: “Mae bod yn llysgennad i mi yn golygu helpu pobl i ddefnyddio eu hiaith yn y coleg, a rhoi llais i’r gymuned Gymraeg yn y coleg.” 

Meddai Leri Watkins: “Mae gallu siarad Cymraeg yn y coleg yn bwysig i mi gan mai dyma fy mamiaith ac mae ei ddefnyddio yn mynd i helpu fi yn fy ngyrfa yn y dyfodol ym maes Gofal Plant. Rwyf wedi gwneud ffrindiau sy’n siaradwyr Cymraeg trwy fynychu digwyddiadau dwyieithog y coleg ac fel Llysgennad Cymraeg, mae wedi rhoi cyfleoedd i mi i mewn a tu allan i’r ystafell ddosbarth nid yn unig i wella fy Nghymraeg i ond i helpu eraill.” 

Bydd y llysgenhadon yn dechrau ar eu gwaith y mis yma, a byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg a Coleg Gŵyr Abertawe mewn amryw o ddigwyddiadau, yn creu cynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn cynnig syniadau ar sut i hybu’r Gymraeg o fewn ei coleg.  

Mae’r cynllun hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd iddynt i fagu eu hyder a’u sgiliau, ac i fod yn rhan o gymuned Cymraeg y coleg.  
I wybod mwy am y llysgenhadon ac i ddilyn y cynllun yn ystod y flwyddyn ewch i wefannau cymdeithasol y Coleg Cymraeg: Tik Tok, Instagram - @colegcymraeg a @cymrycoleggwyrabertawe