Newyddion y Coleg
Rowndiau terfynol Gwobrau Beacon CyC 2023/24
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer derfynol ar gyfer un o Wobrau Beacon clodfawr Cymdeithas y Colegau ar gyfer Ehangu Cyfranogiad.
Mae Gwobrau Beacon yn dathlu arferion gorau a mwyaf arloesol colegau addysg bellach y DU. Rheolir y digwyddiad gan CyC ac fe’i cynigir drwy Ymddiriedolaeth CyC - Elusen gofrestredig.
Darllen mwyMyfyrwyr Peirianneg Electronig Coleg Gŵyr Abertawe yn disgleirio yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK
Mewn arddangosiad rhyfeddol o sgiliau ac ymroddiad, mae dau fyfyriwr Peirianneg Electronig o Goleg Gŵyr Abertawe wedi sicrhau medalau yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK (WSUK) eleni.
Fe wnaeth Faroz Shahrokh, Rhys Lock, a Tarran Spooner, sydd i gyd yn dilyn cwrs Diploma Estynedig L3 mewn Technolegau Peirianneg (llwybr Electroneg) ar Gampws Tycoch, sicrhau lleoedd gwerthfawr yn rowndiau terfynol Electroneg Ddiwydiannol yn dilyn cylch cychwynnol llwyddiannus. Yn y rowndiau terfynol, cipiodd Tarran fedal Aur, ac enillodd Faroz fedal Arian!
Darllen mwyYmweliad y Clintons â Phrifysgol Abertawe yn rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth cenedlaethau’r dyfodol
Nid bob dydd rydych yn cael cwrdd â chyn Arlywydd yr Unol Daleithiau Bill Clinton a’r Ysgrifennydd Hillary Rodham Clinton.
Ond dyna yn union a ddigwyddodd i’n myfyriwr Anna Petrusenko pan aeth hi i ddigwyddiad Arweinyddiaeth ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe
Am brofiad gwych i Anna!
Darllen mwyGwybodaeth bwysig am ein noson agored ar Gampws Gorseinon, 16 Tachwedd 2023
Dyma wybodaeth bwysig i unrhyw un sy’n ystyried dod i’n noson agored ar Gampws Gorseinon nos Iau 16 Tachwedd (5.30pm – 7.30pm).
Oherwydd ein gwaith ailwampio gwerth £17m ar y Campws – a fydd yn arwain at well cyfleusterau gan gynnwys lle cymdeithasol, atriwm newydd ac ystafelloedd dosbarth – mae’n bosibl y bydd pethau ychwanegol i’w hystyried cyn i chi ymweld â ni.
Cofrestrwch ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad os gallwch. Nid yn unig y bydd hyn yn arbed amser ond bydd hefyd yn caniatáu i ni gadw mewn cysylltiad â chi gydag unrhyw ddiweddariadau am y digwyddiad.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn disgleirio mewn Arddangosfa Printiau
Cafodd staff a myfyrwyr talentog o Goleg Gŵyr Abertawe eu dewis yn ddiweddar i arddangos eu gwaith celf yn Oriel Mission, fel rhan o brosiect arloesol sydd wedi uno artistiaid a phobl greadigol yn yr ardal leol.
Darllen mwyColeg yn cyflwyno prentisiaeth arloesol newydd Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch dros ben o gyhoeddi argaeledd llwybr prentisiaeth newydd sbon o’r enw Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr. Dyluniwyd y llwybr newydd hwn i ateb anghenion cyflogwyr a bylchau sgiliau yn yr ardal leol, gan roi modd i ddysgwyr ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol wrth weithio a dysgu.
Darllen mwyCynlluniwch eich dyfodol yn nosweithiau agored cyrsiau amser llawn Coleg Gŵyr Abertawe
Ydych chi neu’ch plentyn sydd yn ei arddegau yn meddwl am y camau nesaf ar ôl ysgol? Bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn agor ei ddrysau ym mis Tachwedd i ddarpar fyfyrwyr fel y gallant gael cyfle i ymweld â champysau, sgwrsio â darlithwyr a staff cymorth a darganfod y cyrsiau sydd ar gael.
Darllen mwyWythnos Lles Dysgwyr 2023
Unwaith eto, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn arwain y ffordd ar gyfer cydnabod pwysigrwydd iechyd a lles ei gymuned. Y tro hwn, y dysgwyr sydd o dan y chwyddwydr!
Bwriad Wythnos Lles Dysgwyr, sef digwyddiad pwrpasol a drefnir gan y Coleg, yw hybu iechyd meddwl a chorfforol cadarnhaol ac amgylchedd lle gall myfyrwyr ffynnu yn academaidd ac yn bersonol.
Darllen mwyProfion derbyn Rhydychen a Chaergrawnt
Rydym yn ymwybodol bod rhai o’n dysgwyr wedi cael problemau technegol sylweddol yn eu profion derbyn Rhydychen a Chaergrawnt yn ddiweddar.
Roedd y rhain yn broblemau cenedlaethol, a brofwyd gan ymgeiswyr ledled y DU.
Roedd tarfiadau technegol wedi effeithio ar y profion a safwyd ar-lein, yn enwedig y Prawf Derbyn Mathemateg (MAT) a’r Prawf Derbyn Saesneg Llenyddiaeth (ELAT).
Mae Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt yn llwyr ymwybodol o’r sefyllfa hon.
Darllen mwyMae’n amser medalau i dîm Ironman y Coleg!
Llongyfarchiadau i’r holl aelodau staff a gymerodd ran yn nigwyddiad Ironman 2023 ar 3 Medi.
Gyda’i gilydd, cododd tîm CGA y swm anhygoel o £625.06 ar gyfer Prosiect Addysg Gymunedol Cenia – gan dorri eu targed gwreiddiol o £500.
Wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad, buont yn hyfforddi am tua 1,650 o oriau (roedd dros 250 o oriau yn rhan o gynnig Lles CGA) ac, ar y diwrnod, fe wnaethon nhw losgi cyfanswm o 85,000 o galorïau!
Cwblhaodd yr aelodau canlynol o Dîm Ironman CGA y digwyddiad triathlon caled yn llwyddiannus.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 12
- Tudalen nesaf ››