Cafwyd noson arbennig o gerdd a chân yn ddiweddar yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wrth i ni gynnal cyngerdd elusennol i gefnogi’r frwydr yn erbyn Clefyd Niwronau Motor (MND).
Yn ystod y digwyddiad - a gynhaliwyd ar Gampws Tycoch - cafodd côr meibion Gwalia Singers, Abigail Rankin, Isobel McNeill a Carys Morgan (myfyrwyr) gyfle i berfformio.
Fe wnaeth Gwalia Singers, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cerddorol Matthew Ioan Sims MA ac yng nghwmni Rhian Liles MMus (Anrh) ddiddanu’r dorf, gan ganu detholiad hyfryd o ganeuon megis There Is A Land, You Raise Me Up ac O Gymru.
Dan arweiniad Jon Rogers, Arweinydd Cwricwlwm, fe wnaeth tri o fyfyrwyr y Coleg, Abigail, Isobel a Carys, ganu detholiad o ddarnau unigol ac un darn fel triawd, I Wish I May o The Witches of Eastwick.
Fe wnaeth y digwyddiad arddangos doniau cerddorol rhyfeddol y perfformwyr, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o MND, clefyd sy’n effeithio ar gelloedd y nerfau yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn.
“Roedd y digwyddiad yn wych ac roeddem wrth ein bodd o fedru ei gynnal yn y Coleg,” dywedodd Kelly Fountain, Pennaeth y Coleg. “Mae’n galonogol iawn gweld sut y gall ein cymuned leol gydweithio mew ffyrdd sy’n hybu’r achos hwn. Diolch i bawb a fynychodd, a gyfrannodd, a noddwyd ac a wnaeth y digwyddiad hwn yn bosib.”
Noddwyr y noson:
Swansea Vale 4X4 Ltd
Cymdeithas Adeiladu Abertawe
Peter Lynn and Partners
The Printers
Mumbles Telephone Company
Dawsons Estate Agent
Clwb Rygbi Bôn-y-maen
Bydd elw’r noson yn cael ei gyflwyno i’r Gymdeithas MDD. Am ragor o wybodaeth am yr elusen, neu os hoffech gyfrannu, ewch i https://www.mndassociation.org/