Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n falch o gyhoeddi ei fod wedi sicrhau achrediad Rhuban Gwyn y DU. Mae hyn yn adlewyrchiad o ymrwymiad y Coleg i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.
Fel sefydliad achrededig, mae’r Coleg wedi sefydlu grŵp llywio Rhuban Gwyn sy’n cynnwys llysgenhadon a hyrwyddwyr y Rhuban Gwyn. Maent yn gweithio tuag at hybu newid diwylliant mewn ffordd gadarnhaol er mwyn sicrhau bod menywod yn cael eu clywed.
I gydnabod Diwrnod Rhuban Gwyn, fe wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe annog staff a dysgwyr i wylio fideos hyfforddi Rhuban Gwyn ac ystyried dod yn Llysgenhadon neu Hyrwyddwr Rhuban Gwyn. Trwy wneud hyn, bwriad y Coleg oedd codi ymwybyddiaeth o’r mater ledled cymuned y Coleg.
Rhan allweddol o’r diwrnod oedd lansio fideo grymus a oedd yn cynnwys uwch arweinwyr a rheolwyr o bob rhan o’r sefydliad. Roedd y fideo yn hyrwyddo ymrwymiad Coleg Gŵyr Abertawe i greu amgylchedd diogel a chynhwysol ac roedd yn nodi addewid y Coleg i roi terfyn i drais yn erbyn menywod a merched. Fe nododd hefyd y camau gweithredol sy’n cael eu rhoi ar waith i gefnogi’r achos hollbwysig hwn.
Yn ogystal â hyn, cynhaliodd y Coleg sesiynau galw heibio dan arweiniad Lorraine Evans, Ymgynghorydd Lles Staff y Coleg. Roedd y sesiynau hyn yn cynnig man diogel a chefnogol i staff a dysgwyr, ac fe wnaethant gwmpasu testunau megis trais domestig, Canllawiau Trais Domestig y Coleg a’r ystod eang o gymorth sydd ar gael.
"Rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi sicrhau achrediad Rhuban Gwyn a’n bod yn sefyll ochr yn ochr â chymaint o bobl eraill i roi terfyn i drais yn erbyn menywod a merched,” meddai Sarah King, Dirprwy Bennaeth pobl a Lles.
“Mae’r achrediad yn nodi ein hymrwymiad i greu diwylliant o barch, cydraddoldeb a diogelwch. Trwy weithio ag eraill a chodi ymwybyddiaeth, gallwn greu cymuned ddiogel a parchus i bawb yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a thu hwnt.”
Rhuban Gwyn DU: Rhuban Gwyn yw prif elusen y DU sy’n ymgysylltu â dynion a bechgyn i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.