Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cyhoeddi y bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn derbyn un o goed ifanc prosiect ‘Coed Gobaith’ Sycamore Gap. Bydd 49 o goed ifanc yn cael eu rhoi i unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled y DU.
Cyhoeddwyd y derbynwyr yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed, yn dilyn gwahoddiad i dderbyn ceisiadau am goed ifanc (a dyfwyd o hedyn y goeden wreiddiol) ym mis Medi, blwyddyn ar ôl i’r goeden eiconig gael ei dinistrio.
Derbyniodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol bron 500 o geisiadau ar gyfer 49 o goed ifanc - un goeden ifanc i gynrychioli pob troedfedd o uchder y goeden wreiddiol. Mae’r Ganolfan Cadwraeth Planhigion yn gofalu am y coed ifanc ar hyn o bryd ac mae disgwyl i’r coed ifanc fod yn ddigon cadarn a chryf i’w dosbarthu a’u plannu yn ystod gaeaf 2025/26.
Bydd cartrefi newydd y coed ifanc hyn yn fannau cyhoeddus, sy’n golygu bydd llawer mwy o bobl yn gallu uniaethu ag etifeddiaeth eiconig coeden y Sycamore Gap. Bydd ystod eang o bobl a sefydliadau ledled y DU yn derbyn coeden ifanc, gan gynnwys The Rob Burrow Centre for Motor Neurone Disease yn Leeds, Holly's Hope ar y cyd ag Abaty Hexham yn Northumberland, The Tree Sanctuary a Tree Amigos yn Coventry.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae’r tîm Tirlunio ac Eco Adeiladu yn cynnig rhaglenni galwedigaethol i bobl ifanc 14-16 oed ac mae llawer o’r dysgwyr hyn heb brofi perthynas gadarnhaol ag addysg.
Bob wythnos, mae 43 grŵp o ddisgyblion ysgol yn dod i’r Coleg i gael mynediad at gwricwlwm arbennig sydd wedi’i gynllunio i roi gobaith iddynt ar gyfer eu dyfodol. Yn wahanol i weithgareddau traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth, mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn cael cyfle i weithio yn yr awyr agored, dysgu am yr amgylchedd ac ennill sgiliau ymarferol a fydd yn hybu eu hyder a’u sgiliau cyflogadwyedd.
Yn ogystal, mae’r Coleg yn cynnig dau gwrs Diploma - Cwrs Lefel 1 mewn Adeiladu Tirlun a Garddio a chwrs Lefel 2 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol.
Eleni, lansiodd y Coleg yr Hwb Gwyrdd; man dynodedig yn yr awyr agored lle gall fyfyrwyr fynd i ddysgu ac ymlacio ger llyn, twnnel polythen a pherllan - gyda gardd lysiau ar y ffordd. Bydd y goeden ifanc yn cael ei phlannu yn yr Hwb Gwyrdd y flwyddyn nesaf, a bydd Grŵp Ysgolion y Coleg a’r Clwb Amgylchedd yn gyfrifol am ofalu amdani.
Bydd ysgolion cynradd a grwpiau lleol hefyd yn cael eu gwahodd i weld y goeden, gan ddysgu ei stori gan fyfyrwyr y Coleg.
Dywedodd Kirsten Collins, Rheolwr Maes Dysgu Cynorthwyol y Coleg ar gyfer y Rhaglen ysgolion 14-16:
“Fe wnaeth y newyddion trychinebus am y goeden Sycamore Gap gael effaith ar ein staff, gan gryfhau’r cysyniad bod addysg yn hanfodol i warchod ein hamgylchedd a’n hanes. Bydd y goeden ifanc yn rhoi hunaniaeth i’n Hwb Gwyrdd a bydd yn symboleiddio adnewyddiad, gobaith, twf a nerth. Bydd yn sbarduno sgyrsiau a straeon am y goeden wreiddiol, ei hunaniaeth a’i chyswllt â’r coed ifanc eraill. Yn ogystal, bydd yn gyfle i ni adrodd ein straeon ein hunain, gan ymfalchïo yn lle’r ydyn ni yn y byd, er gwaethaf yr heriau a wynebwn. Mae’n gyfle i ystyried ein cysylltiad â byd natur a’r effaith rydyn ni’n ei gael ar y blaned.
“Bydd y goeden yn arf dysgu pwerus a fydd yn tyfu gyda ni, Bydd yn symbol o’n hadran, ein Coleg a’r gymuned ehangach a ofalir ac a feithrinir gan ein myfyrwyr, yn yr un modd ag y maen nhw’n cael eu meithrin a’u gofalu gan ein staff anhygoel.”
Dywedodd Andrew Poad, Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer eiddo Wal Hadrian: “Mae pob cais am ‘Goeden Gobaith’ yn adrodd stori a chysylltiad emosiynol â’r Goeden Sycamore Gap a phwysigrwydd natur. Maent yn sôn am golled, gobaith ac adfywio ac rydym wedi derbyn ceisiadau gan drefi, ysgolion, colegau, grwpiau cymunedol, ysbytai a hosbisau ledled y wlad. Braint oedd darllen pob un ohonynt.
“Roedd y goeden yn bwysig iawn i gymaint o bobl a thrwy fenter ‘Coed Gobaith’, byddwn ni’n helpu pobl ledled y wlad am genedlaethau.
“Mae gan bob un o’r coed ifanc neges o obaith gan eu bod yn cynrychioli pennod newydd, nid yn unig i’r goeden ond i bob un o’r 49 o bobl a chymunedau a fydd yn derbyn coeden ifanc y flwyddyn nesaf.”
Cafodd y ceisiadau eu hasesu gan banel o arbenigwyr o’r Ymddiriedolaeth genedlaethol, dan arweiniad barnwr annibynnol a’r arbenigwraig coedyddiaeth, Catherine Nuttgens.
Dywedodd Catherine: “Roedd y Sycamorwydden yn un o’r coed mwyaf prydferth ein gwlad o safbwynt pensaernïaeth. Yn ystod yr haf, byddai dail gwyrdd tywyll y goeden yn creu siapau tebyg i frocoli, ac yn y gaeaf byddai’r gaeden yn creu silwét o’r hyn rydyn ni’n ei weld pan fyddwn yn meddwl am goeden.
“Gall colli unrhyw fath o gaeden ysgogi emosiynau cryf - yn enwedig y goeden Sycamore Gap. Roedd ei dinistrio yn hollol hurt, ac fe wnaeth y person a’i dinistriodd ddifetha’r hwyl a ddaeth i gymaint o bobl. Ond, mae ‘Coed Gobaith’ wedi cadw’r ymdeimlad o obaith a llawenydd yn fyw, ac mae darllen yr holl geisiadau wedi codi fy nghalon. Er hyn, mae dewis 49 cais penodol wedi bod yn dasg anodd.
“Rydym wedi derbyn straeon o bob cwr o’r DU gan unigolion o bob cefndir. Mae eu straeon yn adlewyrchiad o garedigrwydd a gobaith y ddynol ryw, ac mae’r ceisiadau yn ymateb addas iawn i golli’r goeden werthfawr hon.”
Am ragor o wybodaeth ac i ddarganfod ble yn y wlad bydd pob un o’r ‘coed gobaith’ yn cael eu plannu, ewch i www.nationaltrust.org.uk/TreesOfHope.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Elusen gadwraeth annibynnol yw’r Ymddiriedolaeth genedlaethol a sefydlwyd yn 1895 gan dri unigolyn: Octavia Hill, Syr Robert Hunter a Hardwicke Rawnslaey. Roedd yr unigolion hyn yn parchu treftadaeth a chefn gwlad ac roeddent am warchod y rhain er mwyn rhoi cyfle i bawb eu mwynhau. Erbyn hyn, rydym yn parhau i warchod ardaloedd gwledig ledled Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon fel y gall pobl a bywyd gwyllt ffynnu.
Rydym yn gofalu am fwy na 250,000 hectar o dir cefn gwlad, 780 milltir o arfordir, 1 miliwn o eitemau a 500 o eiddo, gerddi a gwarchodfeydd natur hanesyddol. Yn 2023/24 fe dalodd 25.3 miliwn o bobl pris mynediad i’n safleoedd. Mae’r Ymddiriedolaeth genedlaethol i bawb - sefydlwyd y fenter er lles y genedl gyfan ac mae 5.38 miliwn o aelodau, cyllidwyr, rhoddwyr a degau o filoedd o wirfoddolwyr yn cefnogi ein gwaith er mwyn gofalu am natur, harddwch a hanes i bawb, am byth.