Yn ddiweddar, mae Prif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones, wedi casglu ei fedal MBE (Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig) am ei gyfraniadau rhagorol at fyd addysg.
Derbyniodd Mark yr anrhydedd mawreddog fel rhan o restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2024. Cyflwynwyd y wobr iddo’n ffurfiol gan Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol yn ystod seremoni yng Nghastell Windsor y mis diwethaf.
Mae’r MBE yn cydnabod effaith sylweddol Mark ar y sector addysgol, yng Nghymru a ledled y DU. Ac yntau yn un o’r Prif Weithredwyr coleg hiraf eu gwasanaeth, mae arweinyddiaeth Mark ers ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe yn 2010 wedi trawsnewid y sefydliad, ac wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau myfyrwyr dirifedi a’r dirwedd addysgol ehangach.
Ar ôl derbyn yr anrhydedd, dywedodd Mark: “Roedd derbyn y wobr hon yn syndod llwyr i mi, a dwi’n teimlo’n ostyngedig iawn.
“Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dyst i gydymdrechion y staff a’r myfyrwyr ymroddgar yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, sy’n gweithio’n ddiflino i wneud gwahaniaeth bob dydd.
“Dwi’n hynod ddiolchgar am y negeseuon caredig o gefnogaeth dwi wedi’u cael ers y cyhoeddiad ym mis Mehefin. Y negeseuon hynny yw un o uchafbwyntiau’r profiad hwn.”
Mynegodd Meirion Howells, Cadeirydd Bwrdd Corfforaeth y Coleg, ei falchder o gyflawniad Mark hefyd: “Rydyn ni wrth ein boddau bod cyfraniadau arbennig Mark at fyd addysg wedi cael eu cydnabod trwy MBE. Mae ei arweinyddiaeth a’i weledigaeth wedi bod yn allweddol yn llwyddiant y Coleg, ac ar ran pawb yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, hoffwn estyn ein llongyfarchiadau cynhesaf. Rydyn ni’n edrych ymlaen at yr effaith barhaus y bydd Mark yn ei chael ar ddyfodol y Coleg a’i fyfyrwyr.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
Dyfernir medal Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) am gyflawniad neu wasanaeth rhagorol sydd wedi cael effaith barhaus a gwirioneddol, a chyfraniad enghreifftiol at y gymuned a thu hwnt.